Cwmni dronau yn bwriadu ehangu'r gweithlu yng Ngheredigion

AR3
Disgrifiad o’r llun,

Drôn AR3 yn paratoi i gael ei lansio o faes awyr Gorllewin Cymru yn Aberporth

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni uwch-dechnoleg o Bortiwgal, sydd wedi adeiladu dronau ar gyfer y rhyfel yn Wcráin, wedi creu 30 o swyddi yng Ngheredigion ac mae'n bwriadu ehangu ymhellach.

Mae Tekever yn bwriadu creu cyfanswm o 200 o swyddi yn Aberporth a Southampton dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r drôn AR3, sydd yn medru hedfan am 16 awr, yn cael ei gynhyrchu a'i brofi ym Mharc Aberporth ger Aberteifi.

Mae'r drôn yn medru hedfan dros y môr a'r tir am 16 awr or uchder o 4000 o droedfeddi.

Disgrifiad o’r llun,

Un o weithwyr Tekever yn gweithio ar yr AR3

Yn gynharach eleni, cafodd llun o'r drôn ei ddefnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn mewn cyhoeddiad, dolen allanol am gyfrannu £60m tuag at y gost o ddarparu dronau gwylio cudd.

Mae modd lansio'r drôn o'r ddaear gyda chymorth catapwlt neu mae'n medru codi o'r unfan fel hofrennydd, gyda'r offer cywir.

Doedd cwmni Tekever ddim yn barod i gadarnhau bod y dronau sydd yn cael eu cynhyrchu yn Aberporth yn cael eu defnyddio gan fyddin Wcráin.

Mae'r AR3 hefyd yn cael ei ddefnyddio i gadw golwg ar ardaloedd arfordirol neu is-adeiledd ynni fel pibelli olew a nwy.

Mae'r cwmni wedi cadarnhau bod ei dronau yn cael eu defnyddio yn Wcráin ar gyfer gwaith cuddwylio a chuddwybodaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Gweithiwr yn ffatri Tekver ym Mharc Aberporth

Mae creu ac adeiladu'r AR3 yn golygu gwaith peirianyddol manwl, gan fod pob un o'r cydrannau yn gorfod bod yn bwysau arbennig, fel bod y drôn yn medru hedfan yn effeithiol.

Fe grewyd Parc Aberporth yn 2006 gan Awdurdod Datblygu Cymru, fel lle i brofi a datblygu awyrennau di-griw.

Mae yna gyfyngiadau hedfan arbennig yn yr ardal sydd yn golygu bod modd hedfan dronau heb ganiatâd arbennig.

Cafodd drôn Watchkeeper byddin Prydain, a adeiladwyd gan gwmni Thales, ei brofi ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Safle Tekever ger y maes awyr yn Aberporth

Yn ôl Matthew Biginton, sydd yn gyfrifol am y safle ac sydd yn arwain ar ymchwil a datblygu, mae'r cwmni wedi cyflogi nifer o bobl yr ardal.

"Mae'r mwyafrif helaeth yn dod o'r ardal. Ry'n ni wedi cyflogi pobl o fyd manwerthu, ffatrïoedd pacio bwyd anifeiliaid, garejis, ac wedi rhoi swyddi technoleg uwch iddyn nhw," meddai.

"Mae sawl un bellach ar gyrsiau gradd. Mae nifer yn cael eu hyfforddi yn fewnol ac yn mynd i Bortiwgal i gael hyfforddiant.

"Mae hwn yn gwmni technoleg uwch, ac mae pobl yn cael sgiliau newydd. Mae cael cwmni fel hwn ar garreg y drws yn dod a phobl i'r ardal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Morgan Brandy-Phillips, 19, wedi cael prentisiaeth gyda Tekever

Mae Morgan Brandy-Phillips yn 19 oed ac yn dod o Aberaeron. Mae wedi cael ei gyflogi fel prentis gan Tekever.

"Rhyw flwyddyn yn ôl, fe wnes i orffen fy arholiadau lefel A, ac roedd Dad yn gwneud gwaith adeiladu yn y maes parcio.

"Fe ofynnodd e a oedd swyddi ar gael. A dyma fi, erbyn hyn, yn gweithio yma.

"Rwy'n dechrau cwrs electroneg wythnos nesaf a dwi'n gwneud llawer o electroneg fan hyn gyda rhai o'r bois sydd wedi gwneud e ers blynyddoedd. Mae'n neis i weld y drôn wedyn ar yr airfield."

Disgrifiad o’r llun,

Yr AR3 yn cael ei adeiladu yn y ffatri yn Aberporth

Mae'r cwmni yn bwriadu ehangu'r gweithlu ym Mhrydain.

Scott McClelland yw Dirprwy Gyfarwyddwr Tekever ac meddai: "Rydym wedi sefydlu safle ymchwil a datblygu, ac wedi dechrau adeiladau dronau.

"Dyna'r tro cyntaf mae hynny wedi digwydd tu allan i Bortiwgal.

"Rydym wedi dyblu'r gweithlu ym Mhrydain dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae 'da ni 30 o staff. Ry'n ni am ehangu a datblygu ym Mhrydain. Dyma'r cam cyntaf tuag at hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Scott McClelland yw Dirprwy Gyfarwyddwr Tekever

'Creu cyfleoedd'

Mae'r Cynghorydd Sir lleol, Clive Davies, wedi croesawu'r buddsoddiad.

"Mae hwn yn ychwanegiad gret i'r ardal. Mae'n creu cyfleoedd i bobl sydd yn byw yn yr ardal a phobl sydd am ddod nol i fyw yn yr ardal.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i ni gryfhau'r cysylltiadau rhwng cwmnïau fel hyn a'r ysgolion - edrych pa gyfleon sydd yna i fyfyrwyr yn yr ysgol ddod i weithio mewn lle fel hyn.

"Mae yna ffordd i bontio rhwng ein hysgolion ac addysg bellach, er mwyn trafod pa sgiliau maen nhw'n chwilio amdano."

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Clive Davies tu allan i Barc Aberporth

Mae Clive Davies yn gobeithio y bydd Tekever yn denu cwmnïau eraill i Barc Aberporth.

"Rwy'n gobeithio y bydd mwy o gwmnïau tebyg yn gallu gweithio fel clwstwr i ddefnyddio'r adnoddau arbenigol sydd gyda ni yng ngorllewin Cymru," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig