Pla chwilod duon yn cau cegin ysbyty dros dro

Mae'r pla chwilod duon wedi effeithio ar rannau o brif gegin Ysbyty Singleton meddai'r bwrdd iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae cegin mewn ysbyty wedi ei gau dros dro yn dilyn pla o chwilod duon.
Mae'n rhaid i fwyd gael ei baratoi oddi ar y safle a'i ddosbarthu i Ysbyty Singleton yn Abertawe.
Fe gafodd y pla ei ddarganfod mewn ardal o dan yr ysbyty, sydd wedi effeithio ar rannau o'r brif gegin.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Bae Abertawe mae'r "holl fwyd gafodd ei baratoi'n flaenorol" yn Singleton a bwyd wedi'i storio mewn rhewgelloedd wedi cael eu "gwaredu rhag ofn".

Mewn datganiad fe ddywedon nhw hefyd nad ydy hyn wedi effeithio ar unrhyw brydau cleifion ac mae'r ystafell fwyta a'r siop goffi yn parhau i fod ar agor.
Fe bwysleision nhw nad ydy'r pla wedi effeithio ar unrhyw ardal glinigol a'u bod yn "gweithio'n galed i gael gwared ar y pla, gan gydweithio'n agos â Swyddog Iechyd yr Amgylchedd".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2017