'Pryderon mawr' am ofal mamolaeth yn Ysbyty Singleton

Ysbyty SingletonFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiad newydd gan y corff sy'n cynrychioli cleifion yng Nghymru wedi amlinellu "pryderon mawr" am brofiadau "gofidus" nifer o fenywod o ofal mamolaeth ym mwrdd iechyd Bae Abertawe.

Clywodd y corff Llais gan dros 500 o unigolion am eu profiadau o wasanaethau ar gyfer mamau a babanod newydd-anedig yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

Soniodd rhai mamau eu bod wedi cael eu "gadael ar eu pennau ei hun" wrth esgor baban tra bod eraill wedi rhoi genedigaeth y tu allan i ardaloedd dynodedig.

Dywedodd rhai eu bod wedi penderfynu peidio cael plentyn arall o ganlyniad i'r profiadau gafon nhw.

Clywodd yr adroddiad hefyd am gyfres o wendidau yn niogelwch, safon ac urddas y gofal a gafodd mamau ynghyd â phryderon nad oedd staff yn barod i wrando arnyn nhw.

Doedd profiad yr un o'r rhai a siaradodd â Llais am y gofal yn gwbl bositif.

Er bod Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn mynnu bod nifer o welliannau wedi digwydd yn ddiweddar i wasanaethau i famau a babanod, mae Llais yn dweud fod angen mwy o newid "diwylliannol a chlinigol ac o ran arweinyddiaeth".

Y tu hwnt i'r adroddiad hwn mae adolygiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd yn digwydd ar hyn o bryd - gyda disgwyl i hwnnw gael ei gyhoeddi yn yr haf.

Fe gafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan y bwrdd iechyd wedi i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru amlygu ffaeleddau a gwendidau sylweddol yn y gwasanaethau yn 2023 a 2024.

Ond y tu hwnt i'r adolygiad hwnnw roedd Llais am roi cyfle i ragor o deuluoedd rannu eu profiadau.

Cafodd y profiadau hynny eu casglu drwy gynnal cyfres o arolygon, grwpiau ffocws a chyfweliadau.

Amlygwyd pryderon mewn sawl maes.

'Geni yn y toiled'

Dywedodd llawer a rannodd eu straeon eu bod yn teimlo y gallai eu diogelwch neu ddiogelwch eu babanod fod mewn perygl.

Ymhlith y straeon mwyaf gofidus - achosion o fenywod yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain yn ystod esgor neu'n rhoi genedigaeth y tu allan i ardaloedd dynodedig.

"Y profiad (gefais i) yw un o'r prif resymau pam 'na fyddaf yn cael mwy o blant - ni allaf fynd trwy hynny i gyd eto," medd un fam.

Dywedodd un arall: "Yn ystod y geni, ni chefais fy ngwirio am ddwy awr. Es i'r toiled a chanu'r llinyn brys. Rhoddais enedigaeth yn y ciwbicl toiled hwnnw."

'Nodiadau anghywir'

Adroddodd ychydig dros dri chwarter yr unigolion a gafodd eu holi (76%) bod ganddynt brofiad negyddol neu bod methiant yn ansawdd y gofal ac roedd rhai yn teimlo eu bod nhw "ar goll" yn y system.

Clywodd Llais enghreifftiau o nodiadau meddygol yn cael eu rhannu â phobl anghywir a hynny'n torri cyfrinachedd.

"Darllenon nhw'r nodiadau anghywir ac roedd yn rhaid i fi ddweud nad fi oedd hi," medd un fam.

"Roeddwn i wedi fy ngorchuddio â gwaed ac wedi fy ngadael," medd un arall.

"Roeddwn i'n ddarn o gig wedi'i adael ar y gwely. Roedd un person yn tynnu fy nillad i ffwrdd ac un arall yn mewnosod cathetr. Roeddwn i'n noeth heb fy ngorchuddio."

'Nid Hilton yw e'

Fe glywodd Llais enghreifftiau o staff yn darparu gofal tosturiol, proffesiynol a chefnogol ond roedd y rhain yn aml yn gysylltiedig â staff penodol.

Soniodd eraill am ddiwylliant "diystyriol" lle'r oedd pobol yn teimlo nad oedd eu poen a'u pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif.

Ymhlith y sylwadau roedd: "Ni ddywedodd (fy mydwraig) mwy na dau air wrthyf i na fy mhartner yn ystod yr holl 12 awr oedd hi yn yr ystafell gyda ni. Roedd hi'n eistedd yn y gornel ar ei ffôn oni bai ei bod hi'n mynd allan am seibiadau."

"Gofynnais i gael bath a chefais fy marnu am hynny. Gofynnais am obennydd a dywedwyd wrthyf 'Beth wyt ti'n feddwl yw hyn? Nid y Hilton yw e'."

Thema gyson a phryderus iawn, ychwanegodd Llais, oedd yr argraff nad oedd staff yn gwrando hyd yn oed pan fo mamau yn codi pryderon difrifol am eu hiechyd eu hunain neu les y babi.

"Roeddwn i dan arweiniad ymgynghorydd a chefais ddamwain yn y car.

"Fe wnes i eu ffonio nhw i ddweud fod symudiadau (y babi) wedi lleihau.

"Ac fe ddywedon nhw wrthai am gymryd paracetamol a gorffwys... yna fe ddarganfyddais yn ddiweddarach mai damwain yw un o brif achosion toriad brych.

"Dyna sut collon ni ein mab mewn gwirionedd. Dydyn nhw ddim yn gwrando."

SingletonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o welliannau wedi'u cyflwyno yn ddiweddar yn yr adran gofal mamolaeth

Soniodd rhai mamau am fethiannau yn y gofal gafon nhw ar ôl geni gyda menywod yn teimlo eu bod wedi cael eu "hesgeuluso, heb gefnogaeth neu'n anniogel" yn y dyddiau ar ôl genedigaeth.

"Roedd rhaid i mi gerdded drwy ddwy ward i gyrraedd fy mabi ar ôl y llawdriniaeth - yna cwympais yn y dderbynfa," meddai un fam.

"Doeddwn i ddim yn gallu cyrraedd y ward i weld fy mabi, dywedon nhw wrtha i 'pam nad wyt ti lawr yna'n bwydo dy fabi, dy blentyn di ydi e ti'n gwybod'."

Mae Llais hefyd yn nodi cyfres o bryderon am lefelau staffio, dryswch yn y broses o wneud cwyn a rhwystrau gafodd eu hwynebu gan rai unigolion o gefndiroedd ethnig.

Camau nesaf

Mae Llais yn cydnabod fod Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cyflwyno nifer o welliannau a chynyddu buddsoddiad yn sylweddol yn y gwasanaethau mamolaeth ers i bryderon ddod i'r amlwg yn y lle cyntaf.

Mae'r corff yn nodi fod prif weithredwr y bwrdd iechyd wedi ailadrodd ymddiheuriad ar ran y bwrdd i'r rhai a gafodd brofiadau gwael.

Ond mae Llais yn galw am gydnabyddiaeth ffurfiol gan y bwrdd o raddfa a natur y problemau gan alw hefyd ar y bwrdd iechyd i ymrwymo i ddatblygu cynllun newid diwylliannol ochr yn ochr â'r gwelliannau clinigol a phrofiad cleifion sydd eisoes yn cael eu gwneud.

Y tu hwnt i hynny bydd Llais yn cyflwyno sylwadau i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull cenedlaethol o gefnogi pobl sydd wedi cael eu niweidio gan ofal mamolaeth wael.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, yn ymateb i'r adroddiad yn ddiweddarach.

Ymatebion

Dywedodd Medwin Hughes, Cadeirydd Llais: "Mae'r lleisiau yn yr adroddiad hwn yn dangos yr heriau a'r cyfleoedd ar gyfer newid. Yr hyn sydd ei angen nawr yw arweinyddiaeth barhaus ar draws y system i wneud yn siŵr bod y profiadau hynny'n cael eu clywed a'u gweithredu arnynt."

Dywedodd Jan Williams, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe: "Rydym yn ddiolchgar i Llais am yr adroddiad hwn ac nid ydym yn tanamcangyfrif pa mor anodd y bydd ail-fyw profiadau negyddol o'n gwasanaethau wrth gyfrannu wedi bod.

"Dyna pam yr hoffem ymddiheuro unwaith eto i gydnabod y trawma a'r straen a ddioddefwyd gan unigolion â phrofiad gwael neu ganlyniadau niweidiol.

"Rydym hefyd yn croesawu cydbwysedd cyfartal yr adroddiad â'r enghreifftiau da o ofal a phrofiad, ac yn cytuno bod angen i'r rhain fod yn llawer mwy cyson."

Ychwanegodd Abi Harris, Prif Weithredwr: "Rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar gryfhau ein gwasanaethau ac mae adroddiad Llais yn cydnabod llawer o'r gwelliannau a wnaed.

"Mae'r Adolygiad Annibynnol o'n gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar fin digwydd a bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Gorffennaf.

"Mae Llais wedi rhannu ei ganfyddiadau gyda'r Adolygiad Annibynnol a bydd y rhain yn cael eu hystyried ochr yn ochr ag amrywiaeth o fewnbynnau eraill."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod diogelwch cleifion yn "hollbwysig yn GIG Cymru a'n prif bryder yw lles mamau a babanod."

"Mae gwaith sylweddol yn mynd rhagddo i wella diogelwch ac ansawdd gwasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe, ond fel y mae adroddiad Llais yn nodi, mae mwy i'w wneud o hyd i wella'r profiadau i bob merch.

"Rydym yn comisiynu Perfformiad a Gwelliant y GIG i ddechrau asesiad o ddiogelwch ac ansawdd holl unedau mamolaeth Cymru i fesur effaith yr ymyriadau diweddar a wnaed."

Pynciau cysylltiedig