Dirglewch y casét mewn carafan

- Cyhoeddwyd
Pwy yw Smaragdus? Dyna ddirgelwch sydd wedi bod yn creu cur pen i un cerddor o Ynys Môn.
Chwe blynedd yn ôl fe wnaeth Donna Lee, sy'n aelod o fand y Sister Wives, ddarganfod casét wrth lanhau ei charafán.
Roedd y casét wedi'i labelu gyda'r gair Smaragdus ac yn cynnwys traciau electroneg gyda chysylltiadau agos ag Ynys Môn.
Dywedodd Donna ar raglen Rhys Mwyn, BBC Radio Cymru: "Nes i brynu carafán gan ffrindiau tua 10 mlynedd yn ôl a ffeindio tapiau a hen lyfrau mewn bocs.
"Nes i ffeindio tapiau Smaragdus efo traciau demos hefo enwa fatha Lligwy, Bryn Celli Ddu a Bodowyr arnyn nhw.
"Nes i wrando arnyn nhw ac roedden nhw mor unusual, dwi erioed 'di clywed dim byd fatha fo," meddai.
Ers hynny mae Donna wedi bod yn chwilio ac apelio am gymorth i drio darganfod y person, neu bobl y tu ôl i Smaragdus.

Dyma lun o'r casét gwreiddiol
Mae'r garafán wedi bod gan Donna ers 10 mlynedd ond wrth godi a glanhau dan y gwely y daeth hi ar draws y bocs llawn o drysorau.
"Mae'n amlwg fod llefydd Ynys Môn yn hynod o bwysig iddyn nhw (Smaragdus) ac maen nhw'n ganeuon difyr ofnadwy.
"Dyda ni ddim yn gwybod os mai person unigol, cwpwl neu fand oedden nhw.
"Ond mae 'na sŵn analog iawn iddi sy'n gneud i mi feddwl mai'r cyfnod ydi'r 80au cynnar," meddai.
Yr enwau sydd ar y traciau yw - Lligwy, Pant y Saer, Carreg Lleidr, Bodowyr, Bryn Celli Ddu a Barclodiad y Gawres.

Roedd Dr Tristan Evans yn westai ar raglen Rhys Mwyn
Roedd Donna wedi cael ei gwahodd ar raglen Rhys Mwyn i gyfrannu mewn sgwrs a oedd yn ymwneud â phrosiect gan Dr Tristan Evans o'r enw Mapio Miwsig Môn.
Dywedodd Dr Evans ar y rhaglen: "Adnodd dwi'n datblygu fel rhan o brosiect ehangach o'r enw llwyfan map cyhoeddus ydi hwn.
"Mae'n brosiect ymchwil cydweithredol ar Ynys Môn lle dwi'n datblygu platfform map digidol a gweithio efo cymunedau, plant a phobl ifanc.
"Fel rhan o fy ngwaith fel mapiwr cymunedol a mapiwr diwylliannol ym Mhrifysgol Wrecsam, dwi wedi datblygu adnodd lle dwi'n chwilio am gerddoriaeth sy'n cysylltu efo lleoedd Môn," meddai.
Mae gan Tristan ddiddordeb ymchwilio i sut mae cerddoriaeth wedi cael ei ysbrydoli gan bob math o leoedd fel traethau, henebion, caffis, afonydd a hefyd sut mae'r lleoedd yma'n cysylltu efo pobl a chwedlau.
Unwaith y bydd y map wedi'i orffen, bydd modd wedyn i bobl ychwanegu eu straeon eu hunain iddo.
"Mi fydd o'n fap cyhoeddus lle fedra pobl gael mynediad ato ac ychwanegu gwybodaeth.
"Sail y prosiect ydi i wneud penderfyniadau cynllunio dibynadwy, tryloyw a chymryd llais plant a phobl ifanc a chymunedau i mewn iddo, felly mae 'na lot o gyd-weithredu efo'r cymunedau," meddai.

Mae un o'r traciau wedi'i enwi ar ôl Bryn Celli Ddu
Roedd gan Tristan ddiddordeb mawr yn stori Donna ac yn y cysylltiadau â Môn.
Wrth geisio dod o hyd i'r sawl sy'n gyfrifol am y gerddoriaeth mae gwaith ymchwil Donna a'i gŵr, Rob yn parhau.
Mae'r ddau wedi creu samplau newydd o'r hyn sydd ar y casét ac yn perfformio'r caneuon sydd bellach ar gael i wrando arnyn nhw'n ddigidol.
Yn ôl Donna mae llais merch i'w chlywed ar un o'r traciau, sy'n gwneud iddi feddwl fod merch wedi bod yn rhan o'r prosiect gwreiddiol.
Un eglurhad arall o bosib mae Donna yn ei ystyried yw bod y gwaith wedi dod o'r Almaen.
Mae Donna wedi ceisio darganfod hanes y garafán cyn iddi ddod i Ynys Môn ac roedd dyddiau cynnar y garafán yn yr Almaen.
Mae hi'n ystyried o bosib bod perchennog y garafán yn mwynhau dod i Ynys Môn ar wyliau ac ymweld â'r llefydd sydd wedi'i henwi fel teitlau'r caneuon.
Mae'n ddirgelwch sydd wedi bod yn codi cwestiynau i Donna ers bron i 10 mlynedd, ond mae hi'n parhau i berfformio samplau o'r caneuon sydd ar y casét gwreiddiol gan obeithio, un diwrnod, y byddai rhywun yn adnabod y caneuon a datgelu pwy neu beth oedd Smaragdus.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2016