Teyrnged i daid 'anhygoel' fu farw mewn gwrthdrawiad

Ian WinderFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ian Winder, 46, wedi gwrthdrawiad yn Y Porth dydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf wedi rhoi teyrnged i "dad, taid, mab, brawd ac ewythr anhygoel".

Bu farw Ian Winder, 46, wedi gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta glas a Citroen Berlingo arian ar yr A4233 yn Y Porth dydd Mercher diwethaf.

Dywedodd teulu Mr Winder, oedd yn dad i bedwar ac yn daid i ddau, eu bod wedi'u "llorio" gan ei golled.

"Fe wnaeth ei gynhesrwydd, ei garedigrwydd a'i gariad gyffwrdd pawb a gafodd y fraint o'i 'nabod," meddai'r teulu.

'Goleuo pob ystafell'

Ychwanegon nhw: "Roedd yn ddyn ofnadwy o ddoniol, gyda'i hiwmor cyflym a direidus.

"Roedd gan Ian ffordd o oleuo pob ystafell, nid yn unig gyda'i chwerthin, ond gyda'i bresenoldeb cryf a'i gymeriad bythgofiadwy.

"Daeth â llawenydd, cysur a chryfder i'w deulu a'i ffrindiau bob dydd."

Fe wnaeth y teulu hefyd ddiolch i swyddog cyswllt teulu Heddlu'r De ac i bawb sydd wedi cysylltu â nhw am eu cefnogaeth.

Mae Heddlu'r De yn parhau i apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig