Y band pync sy’n gweiddi neges y Māori
- Cyhoeddwyd
Sut beth yw hi i berfformio mewn iaith leiafrifol?
Dyma yw testun prosiect ymchwil newydd ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd yma yng Nghymru a Phrifysgol Waikato yn Aotearoa (Seland Newydd), sydd yn edrych ar gerddoriaeth gynhenid y ddwy wlad.
Bwriad Prosiect Pūtahitanga, dolen allanol yw i edrych ar gerddoriaeth Cymraeg a te reo (iaith) Māori, ac un grŵp sydd wedi cael eu holi am eu profiadau yw'r band pync Māori, Half/Time.
Ar ddiwedd cyfnod o gigio yng Nghymru, cafodd Cymru Fyw sgwrs gydag aelodau'r band - Wairehu, Cee a Ciara - am y neges maen nhw'n ceisio ei chyfleu drwy eu cerddoriaeth.
Mamae : Poen
"Yn sylfaenol, bwriad Half/Time yw i gyfathrebu'r profiad o fod yn Māori," eglura Wairehu, "dyna'r cyfan dwi eisiau iddo fod amdano. Efallai fod rhai pobl yn teimlo ein bod ni'n cyfyngu am beth allwn ni siarad, ond mae 'na gymaint allwn ni sôn amdano."
Yn ôl Cee, mae eu caneuon yn mynd i'r afael â phynciau fel gwladychu a'i effaith, ad-hawlio ac ad-fywio iaith, y boen o orfod ail-ddysgu iaith, a'r ffaith fod straeon eu cyndeidiau yn cael eu newid neu eu hanghofio.
Mae'r ymateb maen nhw wedi ei gael yng Nghymru wedi bod yn anhygoel, meddai, ac mae'r gynulleidfa yn aml yn gallu uniaethu gyda rhai o negeseuon eu caneuon.
"Daeth rhywun ata i ar ôl ein set y noson o'r blaen, a dweud eu bod nhw wedi dechrau crio wrth glywed geiriau ein cân Scary stories to tell when you're dark. Y gytgan yw 'Though our bones are in these walls, our homes are not our homes anymore'.
"Roedd y person yn teimlo ei fod 'mor arswydus o gyfarwydd'.
Whawhai : Brwydr
"Dwi'n meddwl fod llawer o'r cysylltiadau rydyn ni wedi eu gwneud gyda phobl yma yng Nghymru yn deillio o fod â'r un frwydr.
"'Ahakoa he rerekē te whenua, kotahi te whawhai.'" (Er ein bod yn byw ar diroedd gwahanol, rydyn ni'n ymladd yr un frwydr)
"Roedd y cyfeillgarwch yn dod yn syth," meddai Wairehu. "Nes i siarad gyda rhywun mewn gig ac egluro mod i'n Māori, a meddai 'rydych chi'n gwneud yr un peth ag ydyn ni, jest draw fan'na'."
Ychwanegodd Cee: "Mae'n gysylltiad mor rhyfedd i gael gyda rhywun… rydyn ni'n dod at ein gilydd ond oherwydd rywbeth sydd mor ddrwg."
Te reo Māori : Iaith Māori
Ar hyn o bryd, dwy o ganeuon y band sydd yn te reo Māori, ond mae'r iaith yn amlwg ym mhob un o'u caneuon, gan fod yr un gân yn gyfangwbl drwy'r Saesneg.
Ar siwrne i ad-hawlio ei iaith mae Wairehu, meddai, ac mae'n dweud ei fod wedi cael sgyrsiau tebyg gyda Chymry sydd yn gwneud yr un fath gyda'r Gymraeg.
"Nes i gael fy magu gyda'r cywilydd 'ma, a ti'n teimlo dy fod ti o ddim werth ei wneud os ti'n methu ei gael yn gywir y tro cynta'. Ond dwi wedi sylweddoli fod yna ffordd i mewn. Mae cerddoriaeth wedi profi i fod yn arf pwerus ar gyfer ymgysylltu ag iaith fy whakapapa (cyndeidiau) trwy berfformio a chydweithio.
"Mae wedi helpu i symud fy meddylfryd o fod yn un o embaras ynghylch fy niffyg gwybodaeth, i un o obaith a chyffro am bopeth sydd gen i eto i'w ddysgu."
Reo : Llais
Fel unig aelod y band sydd ddim o dras Māori, mae Ciara yn teimlo fod ganddi rôl wahanol i'w chwarae i'r ddau arall, ond un bwysig, meddai:
"Dwi'n teimlo'n gryf iawn mai fy rôl yw cefnogi'r ddau arall i adrodd eu stori. Dim fy stori i yw hi ond dwi eisiau iddi gael ei hadrodd. Dwi'n gwybod ychydig o te reo Māori, ond dydi o ddim yn ddigon - dwi eisiau dysgu mwy, a dwi'n mynd i ddysgu mwy."
Roedd dysgu'r iaith fel oedolyn yn brofiad trawsnewidiol i Cee, ond fel yr eglura, nid iaith yw'r unig ffordd i fynegi eu hunaniaeth Māori:
"Mae'n rhaid i ni gofio mai nid yr iaith ei hun yw ein hunig reo (llais). Mae gennym ni gerfiadau sy'n adrodd straeon, chwedlau, patrymau yn ein neuaddau... Mae rhoi pwysau ar bobl i gyfleu eu hunain mewn un ffordd yn unig, sef i siarad yr iaith, yn ein dal yn ôl."
Kaupapa : Ethos
Â'u cyfnod yng Nghymru yn tynnu at ei derfyn, mae'r criw yn dychwelyd i Aotearoa yn llawn cynlluniau a gobeithion i ysgrifennu a recordio mwy o ganeuon, ac i berfformio mwy o amgylch eu gwlad eu hunain. Ond fel y dyweda Ciara, beth bynnag sydd o'u blaenau, bydd daliadau'r band yn parhau:
"Un peth mae'r daith yma wedi ei brofi i ni ydi, ydyn, rydyn ni eisiau chwarae mewn llawer o lefydd, ond beth sydd yn bwysicach ydi i bwy a sut rydyn ni'n chwarae.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i bob un ohonon ni ein bod ni'n cadw at ein kaupapa (ethos), ac yn cefnogi pobl sydd yn teimlo'r un fath. I mi, mae o llai am y lle, a mwy am y bobl a pham ti'n ei 'neud o."
"Os ydyn ni'n chwarae mewn lleoliadau cŵl ar y ffordd, grêt," ychwanega Cee. "Ond ar ddiwedd y dydd, beth rydyn ni eisiau ei wneud ydi creu cymuned."
Hefyd o ddiddordeb: