Nyrs mewn uned babanod yn euog o ffugio cymwysterau
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gafodd ei chyhuddo o ddweud celwydd am ei chymwysterau a’i phrofiad er mwyn cael swydd nyrsio mewn uned babanod newydd-anedig yn ne Cymru wedi’i chael yn euog o dwyll.
Roedd Tanya Nasir, 45 o Sir Hertford, yn gwadu naw cyhuddiad o dwyll a thwyll drwy gynrychiolaeth ffug.
Roedd Nasir wedi honni iddi drin achosion meddygol brys yn y fyddin a'i bod bron wedi ei saethu ddwywaith yn Afghanistan.
Ond clywodd Llys y Goron Caerdydd ei bod wedi twyllo penaethiaid, cydweithwyr a ffrindiau agos.
Cafwyd Nasir yn euog o'r naw cyhuddiad yn ei herbyn.
Mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tan iddi gael ei dedfrydu ar 24 Medi.
Mae Nasir o Rickmansworth yn fam i ddau o blant, a chafodd ei phenodi yn rheolwr ward babanod newydd-anedig Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi 2019.
Bedwar mis ar ôl iddi ddechrau gweithio roedd gan Fetron yr uned amheuon amdani wedi i'w chod cofrestru nyrsio ddangos ei bod wedi cymhwyso bedair blynedd yn ddiweddarach na'r hyn a oedd yn cael ei nodi ar ei ffurflen gais.
Fe ddechreuodd yr ysbyty gynnal ymchwiliad a daeth i'r amlwg fod Nasir wedi dweud nifer o gelwyddau am ei bywyd a'i phrofiad nyrsio.
Cafodd ei gwahardd o'i gwaith ond ymddiswyddodd ddau ddiwrnod cyn y gwrandawiad disgyblu yn yr ysbyty.
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
Yn ystod yr achos clywyd bod Nasir wedi ffugio ei geirda ar gyfer swydd rheolwr uned babanod newydd-anedig gan ddefnyddio cyfrif e-bost Maureen Westphal, nyrs yr oedd wedi gweithio gyda hi yn Ysbyty Hillingdon yn Llundain.
Yn y geirda ysgrifennodd mai Ms Westphal oedd ei rheolwr llinell. Nid oedd hynny'n wir.
Roedd Ms Westphal wedi gadael ei swydd llawn amser ddeg mis cyn i'r geirda gael ei ysgrifennu ond roedd ei chyfrif e-bost yn parhau i fod yn weithredol oherwydd ei bod yn dal i fod yn aelod o staff achlysurol.
Pan gafodd ei chyfweld gan Ymchwilwyr Gwrth Dwyll y GIG, dywedodd Maureen Westphal nad hi oedd wedi ysgrifennu'r geirda.
Mewn datganiad dywedodd Ysbyty Hillingdon: "Roedd cyfrif e-bost Ms Westphal yn parhau yn weithredol oherwydd ei chysylltiad gyda'n banc staffio.
"O ran Ms Nasir, mae ein cofnodion yn dangos na chodwyd unrhyw bryderon ffurfiol am ei chymwysterau na'i phrofiad.
"Cafodd ein proses recriwtio safonol ei ddilyn yn yr achos hwn ac mae hynny'n cynnwys gwirio geirda a chymwysterau yn drylwyr,
"Rydym wedi ymrwymo i adolygu a gwella ein gweithdrefnau er mwyn cynnal y safonau gofal uchaf a diogelwch cleifion.”
Dywedodd Nasir wrth Ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr ei bod hefyd wedi treulio pum mlynedd yn gweithio yn uned babanod newydd-anedig Ysbyty Chelsea a Westminster yn Llundain ond roedd hynny hefyd yn gelwydd.
Mwy o honiadau ffug
Pan gafodd cartref Nasir yn Aberhonddu ei archwilio gan yr heddlu ar ôl iddi gael ei harestio ym mis Ebrill 2021 cafodd tystysgrifau a diplomâu ffug eu canfod.
Dywedodd Ms Nasir wrth y panel cyfweld yn Ysbyty Tywysoges Cymru ei bod yn aelod o'r Fyddin Wrth Gefn.
Roedd Nasir wedi bod yn gwirfoddoli gyda Llu Cadetiaid y Fyddin am gyfnod byr, ond methodd brawf ffitrwydd i ymuno â'r fyddin.
Yn ystod yr achos dywedodd cynrychiolydd ar ran y fyddin nad oedd Nasir erioed wedi gwasanaethu gyda nhw na'r Fyddin Wrth Gefn. Nodwyd chwaith nad oedd hi erioed wedi gwirfoddoli tramor.
Dywedodd Nasir hefyd ei bod wedi gwasanaethu ar ynys Diego Garcia yng nghefnfor India ac yn Haiti, Syria, Kosovo, Kenya ac Irac.
Honnodd ymhellach ei bod wedi gweithio gydag elusennau mewn gwledydd lle oedd rhyfel - yn eu plith Oxfam a'r Groes Goch ond doedd gan yr elusennau hynny ddim cofnod.
Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Yn ystod y cyfnod byr iawn yr oedd Ms Nasir yn gweithio ac yn bresennol yn ei rôl yn Ysbyty Tywysoges Cymru, prin iawn oedd ei chyswllt a babanod a'u teuluoedd.
"Yn dilyn ymchwiliad mewnol manwl, gallwn gynnig sicrwydd i'r teuluoedd oedd gyda ni ar y pryd, na chafodd unrhyw niwed ei achosi o ganlyniad i gyflogaeth Ms Nasir yn yr uned."