Ymddiheuro am broblem casglu gwastraff ailgylchu Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymddiheuro am broblemau gyda'r drefn newydd o gasglu gwastraff ailgylchu.
Fe benderfynodd y cyngor anfon criwiau casglu gwastraff ychwanegol a chael staff ychwanegol i helpu, ar ôl i filoedd o finiau beidio gael eu casglu.
Dywedodd Prif Weithredwr cyngor Sir Ddinbych Graham Boase ei bod hi wedi cymryd hirach i weithwyr gasglu gwastraff o'r bocsys ailgylchu newydd sy'n casglu papur, plastig, metel, cartonau bwyd a gwydr ar wahân.
Dywedodd bod cerbydau gwastraff "wedi llenwi'n fwy na'r hyn roedden ni'n feddwl, sy'n golygu eu bod nhw wedi gorfod mynd yn ôl i'r ganolfan i wagio'r hyn oedd ganddyn nhw cyn mynd allan eto".
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Dywedodd Mr Boase: "Wrth gyflwyno'r system newydd, rydyn ni wedi cael ychydig o broblemau ac mae hynny'n golygu fod gwastraff rhai cartrefi heb gael ei gasglu. Dwi'n ymddiheuro am hynny."
"Mi gafodd gwastraff y mwyafrif o gartrefi ei gasglu ar amser ond pan rydych chi'n cael 5% neu 10% sydd heb - a dydw i ddim yn gwybod yr union nifer, ond os gymrwn ni 5% neu 10% o 43,000, mae hynny'n nifer uchel o gartrefi yn dydi?
"Ond rydyn ni'n derbyn na chafodd gwastraff miloedd o gartrefi ei gasglu," meddai Mr Boase.
"Mae'r gwaith o gasglu gwastraff wedi cymryd hirach na'r disgwyl, a hynny'n rhannol oherwydd y gwaith ychwanegol sy'n rhan o'r system ailgylchu newydd."
Mae biniau du sydd ddim yn cael eu hailgylchu bellach yn cael eu casglu bob pedair wythnos yn hytrach na bob pythefnos yn y sir.