Jamie Roberts - o'r stadiwm rygbi i'r ysbyty

- Cyhoeddwyd
Ym mis Awst, bydd y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Jamie Roberts, yn cyfnewid y bêl hirgron am stethosgop ac yn cwblhau ei hyfforddiant fel meddyg.
Er iddo raddio o Ysgol Feddygaeth Caerdydd dros ddegawd yn ôl, mae'r cyn-ganolwr yn dechrau ar ddwy flynedd o hyfforddiant sylfaen mewn ysbytai yn ne Cymru.
Yn ystod ei gyfnod yn chwarae rygbi fe enillodd 94 o gapiau dros Gymru a chynrychioli'r Llewod, gan sgorio 14 cais.
Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad yn 2008 ac yn 2009 cafodd ei enwi yn chwaraewr y gyfres yn dilyn taith y Llewod i Dde Affrica.
Er ei fod hefyd yn chwarae i'r Gleision ar y pryd, fe lwyddodd i gwblhau gradd meddygaeth.
Gwyliwch: Jamie Roberts sy'n trafod parhau ei hyfforddiant fel meddyg
Dywedodd: "Ro'n i mor driven really fel chwaraewr, ond o'n i'n caru cael rhywbeth i ffwrdd o'r cae.
"Oedd hwnna'n helpu fi fel chwaraewr proffesiynol yn sicr, ac oedd yr oriau'n hir iawn - o'n i'n gweithio dan bwysau enfawr i geisio graddio a cheisio pasio'r exams, a hefyd chwarae i Gymru.
"So oedd o'n llawn stress ond yn rewarding mewn ffyrdd dwi methu cymharu ag unrhywbeth arall," meddai.

Fe enillodd Jamie Roberts 94 o gapiau dros Gymru
Dywedodd ei fod yn "cofio 2013 yn glir iawn".
"Chwarae Lloegr yn fan hyn (Caerdydd) ac ennill twrnament y Chwe Gwlad a wedyn ar ôl sefyll arholiadau yn yr wythnos yna cael y results rhyw fis ar ôl hynny a phasio, a graddio o Brifysgol Caerdydd.
"Redd e'n fis mor ffantastig ar ôl rhoi cymaint o waith caled i mewn."
Yn dilyn cyfnodau gyda chlybiau gan gynnwys Harlequins a Chaerfaddon fe wnaeth Roberts ymddeol o'r gêm yn 2022.
Dywedodd iddo gael teulu yn ei flynyddoedd olaf yn chwarae - gyda'r Dreigiau a gyda'r Waratahs yn Awstralia.
"Dwi 'di bod yn gweithio hefo'r Undeb fel non executive a gweithio ar deledu hefyd."
'Edrych ymlaen'
O fis Awst, am ddwy flynedd, bydd y cyn-chwaraewr yn gweithio mewn ysbytai yng Nghaerdydd a'r Fro.
Mae cwblhau'r rhaglen sylfaen yn angenrheidiol os am weithio fel meddyg yn y Deyrnas Unedig.
"Y sialens i fi ydy... y pwysau yna i ailddysgu'r gwaith, yn gyflym, a dod nôl mewn i'r gwaith clinigol yn yr ysbyty.
"Dwi'n edrych 'mlaen gymaint i fod yn rhan o dîm eto.
"Dwi'n ffan enfawr o'r NHS a dwi'n edmygu pob un sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd a dwi'n gobeithio dod â sgiliau nes i ddysgu o'r gêm broffesiynol i dîm newydd."

Jamie gyda'i wraig Nicole, a'u mab Tomos, 4, a'u merch Eloise, 3
Ond nid Roberts yw'r unig un i ddilyn y trywydd yma - ymhlith chwaraewyr eraill mae'r diweddar Jack Matthews a JPR Williams, a Gwyn Jones a Hallam Amos.
Mae Roberts yn dweud ei fod wedi cymryd diddordeb mawr yn ei anafiadau ei hun dros y blynyddoedd - a'i uchelgais ar hyn o bryd ydy hyfforddi'n llawfeddyg orthopaedig.
"Fi'n edrych ymlaen at fynd mewn i rywbeth newydd... i ffeindio identity newydd mewn rhywbeth arall.
"Rhywbeth hollol wahanol i rygbi. Dwi'n excited i wneud 'na."