Cymro yn ennill ras dyn yn erbyn ceffyl am y tro cyntaf

Dewi Griffiths yn rhedeg y marathon yn ystod Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022
- Cyhoeddwyd
Yr athletwr o Abertawe, Dewi Griffiths, yw'r Cymro cyntaf i redeg yn gynt na cheffyl yn ras enwog Man v Horse ym Mhowys.
Mae'r ras yn Llanwrtyd yn cael ei chynnal yn flynyddol ers 1980, ac yn deillio o ddadl mewn tafarn ynglŷn ag ai dyn neu geffyl sydd gyflymaf dros dir mynyddig.
Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod gwlyb iawn ond fe groesodd y rhedwr Dewi Griffiths y llinell derfyn 13 munud yn gynt na Gweni - y ceffyl buddugol.
Roedd y ras yn 22 milltir o hyd dros dir mynyddig ac amser terfynol Mr Griffiths oedd dwy awr, 23 munud a 54 eiliad.
Ef yw'r pumed person yn unig yn hanes y digwyddiad i gwblhau'r ras yn gynt na'r ceffyl cyflymaf.

Eleni oedd y tro cyntaf i Dewi Griffiths (dde) gystadlu yn y ras
Fore Llun ar Dros Frecwast dywedodd ei fod yn "deimlad gwych".
"Dyma'r tro cyntaf i fi gystadlu yn y ras, a oedd 'na bach o bopeth - fforestydd, mynydd, corsydd, llwybr defaid a digon o fwd - ond roedd e wastad yn rhywbeth o'n i'n mo'yn 'neud yn fy ngyrfa.
"Mae'r ceffyl yn mynd yn gynt ar y fflat ond lawr rhiw yn arafach, a dyna pryd mae dyn â'r fantais.
"Ond mae'r cyfan yn deimlad od - does dim cliw 'da chi shwt y'ch chi'n 'neud gan bod y ceffyl yn dechrau rhedeg chwarter awr ar eich ôl chi - a wedi i chi gyrraedd y diwedd chi'n aros i weld oes mwy na chwarter awr o wahaniaeth."

Mae'r ras yn Llanwrtyd wedi bod yn hynod boblogaidd ar hyd y blynyddoedd
Mae'r ras yn hynod boblogaidd a dydd Sadwrn roedd yna 650 o unigolion yn rhedeg yn erbyn 60 ceffyl.
Yn wobr am ei ymdrechion fe gipiodd Dewi Griffiths dlws a swm o arian, ond dywedodd mai'r hyn a wnaeth y diwrnod yn fwy arbennig oedd cael ei deulu yno - yn enwedig ei ferch fach Gwennan Mair.
Roedd Mr Griffiths wedi gobeithio rhedeg Marathon Llundain eleni, ond gan i Gwennan gyrraedd nid oedd wedi gallu gwneud hynny, ac mae bellach yn hyfforddi ar gyfer marathon yn yr hydref.
Am flynyddoedd, ceffyl oedd wedi ennill y ras, ond yn 2004 ar ben-blwydd y ras yn 25 roedd dyn yn fuddugol - fe gwblhaodd Huw Lobb o Lundain y ras wedi dwy awr, 5 munud a 19 eiliad gan ennill £25,000.
Mae'r wobr ariannol bellach yn dipyn llai - y wobr graidd yw £500 ac mae'n codi £500 pan mai ceffyl sy'n ennill y ras.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2020