Dedfryd o 20 mlynedd i ddyn ifanc am dreisio dwy ferch

Nathan John Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathan John wedi cael dedfryd o 20 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc yn ei arddegau wedi cael ei ddedfrydu i 20 mlynedd dan glo ar ôl treisio dwy ferch 16 oed a oedd yn cerdded adref gyda'r nos.

Fe wnaeth Nathan John, 19, droseddu ddwywaith 18 mis ar wahân tra bo'r merched yn gwneud eu ffordd adref ar ôl nosweithiau allan yn Sir Benfro.

Fe glywodd y llys ei fod wedi lansio "frenzy o drais rhywiol" yn y tywyllwch ar ôl i'r merched ei wrthod.

Dywedodd yr erlynydd James Hartson: "Dyw'r dyn ifanc yma ddim yn cymryd na fel ateb."

Roedd John yn gwadu'r ddau gyhuddiad o dreisio - yr achos cyntaf yn Hydref 2022 yn Aberdaugleddau, a'r ail ger Hwlffordd fis Mai eleni.

'Dwi am dy ladd di'

Roedd wedi cwrdd â'r ferch gyntaf mewn clwb nos yn Aberdaugleddau, lle wnaeth y ddau gusanu, "ond nid oedd ganddi ddiddordeb mewn unrhyw beth arall".

Er hyn, fe wnaeth John ei cherdded hi adref, cyn ei thaflu ar lawr, gan dynnu ei drowsus i ffwrdd ac ymosod arni'n rhywiol.

Cafodd John ei arestio, gan ddweud wrth yr heddlu fod y ferch wedi cydsynio. Cafodd ei ryddhau dan ymchwiliad.

Ond fisoedd yn ddiweddarach fe lansiodd ymosodiad tebyg ar ferch arall.

Roedd yr ail ferch allan gyda'i ffrindiau pan wnaeth John gynnig ei cherdded hi adref.

Ond yna, dywedodd: "Os nad wyt ti am wneud, dwi am dy ladd di," cyn iddo'i threisio.

Dywedodd John unwaith yn rhagor bod y ferch wedi cydsynio.

Delweddau anweddus o blant

Wedi iddo gael ei arestio cafodd John hefyd ei gyhuddo o ddau achos ychwanegol o greu delweddau anweddus o blant ac o fod â llun pornograffig eithafol.

Cafodd ei ganfod yn euog o dri chyhuddiad o dreisio ac ymosodiad rhywiol yn Llys y Goron Abertawe.

Dywedodd y Barnwr Huw Rees fod y troseddau yma yn "hynod o ddifrifol".

Cafodd Nathan John ddedfryd o 20 mlynedd - 16 mlynedd yn y ddalfa mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc a phedair blynedd ar drwydded.