Bywyd dynes o Fôn 'wedi newid yn llwyr oherwydd Covid hir'

Mae data'n awgrymu bod Sian Griffiths yn un o bron i 100,000 o bobl yng Nghymru sy'n dal i ddioddef sgil effeithiau hir dymor Covid-19
- Cyhoeddwyd
Bum mlynedd ers dechrau'r pandemig, mae 'na alw am fwy o fuddsoddiad a gwaith ymchwil i gyflwr Covid hir.
Gyda data'n awgrymu bod bron i 100,000 o bobl yng Nghymru yn dal i ddioddef sgil effeithiau'r feirws, mae dynes o Ynys Môn yn dweud bod y gefnogaeth i gleifion yn brin gyda rhai yn gorfod teithio dros y ffin.
Yn ôl Sian Griffiths o Landegfan, mae'r cyflwr yn golygu nad oes modd iddi weithio bellach ac mae ei bywyd wedi newid yn llwyr.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae byrddau iechyd wedi derbyn rhagor o gyllid er mwyn delio gyda sgil effeithiau hir dymor Covid-19.

Roedd Sian Griffiths yn gweithio fel ffisiotherapydd pan gafodd ei heintio â Covid-19
Roedd Sian Griffiths, 46, yn gweithio fel ffisiotherapydd mewn ysbyty yn y gogledd pan gafodd ei heintio, ac er iddi brofi symptomau digon arferol i ddechrau, mae hi'n dal i ddioddef hyd heddiw.
"I ddechrau doeddwn i ddim yn rhy ddrwg ond ar ôl tua phythefnos o'n i'n meddwl bo' (curiad) calon fi'n mynd yn rhy uchel wrth fynd fyny grisiau," meddai.
"O'n i'n teimlo'n ben ysgafn a do'n i ddim yn gallu cerdded. Dwi'n byw rhyw bum munud rownd y gornel o mam a dad ag o'n i'n stryglo cerdded pum munud."
Mae Sian yn dal i ddioddef y symptomau hynny ac wedi derbyn diagnosis o Syndrom POTS sy'n effeithio ar y galon.
"Dwi'n cael episodic migraines a dwi'n pre-diabetic," ychwanegodd.

"Dwi 'di cal fy magu i weithio a thalu biliau," meddai Sian Griffiths
Er mwyn delio â'i symptomau mae Sian wedi trio bob math o driniaethau, gan gynnwys nofio gwyllt, ond yr ergyd fwyaf iddi, meddai, oedd gorfod rhoi gorau i'w swydd.
"Natho' nhw ddweud bod rhaid i fi gael ill health retirement yn 2023," esboniodd.
"Mae'n ofnadwy a siomedig, dwi'n flin... Dwi 'di cal fy magu i weithio a thalu biliau [a rŵan dwi methu]."
Mae'n disgrifio'r cymorth gan ei theulu fel rhywbeth amhrisiadwy, gan ychwanegu fod ei mam a'i thad bellach yn fath o ofalwyr iddi.

Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru, y gred yw bod tua 94,000 yn dioddef o Covid hir yng Nghymru.
Tra bod cymorth ar gael drwy fyrddau iechyd, mae dealltwriaeth o'r salwch yn parhau yn annelwig, a Sian felly yn galw am fwy o fuddsoddiad.
"Mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw wedi rhoi pres i mewn i gynllun Adferiad, ond 'di hynny ddim just i long Covid, mae o i bethau eraill hefyd".
Mae Sian bellach yn talu'n breifat i weld ymgynghorydd dros y ffin yn Ysbyty Stoke ac yn dweud ei bod hi'n adnabod unigolion eraill sy'n gwneud yr un fath.
"Mae bywyd wedi newid rhwng 2020 a rŵan. Mae'n hollol, hollol wahanol, dwi wedi colli swydd a ddim yn medru gwneud be 'dwi eisiau gwneud," meddai.
- Cyhoeddwyd8 Mawrth
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2023
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi cynyddu cyllid byrddau iechyd ar draws Cymru i ddelio â sgil effeithiau hir dymor Covid-19.
"Mae byrddau iechyd yn darparu cymorth unigol ac wedi'i deilwra i bobl o bob oed sydd â Covid hir trwy Raglen Adferiad.
"Mae'r gwasanaethau aml-broffesiynol a chymunedol wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Effeithiolrwydd Clinigol.
"Gellir cael mynediad at y rhain drwy hunanatgyfeirio mewn rhai byrddau iechyd neu drwy leoliadau gofal sylfaenol."