Steffan Thomas: Prif Weithredwr Galeri Caernarfon yn euog o stelcian
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr canolfan gelfyddydol yng Nghaernarfon wedi ei atal o'i waith ar ôl pledio'n euog i stelcian.
Derbyniodd Steffan Thomas, Prif Weithredwr Galeri Cyf, orchymyn atal (restraining order) ar ôl pledio'n euog i'r cyhuddiad o stelcian heb godi ofn, braw na gofid.
Bydd yn rhaid iddo hefyd gyflawni 120 awr o wasanaeth cymunedol.
Ar ôl ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun cadarnhaodd Bwrdd Galeri Caernarfon Cyf eu bwriad i gynnal ymchwiliad.
Ychwanegon nhw fod Mr Thomas, a gafodd ei benodi i'r swydd yn Ebrill 2023, wedi ei atal o'i waith ar gyflog llawn.
Bellach yn gyfrifol am redeg canolfan gelfyddydol a sinema, fe dyfodd Galeri Cyf o Gwmni Tref Caernarfon, a oedd yn adfywio a cheisio datblygu'r dref.
"Yn dilyn y gwrandawiad ar 8 Ebrill, penderfynodd Bwrdd Galeri Caernarfon Cyf i gynnal ymchwiliad i'r gollfarniad a'r amgylchiadau wnaeth arwain at yr achos llys," dywedodd Galeri Cyf mewn datganiad.
"Mae Mr Thomas wedi ei atal o'i swydd ar gyflog llawn a heb ragfarn yn ystod cyfnod yr ymchwiliad.
"Ni fydd y Bwrdd yn gwneud sylw pellach nes bydd yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.
"Ni fydd yr amgylchiadau hyn yn amharu ar weithgareddau'r cwmni nac ar unrhyw ddigwyddiadau neu weithgaredd yng nghanolfan Galeri."