Pwll nofio Harlech i gau oherwydd diffyg arian
- Cyhoeddwyd
Bydd pwll nofio yng Ngwynedd yn cau o fewn wythnosau oherwydd rhesymau ariannol.
Mae bwrdd y grŵp sy'n rhedeg pwll nofio Harlech wedi cyhoeddi "gyda chalon drom" y bydd yn cau cyn diwedd Awst.
Mae dyfodol y safle wedi bod yn y fantol ers peth amser, ac ym mis Ionawr daeth rhybudd y byddai'n rhaid iddo gau heb ganfod tua £30,000 mewn ychydig fisoedd.
Nawr, mae apêl wedi cael ei lansio unwaith eto er mwyn ceisio achub y pwll, sydd dan berchnogaeth y gymuned.
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
Mewn datganiad, dywedodd corff Hamdden Harlech ac Ardudwy, sy'n rhedeg y pwll: "Gyda chalon drom, rydym yn cyhoeddi bydd pwll nofio Harlech ac Ardudwy yn cau dros yr wythnosau nesaf.
"Dros y misoedd diwethaf, mae llawer o waith wedi bod yn cymryd lle yn y ganolfan, gyda sawl adroddiad yn edrych ar y cyfleoedd i'r pwll nofio yn y dyfodol.
"Yn anffodus, mae'r arian wedi dod i ben cyn i ni gael y cyfle i wneud unrhyw newidiadau neu gynllunio ar gyfer y dyfodol."
Fe agorodd y pwll nofio yn y 1970au, ond yn dilyn pryderon y gallai gau, fe wnaeth grŵp o wirfoddolwyr gymryd rheolaeth o'r safle gan Gyngor Gwynedd yn 2011.
Erbyn heddiw, mae safle Hamdden Harlech ac Ardudwy yn cynnwys pwll nofio 25 metr o hyd, wal ddringo a chaffi.
Ym mis Ionawr fe wnaeth cynghorau cymuned Talsarnau, Llanbedr a Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont benderfynu nad oedden nhw'n gallu ariannu'r pwll nofio.
Roedd hyn yn golygu colled o £30,000 y flwyddyn i Hamdden Harlech ac Ardudwy.
Dywedodd bwrdd y pwll nofio eu bod wedi gofyn am gefnogaeth ariannol gan Gyngor Gwynedd, ond nad oedd y cyngor yn gallu gwneud hynny oherwydd eu "cyfyngiadau ariannol eu hunain".
Mae'r bwrdd yn apelio am ragor o wirfoddolwyr i "gyflawni'r cynllun nesaf, beth bynnag fydd hynny".
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng nghaffi'r ganolfan ar 11 Awst i drafod dyfodol y safle.