Y Cymry sy'n creu gardd 'fwyaf bioamrywiol' sioe flodau Chelsea
- Cyhoeddwyd
Mae dylunwyr gerddi o bedwar ban byd wrthi'n gwneud y paratoadau munud olaf i'w cynigion ar gyfer sioe flodau Chelsea, sy'n dechrau ddydd Mawrth.
Ac yn eu plith - tîm o Gymru sydd wedi gosod her a hanner i'w hunain - o ddefnyddio dros 300 o wahanol rywogaethau o blanhigion.
Y gred ydy mai gardd elusen Maint Cymru, dolen allanol yw'r fwyaf bioamrywiol yn hanes y sioe fyd-enwog.
Eu bwriad yw codi ymwybyddiaeth o'r angen i warchod coedwigoedd trofannol, sy'n gartref i dros hanner holl rywogaethau anifeiliaid a phlanigion y blaned.
- Cyhoeddwyd1 Mai 2022
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2021
"Ry'n ni'n defnyddio 313 o wahanol rhywogaethau o blanhigion, sy'n adlewyrchu'r nifer o wahanol rhywogaethau o goed sy'n gallu bodoli mewn ond un hectar o goedwig trofannol," eglurodd y dylunydd Dan Bristow, o Fethesda, Gwynedd.
Roedd cael cymaint o blanhigion gwahanol yn barod ar gyfer wythnos y sioe yn "heriol ofnadwy", heb sôn am sicrhau bod gardd sy' dan ei sang ag amrywiaeth hefyd yn "llifo ac yn gydlynol".
Tra bod yr ardd yn teimlo "yn bell iawn i ffwrdd o'n bywydau o ddydd i ddydd", mae'r holl blanhigion yn gallu ac wedi cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig.
Y gobaith yw y bydd y dyluniad yn ysbrydoli pobl i gynnwys mwy o amrywiaeth o ran plannu yn eu gerddi eu hunain, sy'n gallu bod o fudd i fywyd gwyllt, eglurodd Mr Bristow.
Cafodd yr ardd ei chomisiynu gan elusen newid hinsawdd Maint Cymru, sy'n ceisio gwarchod ardaloedd o goedwigoedd trofannol dramor.
Mae'r cysylltiadau Cymreig yn amlwg - gyda'r ardd ei hun wedi'i dylunio yn siâp Cymru, a'r rhan fwyaf o'r planhigion wedi'u tyfu a'u paratoi ar gyfer y sioe mewn canolfannau garddio yng Nghymru.
Maen nhw'n cynnwys rhai o'n rhywogaethau mwyaf prin, gan gynnwys math o ddant y llew a heboglys sydd ond i'w canfod ym Mannau Brycheiniog.
Tan yn ddiweddar, dim ond un planhigyn unig o heboglys y Bannau (Hieracium breconicola) oedd ar ôl ar lethr yn y parc cenedlaethol, tra bod dant y llew Aberhonddu (Taraxacum breconense) a oedd unwaith yn olygfa gyffredin mewn rhannau o Sir Fynwy a Phowys hefyd mewn perygl o ddiflannu'n llwyr.
Mae Andrew Shaw o'r Rare British Plants Nursery ger Llanfair ym Muallt, Powys wedi bod yn ceisio eu hachub drwy dyfu mwy o hadau oedd wedi'u storio yng Ngardd Fotaneg Frenhinol Kew.
Dywedodd ei fod yn ddiolchgar iawn am y cyfle i arddangos y gwaith hwnnw.
"Gobeithio y daw hyn â'r planhigion i gynulleidfa ehangach," meddai.
Mae'r prosiect hefyd yn dibynnu ar ymdrechion y chwilotwyr planhigion Sue a Bleddyn Wynn-Jones o feithrinfa Fferm Crûg ger Caernarfon.
Ers mwy 'na 30 o flynyddoedd, mae'r ddau wedi teithio'r byd yn casglu a darganfod planhigion ecsotig, a maen nhw wedi helpu i ddewis a thyfu nifer o'r rhywogaethau fydd yn cael eu defnyddio yn yr ardd yn Chelsea.
Eglurodd Bleddyn eu bod yn awyddus i gymryd rhan yn rhannol oherwydd neges yr ardd a bod y ddau wedi bod yn dyst i effeithiau newid hinsawdd ar eu teithiau.
"'Da ni'n weld o'n bwysig iawn - mae pob dim yn newid ar draws y byd," meddai.
"'Da ni wedi helpu Dan i ddewis beth sy'n gweithio iddo fo allan o'r planhigion 'da ni 'di hel ym mhobman.
"Da' ni 'di hel bron i 20,000 o wahanol blanhigion dros y blynyddoedd," ychwanegodd.
Mae'r RHS - y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol - sy'n trefnu'r sioe wedi dweud eu bod yn dymuno cynnal y "Chelsea gwyrddaf erioed", gan roi blaenoriaeth i erddi sydd wedi'u dylunio mewn modd cynaliadwy.
Ar gyfer ei strwythur, mae gardd Maint Cymru yn defnyddio pren sydd wedi'i lifo o goed y bu'n rhaid eu torri oherwydd clefyd coed ynn, cerrig oedd yn mynd yn wastraff o chwarel yn Sir Fôn, ac mae'r prif fur yn y cefn wedi'i wneud o fadarch ac yn gallu cael ei gompostio.
Bydd yr ardd yn cael ei symud wedi'r sioe i ardd fotaneg Treborth, Prifysgol Bangor - sydd hefyd wedi helpu i dyfu rhai o'r planhigion.
Dywedodd y curadur, Natalie Chivers, y byddai Treborth yn "gartref arbennig ac addas iawn" ar gyfer gardd fwyaf bioamrywiol sioe flodau Chelsea.
"Fel garddwyr ry'n ni'n lysgenhadon pwysig iawn ar gyfer lledu'r neges ynglyn â newid hinsawdd a pha mor allweddol yw hi i reoli tir yn iawn," meddai.
Dywedodd Maint Cymru na allai'r gwaith o warchod coedwigoedd trofannol y byd "fod yn fwy angenrheidiol" am mai nhw oedd "ffordd orau natur o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd".
Eglurodd rheolwr cyfathrebu'r elusen Kadun Rees bod ardal o goetir "mwy na dwywaith maint Cymru wedi'i golli yn 2022".
"Felly ry'n ni wir eisiau pobl i sylweddoli pa mor bioamrywiol yw'r coedwigoedd trofannol ond hefyd gweithredu yn eu bywydau eu hunain i helpu eu gwarchod nhw," meddai.
Gallai hyn gynnwys cefnogi cymunedau brodorol a chymryd "camau syml iawn" pan yn prynu cynnyrch fel coffi, siocled a phapur, gan sicrhau bod pobl ond yn dewis cynnyrch sy'n gallu dangos nad ydyn nhw'n cyfrannu at ddatgoedwigo dramor, ychwanegodd.