'Ryff geid' i flodau gwyllt eich milltir sgwâr
- Cyhoeddwyd
Mis Mai, mis y blodau - ac mae cymaint i'w wybod am rai cyffredin sy'n tyfu ger ein cartrefi ar hyn o bryd.
Mae rhai yn ddefnyddiol i roi blas ar fwyd, eraill yn rhoi cliw am hanes yr ardal... a byddai ambell un yn denu sylw gwerthwyr cyffuriau.
Dr Trevor Dines, arbenigwr botanegol elusen Plantlife UK, sy'n dewis rhai o'r planhigion difyr sydd i'w gweld yn ein trefi, dinasoedd a chefn gwlad.
Craf y geifr
Un ar gyfer y foodies...
Craf y geifr ydi'r garlleg gwyllt ac mae yn ei flodau ar hyn o bryd mewn coedwigoedd ac ar ochr lonydd cysgodol.
"Mae'r planhigyn yma yn gwneud y pesto gorau erioed," meddai Dr Trevor Dines, sy'n byw yn Nyffryn Conwy. "Ychwanega'r dail ifanc at gnau pin, lot o olew olewydd, stwnshio'r cyfan a'i roi ar basta.
"Dwi'n defnyddio'r dail mewn salad hefyd - mae'n rhoi blas garlleg ysgafn i'r cyfan."
Llwyn mwyar duon
I'r rhai sydd efo dant melys, mae gan y botanegydd wybodaeth ddefnyddiol i unrhyw un fydd yn cadw golwg ar lwyni mwyar duon dros y misoedd nesaf yn barod i wneud y crymbl perffaith pan ddaw'r amser.
"Be' dydi pobl ddim yn gwybod ydi bod nifer o wahanol fathau o fwyar duon - dros 300 o fathau gwahanol. Allwch chi gael pedwar, pump neu chwech o wahanol fathau o fewn yr un berth.
"Dyna pam mae rhai mwyar duon yn blasu'n well na'i gilydd, mae eraill yn chwalu wrth iddyn nhw gael eu pigo, rhai yn aros mewn un darn solet a ddim yn chwalu - ond efallai tydyn nhw ddim yn blasu cystal.
"Pan oeddwn i'n hogyn bach roeddwn i'n mynd allan i hel mwyar duon efo Mam ac roedd hi'n gwybod lle i ffeindio'r llwyni efo'r mwyar duon mwya' blasus - heb wybod ar y pryd eu bod nhw'n fathau gwahanol o'r rhywogaeth."
Llysiau cwsg
Opium poppy yn Saesneg - a blodyn sy'n atgoffa'r botanegydd o'i dad, ond nid oherwydd unrhyw reswm amheus.
"Roedd dad yn arbenigo mewn tyfu cnydau anarferol, a blynyddoedd lawer yn ôl fo oedd un o'r cyntaf i gael trwydded i dyfu'r planhigyn yma ar gyfer opiwm meddygol. Roedd llond cae ar ôl cae o'r blodau yma, ac roedd o'n arfer rhoi arwyddion o gwmpas y caeau i ddweud bod y cnwd wedi ei chwistrellu gyda phlaladdwr gwenwynig.
"Fel arall roedd ceir yn stopio wrth ochr y caeau ar ôl gweld môr o'r blodau hardd yma, a rhieni yn dod allan o'r car efo'u plant i eistedd yng nghanol y caeau - heb sylweddoli beth oedden nhw!"
Troed yr iâr
"Mae hwn yn flodyn prydferth... ond mae'n un od oherwydd does dim byd andros o ddifyr amdano ac eto mae ganddo fwy o enwau cynhenid nac unrhyw blanhigyn arall ym Mhrydain - dros 70 enw lleol.
"Yn amlwg yn y gorffennol roedd yn golygu rhywbeth i bobl - ond tydan ni ddim yn siŵr beth oherwydd allwch chi ddim ei fwyta na'i ddefnyddio fel meddyginiaeth.
"Efallai mai'r rheswm ydi ei fod mor gyffredin roedd pobl yn ei hoffi. Mae'n gyffredin iawn y dyddiau yma rŵan hefyd - allwch chi ei weld ar gylchfannau, neu ar ochr ffyrdd."
Pabi Cymreig
Dyma'r blodyn sydd ar glawr y New Atlas of the British and Irish Flora, sy'n mapio dosbarthiad 2412 o wahanol fathau o blanhigion ym Mhrydain ac Iwerddon. Dr Trevor Dines oedd un o'r awduron - a fo ddewisodd y llun i'r clawr.
Mae'r blodyn yn tyfu'n wyllt ar ochr ffyrdd yng Nghymru - ac mewn gerddi - ond fersiwn o'r blodyn sy'n tyfu ym mynyddoedd y Pyrénées ydi'r rhain.
Mae'r fersiwn sy'n gynhenid i Gymru angen amodau mwy llym meddai'r botanegydd:
"Os ewch chi i Gwm Idwal, i ben uchaf y cwm ac i fyny at Gegin y Diawl, lle oer, tywyll, sydd ddim yn cael llawer o haul, yn yr afon fach sydd yno fe welwch chi'r planhigyn yma yn tyfu.
"Mae'n hardd iawn - ac mae'n sioc gweld blodyn mor eiddil ac egsotic yn tyfu mewn amodau mor llym."
Suran y coed
Mae'r planhigyn yma yn gallu rhoi cliw am hanes yr ardal.
Mae gan Suran y Coed hadau trwm sydd wedi eu gorchuddio gydag olew a bydd morgrug yn mynd a nhw i'w nyth er mwyn i'w larfa fwydo ar yr olew - a thrwy wneud hynny yn plannu'r hadyn. Gan nad ydi morgrug yn teithio'n bell, tydi'r blodyn ddim yn ymledu'n sydyn chwaith.
"Os ydych chi'n plannu coedlan newydd mae'n cymryd cannoedd a channoedd o flynyddoedd i'r planhigyn wneud ei ffordd drwy'r goedwig," meddai Dr Trevor Dines.
"Felly ble bynnag mae'r blodyn rydych chi'n gwybod bod y cynefin wedi bod yr un fath ers cannoedd - efallai miloedd - o flynyddoedd.
"Maen nhw i'w gweld mewn coedwigoedd hynafol - neu ar hyd lonydd bychan cysgodol lle'r oedd coedwigoedd yn arfer bod ers talwm.
"Mae rhai i'w gweld ar y llwybr beicio rhwng Tregarth a Bangor, a phan mae rhywun yn eu gweld nhw mae rhywun yn gallu dweud 'a, reit - roedd coed hynafol yn arfer bod yma'."
Llygad Ebrill
Mae'r blodyn melyn yma, sy'n blodeuo yn gynnar yn y gwanwyn, yn dilyn yr haul drwy'r awyr yn ystod y dydd, ac yn plygu eu pennau ar ddiwrnod llwm.
"Mae'r aer yn reit oer ddechrau'r gwanwyn felly maen nhw'n angen denu'r gwenyn. Mae'r blodyn yn dal gwres yr haul tu fewn i'r blodyn er mwyn gwneud i'r neithdar lifo'n well a rhoi lle cynnes i'r peilliwr. Mae lot o bryfetach yn gweld gwres - fel infra red - felly maen nhw'n cael eu denu at y blodyn."
Clychau'r gog
Mae'r olygfa o glychau'r gog yn garped mewn coedwig gyda'i arogl nodedig yn ffefryn gan nifer fawr o bobl.
Pan oedd Dr Trevor Dines yn cyflwyno'r gyfres Wild Thing ar Channel 4, dolen allanol, fe wnaeth gwyddonwyr geisio canfod beth oedd yr holl elfennau cemegol oedd yn creu'r arogl.
"Roedd yno elfennau o bîn, sinsir, ond hefyd afalau sur a nifer o ffrwythau trofannol fel mango, lychee, lemon a lemon grass," meddai. "Felly mewn coedwig gynhenid llawn clychau'r gog mae'r arogl fel salad ffrwythau trofannol.
"Mae'r arogl yn cael ei gario gan y gwynt er mwyn denu'r peillwyr.
"Y lle diwetha' maen nhw eisiau mynd ydi coedwig, lle tywyll ac oer, felly mae'r planhigyn yn creu'r arogl i'w denu - cystal â dweud 'efallai ei bod yn dywyll ac eithaf oer, ond gewch chi wobr anferth o neithdar os dewch chi i mewn'!"
Marddanhadlen Wen
"Dyma un o'r planhigion cynta' i'n hudo i fel plentyn. Un o fy atgofion cynta' oedd mynd o gwmpas y fferm lle ges i'n magu yn Wiltshire yn pigo'r blodau
"Mae'r blodau yn eithaf mawr, ac roeddwn i'n pigo nhw ac mae dropyn o neithdar ar waelod y blodau ac mae'n bosib ei sugno allan - a dyna dwi'n gofio gwneud."
Blodyn menyn
"Wyt ti'n hoffi menyn?" ydi'r cwestiwn gan blant ers cenedlaethau. Mae gwyddonwyr nawr yn deall pam bod y lliw melyn yn dangos o dan ên pawb - os ydyn nhw'n hoffi menyn neu beidio.
Mae gan y petalau haen o aer rhwng dwy haen o gelloedd, meddai Dr Trevor Dines.
"Mae hyn yn creu drych sy'n adlewyrchu'r golau oddi tanodd, a dyna pam mae'n adlewyrchu lliw melyn. Mae'n anarferol iawn. Ond tydan ni ddim yn gwybod pam yn union. Mwy na thebyg mae i wneud efo infra red, sy'n denu'r peillwyr."
Jac y neidiwr
Un arall da i'r plant gan bod posib gwneud i'r planhigyn wasgaru hadau mewn ffordd ddramatig yn ôl y botanegydd:
"Dim ond cyffwrdd y pod hadau yn ysgafn sydd angen ei wneud ac maen nhw'n ffrwydro - ac yn gallu mynd tua dau fetr i ffwrdd o'r planhigyn. Mae'n grêt i blant ac yn dangos y ffordd mae rhai planhigion yn gwasgaru hadau.
"Mae rhai efo bachau arnyn nhw sy'n dal ffwr, eraill yn cael eu cario gan forgrug, rhai yn cael eu cario gan y gwynt - ac mae hwn yn enghraifft o un balistig."
Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma yn 2020