Pam bod cymaint o bobl ifanc yn aros yn fy nhref i?

Llun o fi a fy nheulu yn dathlu pen-blwydd fy modryb yn 80 oed yn yr ardd. Mae 14 ohonom ni, gan gynnwys tri o blant, i gyd yn gwenu ar y camera.
Disgrifiad o’r llun,

Mae fy nheulu i gyd yn byw o fewn pum milltir i'w gilydd, sy'n gwneud dewis gadael y dref yn anodd iawn (dyna fi, ar y chwith)

  • Cyhoeddwyd

Merthyr Tudful yw'r lle ble cefais i fy magu, a'r lle y bydda i wastad yn galw'n gartref.

Fe wnes i adael y dref am gyfnod byr, ond o fewn ychydig o fisoedd, roeddwn i nôl yn byw efo fy rhieni.

Rwy'n caru'r teimlad teuluol a'r diogelwch sy'n dod gyda byw mewn tref fach, ac rwy'n gwybod nad fi yw'r unig un sy'n teimlo fel hyn.

Yn ôl yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), llynedd roedd 1,550 o fyfyrwyr o Ferthyr wedi cofrestru mewn addysg uwch.

O'r rheiny, astudiodd mwy na 70% mewn prifysgolion o fewn 35 milltir i'w cartref, a dim ond 20% wnaeth adael Cymru i barhau a'u haddysg.

Felly beth yw e am Ferthyr sy'n cadw shwt gymaint ohonom ni wedi'n gwreiddio yma - neu, fel fi, yn ein denu nôl hyd yn oed ar ôl i ni adael?

Sascha Marks
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Sascha ddim yn edifar o gwbl ei phenderfyniad i aros lleol i fynd i'r brifysgol

Mae Sascha Marks, 21, o yn astudio troseddeg gyda seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru yn Nhrefforest, ac yn byw gartref ym Merthyr Tudful.

Dewisodd hi aros yn lleol ar ôl i'r athrawon yn yr ysgol ddweud wrthi hi bod Prifysgol De Cymru yn le da ar gyfer astudio troseddeg.

"Hefyd fi'n hapus ym Merthyr, fi'n gwybod lot o bobl yma, mae ffrindiau fi yma ac mae'r teulu yn gefnogol," meddai.

"Fi'n gweithio rhan amser ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn hefyd.

"Felly doedd dim pwynt i fi fynd rhywle arall oherwydd fi'n settled a hapus fan hyn."

'Fy ffrindiau i gyd yma'

Er nad oedd rhesymau ariannol yn ddylanwad ar ei phenderfyniad, mae hi'n cydnabod ei bod hi'n haws peidio gorfod talu am lety.

Dywedodd Sascha fod y mwyafrif o bobl mae hi'n adnabod wedi aros adref ar i fynd i'r brifysgol.

"Dyna oedd un o'r rhesymau i fi aros - roedd fy ffrindiau i gyd yma," dywedodd.

Dyw Sascha ddim yn edifar o gwbl ei phenderfyniad i aros lleol.

Olivia
Disgrifiad o’r llun,

Mae Olivia ei yn benderfynol o aros yn ne Cymru

Mae Olivia, 17 oed a hefyd o Ferthyr Tudful, eisiau mynd i brifysgol agos at adref i astudio peirianneg cemegol.

Er ei bod hi wedi edrych ar brifysgolion fel Bryste a Chaerwysg, dywedodd Olivia ei bod hi'n teimlo bod gan brifysgolion lleol "safonau gwell".

"Fi jyst eisiau mynd i'r brifysgol sydd 'da safonau da am y cwrs fi eisiau gwneud," meddai.

Mae Olivia yn bwriadu symud i rywle fel Caerdydd neu Abertawe, ond nid rhywle "prysur fel Llundain".

I Olivia, roedd tyfu lan ym Merthyr yn brofiad da oherwydd y bobl yma, a'r clybiau chwaraeon roedd hi'n rhan ohonyn nhw.

Yn y dyfodol, dywedodd Olivia ei bod hi'n benderfynol o aros yn ne Cymru.

Isabelle
Disgrifiad o’r llun,

Mae Isabelle yn awyddus i ehangu ei gorwelion a gadael Merthyr Tudful

Isabelle, 17, fydd un o'r cyntaf yn ei theulu hi i fynd i'r brifysgol.

Dyw hi ddim yn siŵr ble mae hi eisiau astudio, ond mae hi wedi edrych ar gyrsiau anthropoleg, Saesneg a cherddoriaeth yng Nghaerdydd a Chaeredin.

Os ydy hi'n dewis Caerdydd, dywedodd Isabelle y bydd hi'n symud i'r ddinas yn hytrach nag aros adref oherwydd ei bod hi "eisiau'r profiad o fod yn y brifysgol" i fod yn "annibynnol", ond mae hi'n hoffi'r syniad o fod yn agos at ei theulu.

"Mae pawb fi'n 'nabod eisiau aros adref ac felly bydd rhaid i fi wneud ffrindiau newydd, a dwi eisiau dysgu am bobl a diwylliannau eraill," meddai.

"Mae pawb yn y cymoedd yn 'nabod ei gilydd, so mae pawb yn debyg."

Dyw Isabelle ddim yn meddwl y bydd hi'n dod 'nôl i Ferthyr, gan gredu ei bod yn fwy tebygol o fynd i Gaerdydd neu Abertawe.

Gareth Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae "goblygiadau ariannol" yn golygu bod llai o bobl ifanc o Ferthyr yn mynd i'r brifysgol, medd Gareth Jones

Dywedodd pennaeth chweched dosbarth Ysgol Gyfun Rhydywaun, Gareth Jones, er bod cyrchfannau prifysgol yn amrywio bob blwyddyn, mae'r ysgol wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy'n dewis mynychu prifysgol.

Yn ôl Mr Jones, "goblygiadau ariannol" yw'r rheswm.

Ychwanegodd, i nifer o fyfyrwyr o Ferthyr a'r cymoedd, mae gwell ganddyn nhw aros yn agos at adref i fynd i'r brifysgol, a mynd i lefydd fel Caerdydd neu Abertawe.

Dywedodd: "I rai, mae hyn yn ddigon pell i ffwrdd i ddianc rhag rhieni, ond digon agos so mae mam a dad yn agos os maen nhw angen unrhyw help.

"Rwy'n siarad â llawer o brifysgolion gwahanol ac mae'n ymddangos bod cysylltiadau teuluol rili, rili agos yn y cymoedd nad ydych chi o reidrwydd yn ei gael mewn ardaloedd Saesneg.

"Mae 'na bendant rhywbeth am y cymoedd ac am ardal ni ym Merthyr ble mae teulu'n hynod o bwysig.

"Mae'n myfyrwyr ifanc ni yn teimlo rili agos at eu teulu, ac nid jest rhieni, ond brodyr a chwiorydd, mam-gu a tad-cu, ac mae'r syniad o adael y teulu yn rhywbeth maen nhw'n pendroni am lot wrth iddyn nhw wneud y penderfyniad."

'Y fersiwn gorau o'u hunain'

Esboniodd hefyd sut mae ffactorau economaidd ac ofn dyled - yn enwedig ymhlith ymgeiswyr prifysgol cenhedlaeth gyntaf - yn dylanwadu'n fawr benderfyniadau llawer o fyfyrwyr.

Dywedodd Mr Jones mai ei nod ef yw cefnogi pob myfyriwr i wneud dewisiadau yn seiliedig ar yr hyn sy'n gweddu orau i'w sefyllfa ariannol, cysylltiadau teuluol, a llwybr gyrfa yn y dyfodol - heb wneud unrhyw benderfyniadau drostyn nhw.

"Mae'n rhaid iddyn nhw wneud y penderfyniad, mae'n rhaid i deuluoedd gefnogi eu penderfyniad, mae'n fwy na phenderfyniad unigolyn - mae fe'n benderfyniad teuluol ar adegau.

"Ni eisiau annog nhw i gael dyheadau, i fod y fersiwn gorau o'u hunain - ac i rai felly maen nhw angen symud i fwrdd ac maen nhw angen ffeindio prifysgolion sy'n mynd i fwydo'r dyheadau hynny."

Rhys JonesFfynhonnell y llun, Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Rhys Jones, mae nifer o drefi yn dilyn patrwm tebyg i Ferthyr Tudful

Dywedodd yr athro daearyddiaeth Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth, nid Merthyr Tudful yw'r unig dref sy'n dilyn yr un patrwm.

"Mae ffioedd prifysgol wedi cael effaith ar gyfraddau dilyniant i addysg uwch," meddai.

"Y patrwm cyffredinol 'dan ni'n gweld yw mai'r ardaloedd difreintiedig, yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol, llefydd fel Merthyr ond hefyd ardaloedd gwledig mewn Cymru hefyd.

"Fanna 'da ni'n gweld dau batrwm, ble mae pobl naill ai ddim yn mynd i'r brifysgol neu mae pobl yn astudio'n lleol, ac mewn sawl achos yn byw gartref fel ffordd i arbed arian."

I rai, mae gadael Merthyr yn fater o angen, nid dymuniad.

Ond i eraill, fel fi, mae'r teimlad cryf o gymuned yn gwneud gadael y lle mor anodd.

Efallai y bydda i yn newid fy meddwl ac yn gadael un diwrnod, ond lle bynnag fyddai hynny, Merthyr Tudful fydd bob amser y lle rwy'n ei alw'n gartref.