Pwy yw Ci y Flwyddyn Senedd Cymru 2024?

AS Janet Finch-Saunders a'i chi defaid Cymreig Alfie
- Cyhoeddwyd
Tra fod sylw'r wlad ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol nesaf, roedd cystadleuaeth o fath wahanol iawn yn digwydd ym Mae Caerdydd.
Ddydd Iau 23 Mai, bu Aelodau o’r Senedd a’u cŵn yn cystadlu am y tro cyntaf i ennill y teitl mawreddog Ci y Flwyddyn Senedd Cymru 2024, sy’n cael ei drefnu ar y cyd gan y Kennel Club a’r Dogs Trust.
Felly pwy ddaeth i'r brig? Dyma gipolwg ar y cystadlu ffyrnig:

Heidiodd cŵn o bob siâp a maint gyda'u Aelodau Seneddol i Barc Brittania yng Nghaerdydd i ddangos eu doniau

AS James Evans a'i cocker spaniel Bonnie sy'n eiddgar iawn i drio rhai o'r campau

AS Jane Dodds a'i milgi Wanda

Wedi cystadlu ffyrnig cyhoeddwyd yr enillwyr - cipiodd yr AS Jack Sargeant a Coco wobr Ci y Flwyddyn Senedd Cymru 2024, a'r AS James Evans a Bonnie enillodd pleidlais y bobl

Bonnie gyda'i pherchennog yr AS James Evans yn falch iawn i gipio pleidlais y bobl
Pynciau cysylltiedig
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2024
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2024