Meithrinfa Wibli Wobli yn ailagor ar ôl tân difrifol
- Cyhoeddwyd
Ychydig dros bedwar mis ers i dân ddinistrio eu hadeilad mae gan feithrinfa Wibli Wobli yng Nghasnewydd gartre' newydd.
Fe agorodd Wibli Wobli fel meithrinfa ddwyieithog gyntaf yng Nghasnewydd yn Ebrill 2023, cyn gorfod dod o hyd i safle dros dro yn dilyn y tân ym mis Ionawr.
Mae maint yr adeilad newydd yn golygu bod y feithrinfa yn gallu derbyn mwy o blant ac agor ystafell babanod, sydd yn "gam mawr" i'r ardal leol yn ôl y perchennog.
Fe gafodd yr adeilad ar stad ddiwydiannol Parc Cleppa ei agor yn swyddogol fore Llun.
Yn ôl perchennog y busnes Natasha Baker fe gafon nhw lawer o gefnogaeth gan rieni a'r gymuned yn dilyn y tân.
"Roedd e'n sioc fawr ond gyda help y gymuned a'r staff i gyd ry'n ni'n gallu ailagor mewn cartre’ gwell," meddai.
"Mae e bron dwbl maint yr hen safle ac mae e mewn ardal well.
"Bydd lle i 70 o blant yma a byddwn ni'n agor ystafell babis, sy'n gam mawr i ni ac i'r ardal hefyd.
"Dyw gofal o'r fath i fabis dan ddwy oed ddim yn bodoli yn yr ardal felly mae lot o botensial."
Yn ôl Dafydd Henry o Fenter Iaith Casnewydd mae Wibli Wobli yn cynnig gwasanaeth pwysig yn y ddinas.
"Mae'r math yma o ddarpariaeth yn hollbwysig i Gasnewydd.
"Os yw'r iaith am dyfu, a 'da ni i gyd am iddo dyfu yn yr ardal yma, mae'n rhaid iddo fo gychwyn ar gychwyn bywydau plant fel eu bod nhw'n mynd ymlaen i addysg Gymraeg ac yna swyddi Cymraeg."
Yn dilyn y tân fe gafodd y feithrinfa gartref dros dro yn ysgol gynradd Parc Tredegar gerllaw.
Dywedodd pennaeth yr ysgol, Jenny Thomas: "Ar y pryd roedd pobl ar chwâl, ro'n ni'n gwybod bod rhaid gwneud rhywbeth achos roedd hon yn feithrinfa unigryw.
"Roedd 'stafell ar gael gyda ni yn yr ysgol ac fe alluogodd hynny iddyn nhw barhau tra eu bod nhw'n dod o hyd i safle newydd.
"Ry'n ni'n falch iawn o fod wedi chwarae rhan."
Fe gafodd y feithrinfa gefnogaeth Mudiad Meithrin hefyd gydag ailgofrestru a hyfforddi staff, a chymorth ariannol trwy gynllun Sefydlu a Symud, sy'n helpu i ddatblygu twf yr iaith Gymraeg.
"Roedd bwlch enfawr yn mynd i fod os na fydden nhw'n gallu ailsefydlu," meddai Nia Parker o Mudiad Meithrin.
"Maen nhw'n cynnig rhywbeth cwbl wahanol i beth mae'r cylchoedd meithrin fel arfer yn cynnig.
"Maen nhw ar agor o 07:30 tan 18:00 ac maen nhw'n cymryd plant blwydd oed.
"Mae'n amser cyffrous yng Nghasnewydd fod hon yn ailagor, a mae 'na fwy a mwy o alw."
Cafodd dros £8,000 ei godi yn dilyn y tân ac fe gafodd yr arian ei wario ar dalu staff a phrynu offer newydd.
Yn ôl Saskia Sparkes, dirprwy reolwr y feithrinfa, mae'r gwaith o gael y lle'n barod wedi digwydd yn gyflym.
"Mae'n anhygoel, mae popeth yn newydd, mae'n ddechrau newydd," meddai.
"Dwi jyst mor gyffrous i ddechre yma, a mae'r plant yn mynd i garu'r lle.
"Mae hi 'di bod yn haws gyda'r gefnogaeth ry'n ni 'di ei chael gan bawb hefyd."
Yn ôl Natasha Baker maen nhw'n hyderus ynglŷn â'r dyfodol.
"Dwi'n meddwl bydd e'n llwyddo. Mae'r adeilad yn well, a mae pawb yn 'nabod ni nawr, diolch i'r tân!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2024