Cyhoeddi trefn gemau clybiau Cymru yn yr EFL
![Wrecsam](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1024/cpsprodpb/59c7/live/189ceca0-3312-11ef-8cfe-b3e007b3385c.jpg)
Fydd Wrecsam yn gallu ennill dyrchafiad am y trydydd tymor yn olynol?
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd wedi cael gwybod trefn eu gemau ar gyfer tymor 2024/25.
Cafodd y rhestrau llawn eu cyhoeddi gan Gynghrair Bêl-droed Lloegr fore Mercher.
Yn y Bencampwriaeth, fydd Caerdydd yn dechrau'r tymor gartref yn erbyn Sunderland, tra bod Abertawe yn teithio i Middlesbrough ar 10 Awst.
Ar ôl ennill dyrchafiad i Adran Un y tymor diwethaf, bydd ymgyrch Wrecsam yn dechrau gartref yn erbyn Wycombe Wanderers ar yr un diwrnod.
Yn Adran Dau, fe fydd Casnewydd yn dechrau gyda gêm oddi cartref yn Cheltenham.
![Cian Ashford yn dathlu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/942/cpsprodpb/7515/live/a8cb4890-3311-11ef-8cfe-b3e007b3385c.jpg)
Bydd Caerdydd yn gobeithio adeiladu ar dymor cyntaf addawol dan arweiniad Erol Bulut
Bydd darbi de Cymru cynta'r tymor yn digwydd ychydig gemau'n unig i mewn i'r tymor newydd, yn Abertawe ar 24 Awst, cyn i'r Elyrch deithio i Gaerdydd ar 18 Ionawr.
Fe fydd Caerdydd yn herio'r gelyn o ochr arall yr afon Hafren, Bristol City, yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 15 Chwefror.
Bydd yr Elyrch gartref yn erbyn y Robins ar 28 Medi.
Dim Wrecsam yw'r unig dîm yn Adran Un gyda pherchnogion enwog o'r Unol Daleithiau - mae gan Tom Brady, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd, gyfranddaliadau yn Birmingham City.
Fe fydd y Dreigiau yn wynebu'r Blues - a ddisgynnodd o'r Bencampwriaeth y llynedd - ar y Cae Ras ar 25 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024