Pwy fydd yn dilyn Rob Page fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru?

Osian Roberts, Craig Bellamy a Mark HughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Osian Roberts, Craig Bellamy a Mark Hughes yn enwau cyfarwydd i gefnogwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd

Be nesaf i Gymru yn dilyn diswyddiad Robert Page a pwy fydd y person i gymryd yr awenau?

Dyma fwrw golwg dros rai o’r enwau fydd yn cael eu cysylltu gyda’r swydd.

Osian Roberts

Yn rhan o dimau hyfforddi Gary Speed, Chris Coleman a Ryan Giggs, mae’r gŵr o Fôn yn ffigwr poblogaidd ymysg y cefnogwyr.

Yn gyn-gyfarwyddwr technegol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, fe adawodd i gymryd swydd debyg gyda Moroco yn 2019.

Ers hynny mae Roberts wedi cynorthwyo Patrick Vieira yn Crystal Palace a bod yn rheolwr dros dro Como yn Yr Eidal, a'u harwain at ddyrchafiad i Serie A.

Craig Bellamy

Cafodd cyn-ymosodwr Cymru ei gyfweld ar gyfer y swydd yn 2018, ond Ryan Giggs aeth â hi bryd hynny.

Wedi cyfnod gydag Academi Caerdydd mae’r gŵr 44 oed wedi cael profiad yn gweithio fel is-reolwr i Vincent Kompany yng nghlwb Anderlecht yng Ngwlad Belg ac yn Burnley yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Nid yw wedi ymuno gyda Kompany yn Bayern Munich ac fe gafodd ei benodi yn rheolwr dros dro yn Turf Moor yn ddiweddar.

Disgrifiad,

Mae cyn-ymosodwr Cymru Gwennan Harries yn credu bod Osian Roberts neu Craig Bellamy yn opsiynau posib i olynu Page

Mark Hughes

Cyn-ymosodwr Cymru, Manchester United, Barcelona, Bayern Munich a Chelsea fu wrth y llyw rhwng 1999 and 2004 – ei swydd gyntaf fel rheolwr.

Uchafbwynt ei gyfnod oedd y fuddugoliaeth o 2-1 dros Yr Eidal ar noson fythgofiadwy yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2002.

Ond, fel sawl un o’i ragflaenwyr, methiant fu’r ymgais o gyrraedd rowndiau terfynol prif bencampwriaeth ar ôl colli yn erbyn Rwsia yng ngemau ail gyfle Euro 2004.

Matty Jones

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Rheolwr tîm dan-21 Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am ganlyniadau da yn ddiweddar.

Yn uchel ei barch o fewn y Gymdeithas Bêl-Droed, roedd Jones yn chwaraewr ganol cae i Leeds United, Caerlŷr a Chymru cyn i anafiadau orfodi iddo roi’r gorau i chwarae yn ifanc.

Eric Ramsay

Gweithiodd am gyfnod byr fel rhan o dîm hyfforddi Page yn 2023.

Mae hefyd wedi gweithio fel rheolwr cynorthwyol yn Manchester United.

Ond mae Ramsay bedwar mis i mewn i’w swydd rheoli cyntaf gyda Minnesota United yn yr Unol Daleithiau - ag yntau dal ond yn 32 oed.

Enwau eraill

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n annhebygol mai Steve Cooper fydd yr un i arwain Cymru - tro 'ma beth bynnag

Mae Rob Edwards a Steve Cooper yn ddau enw fyddai yn arferol wedi cael eu cysylltu gyda’r swydd.

Ond yn ystod yr wythnos y gadawodd Page ei swydd arwyddodd cyn-amddiffynnwr Cymru, Edwards estyniad i’w gytundeb fel rheolwr Luton Town tra bod Cooper, cyn-reolwr Abertawe a Nottingham Forest, wedi ei benodi gan Gaerlŷr.

Mae Chris Davies, chwaraeodd i dimau ieuenctid Cymru ac yn hyfforddwr uchel mawr ei barch sydd wedi gweithio i Tottenham Hotrspur ac Abertawe, wedi ei benodi’n rheolwr Birmingham City yn ddiweddar.

Mae gŵr arall o’r Rhondda, Nathan Jones, a fu’n rheolwr Luton Town a Southampton yn y gorffennol, wedi bod wrth y llyw yn Charlton Athletic ers mis Chwefror eleni.

Ac mae Chris Coleman, a arweiniodd Cymru i rownd gyn-derfynol Euro 2016, wedi derbyn swydd gyda AEL Limassol yn Cyprus yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Tu hwnt i Gymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Patrick Vieira a Thierry Henry: Allai Cymru droi i Ffrainc am ychydig o Va Va Voom?

Fe allai'r Gymdeithas edrych am reolwr tu allan i Gymru am y tro cyntaf ers i’r Sais Bobby Gould gael ei benodi ym 1995.

Y gred ydy bod nifer o swyddogion yn awyddus i gael rheolwr proffil uchel - waeth beth fo'u cenedligrwydd.

Mae cyrsiau hyfforddi hyfforddwyr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ymysg y gorau yn y byd pêl-droed ac wedi denu rhai o fawrion y gêm i astudio yma.

Mae Thierry Henry a Patrick Vieira ymysg y graddedigion ac yn sicr yn enwau fyddai’n creu diddordeb mawr.