Y Democratiaid Rhyddfrydol yn addo mwy o bwerau i Gymru

Ed DaveyFfynhonnell y llun, EPA-EFE/REX/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey, yn cyhoeddi maniffesto Prydeinig y blaid yn Llundain

  • Cyhoeddwyd

Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn ganolog i faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol, gydag ymrwymiad i recriwtio mwy o feddygon teulu, gwella gwasanaethau canser ac adeiladu rhagor o ysbytai.

Ond polisïau ar gyfer Lloegr yn unig fydd rhain, gan mai llywodraeth Lafur Cymru sy'n gyfrifol am wasanaeth iechyd Cymru.

Mae’r blaid yn addo gwario £8bn i wireddu eu polisïau a phetaen nhw mewn sefyllfa i wneud hynny, fe fyddai'n golygu mwy o arian i Lywodraeth Cymru i wario fel maen nhw eisiau.

Mae 'na gryn dipyn yn y maniffesto hefyd o ran cynyddu grymoedd Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, EPA-EFE/REX/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gryn dipyn ym maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol o ran cynyddu grymoedd Llywodraeth Cymru

Yn y gorffennol, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y bydden nhw'n codi treth incwm o 1c i dalu am y gwariant ychwanegol maen nhw ei eisiau ar y gwasanaeth iechyd, ond maen nhw nawr wedi ymuno â'r Ceidwadwyr a'r blaid Lafur i addo na fydden nhw'n codi treth incwm, yswiriant gwladol na TAW.

Yn hytrach, maen nhw'n dweud y byddan nhw'n codi'r arian ychwanegol drwy wyrdroi toriadau’r Ceidwadwyr i’r trethi ar fanciau mawr, a drwy ddiwygio treth ar enillion cyfalaf, gan gau'r bylchau sy'n cael eu hecsploitio gan y bobl mwyaf cyfoethog.

Mi fyddai'r ymdrechion i daclo tlodi plant drwy gael gwraed ar y cap ar fudd-daliadau a'r terfyn dau blentyn yn effeithio ar lawer o bobl yng Nghymru hefyd, yn ogystal â’r cynnydd yn y lwfans i ofalwyr di-dâl.

Dadansoddiad Elliw Gwawr - gohebydd gwleidyddol

Cynnig teg yw ffocws y maniffesto, ac i weithiwyr fe allai hynny olygu newidiadau o ran taliadau salwch neu gynnydd yn yr amser a'r arian mae rhieni yn ei gael ar ôl cael plentyn.

Os 'da chi'n weithiwr ar gytundeb 'dim oriau' am fwy na 12 mis, mae'r blaid am roi'r hawl i chi wneud cais am gytundeb sefydlog.

Mae'r maniffesto hefyd yn cyfeirio at gynyddu grymoedd Llywodraeth Cymru.

Mae'r arweinydd, Ed Davey, yn dweud y bydden nhw'n datganoli pwerau'r heddlu i Gymru, rhoi mwy o bwerau benthyg i Lywodraeth Cymru, ac yn datganoli'r grym dros ddarlledu.

Ac fel sydd eisoes yn digwydd yn etholiadau'r Senedd, mae nhw eisiau rhoi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed ar gyfer etholiadau San Steffan.

Er bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol nod hir dymor o ail ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, nid dyna sydd yn y maniffesto.

Yn hytrach, mae'n son am berthynas llawer agosach, sy'n cael gwared â gymaint o rwystrau â phosib ar gyfer masnach.