Teyrnged i ddyn 'rhydd ei ysbryd' fu farw yn Afon Teifi
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn "direidus a rhydd ei ysbryd" fu farw mewn digwyddiad yn ardal Aberteifi yr wythnos ddiwethaf.
Roedd Leon Vernon-White yn 24 oed ac yn dod o Tewkesbury yn Sir Gaerloyw.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Aberteifi nos Iau 6 Mehefin yn dilyn adroddiadau bod person oedd yn canŵio yn yr afon wedi disgyn i'r dŵr.
Wedi rhai oriau o chwilio, cafwyd hyd i gorff Mr Vernon-White.
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
Dywed Heddlu Dyfed-Powys y cafodd y corff ei ddarganfod tua 01:00 fore Gwener, 7 Mehefin.
Roedd hofrennydd Gwylwyr y Glannau, bad achub RNLI Aberteifi, timau achub Aberteifi a Threwyddel, yr heddlu a chriwiau tân ac achub yn rhan o'r ymdrech chwilio.
'Gofalgar, cariadus a ffyddlon'
Dywedodd teulu Mr Vernon-White ei fod yn wyneb cyfarwydd iawn yn Tewkesbury, lle byddai'n aml yn canu a chwarae ei gitâr ar y stryd.
"Roedd yn rhydd ei ysbryd ac roedd ganddo'r gallu i roi gwen ar wyneb pawb," meddai'r teulu mewn datganiad.
"Roedd yn gallu bod yn ddireidus ac ystyfnig ond hefyd yn ofalgar, yn gariadus ac yn ffyddlon ofnadwy. Byddai wastad yn diddanu'r rhai oedd yn ei adnabod.
"Byddai'n disgrifio ei hun fel artist gemwaith, cerddor a rhywun oedd â diddordeb mewn gwyddoniaeth. Roedd wir yn gymeriad ac roedd ganddo griw mawr o ffrindiau.
"Bydd colled enfawr ar ei ôl, a bydd wastad cariad yn ein calonnau ar ei gyfer."
Fe wnaeth y teulu ddiolch hefyd i'r gwasanaethau brys a fu'n rhan o'r gwaith chwilio, ac am y gefnogaeth maen nhw wedi ei dderbyn gan ffrindiau a theulu.