Saib dros dro i waith ar lein ar gyfer gig Taylor Swift

Taylor SwiftFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Taylor Swift yn perfformio yn Stadiwm Principality, Caerdydd nos Fawrth 18 Mehefin

  • Cyhoeddwyd

Mae Network Rail yn atal gwaith peirianyddol ar lein Bro Morgannwg am ddiwrnod i osgoi trafferthion i bobl sy'n defnyddio'r trên i fynd i gyngerdd Taylor Swift yng Nghaerdydd.

Bydd yr holl leiniau rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn Y Rhws a Phen-y-bont ar Ogwr ar gau am 10 diwrnod rhwng dydd Sadwrn 8 Mehefin a dydd Llun 17 Mehefin.

Ond fe fydd y lein yn ailagor ddydd Mawrth 18 Mehefin ar gyfer y cyngerdd ei hun, sy'n rhan o daith fyd-eanf Eras y gantores.

Dywed Network Rail y bydd yna fysiau i gludo teithwyr yn lle trenau tra bo'r gwaith cynnal a chadw "hanfodol" yn cael ei gynnal.

Mae'r gwaith yn cynnwys adnewyddu dros 130 metr o drac ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Fe werthodd y tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn Stadiwm Principality o fewn munudau.

Gymaint yw'r galw am docynnau nes bod rhai cael eu gwerthu ymlaen am brisiau sylweddol uwch na'r pris gwreiddiol.

Mae yna rybuddion wedi bod i bobl osgoi gael eu twyllo wrth geisio gael tocyn.

Pynciau cysylltiedig