Mam yn colli cannoedd i sgam tocynnau Taylor Swift

Sian ac EfaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Sian Williams (chwith) £250 wrth geisio prynu tocynnau i gyngerdd Taylor Swift i'w merch, Efa

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw o Flaenau Ffestiniog yn rhybuddio eraill i fod yn ofalus ar ôl cael ei thwyllo’n ariannol wrth brynu tocynnau i gyngerdd Taylor Swift.

Roedd Sian Williams wedi anfon £250 ar gyfer pedwar tocyn at fenyw yr oedd hi’n meddwl oedd yn ffrind.

“Doedd o ddim yn edrych fel sgam. Oedden nhw’n dynwared ffrind i ffrind.”

Yn ôl Cyngor ar Bopeth mae angen gwell ymwybyddiaeth o dwyllo wrth i sgams ar-lein dyfu’n fwy “soffistigedig”.

'Dwi'n flin hefo fi fy hun'

Fel miliynau o bobl eraill haf diwethaf, roedd Ms Williams wedi cofrestru ar-lein i brynu tocynnau i weld y gantores bop Taylor Swift eleni.

“Chafon ni ddim tocynnau pan oedden nhw allan yn gyhoeddus, yn gyffredinol ar werth. Ches i ddim hyd yn oed cod.”

Wedi’r siom o beidio cael tocynnau ar y gwefannau swyddogol, cafodd Ms Williams neges gan ffrind yn dweud bod ffrind arall yn gwerthu pedwar ar gyfer cyngerdd yn Anfield, Lerpwl ym mis Mehefin.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu yn y broses o geisio cael yr arian yn ôl gan eu banc

“Beth nath fy ffrind oedd rhoi fy rhif ffôn i’w ffrind hi a dyma’r sgwrs wedyn yn cario ‘mlaen ar WhatsApp.”

Roedd Ms Williams felly mewn sgwrs gyda pherson yr oedd hi’n hyderus oedd yn gyfaill agos i’w ffrind hi.

“Rŵan pan dwi’n adlewyrchu ar hynny, oedd pethau ddim yn iawn ond gan mod i ‘di cael argymhelliad gan ffrind, nes i’m meddwl eilwaith nad oedd y tocynnau yma yn rhai go iawn.”

Wedi trafodaethau am y gost, roedd Sian a’i merch wedi defnyddio eu cyfrif banc i anfon yr uchafswm posib ar y tro, sef £250, gyda’r bwriad o dalu gweddill y gost mewn ail daliad.

“Pan ddaru’r arian yna gael ei dderbyn gan enw eithaf anghyfarwydd ac unigryw, ddaru ni feddwl yn syth dan ni mewn trwbl ac o’dd y pres ‘di mynd.”

Sylweddolodd Sian yn syth bod y gwerthwr yn dynwared ffrind i ffrind gan ddefnyddio cyfrifon a lluniau cyfryngau cymdeithasol er mwyn ei thwyllo.

“Dwi’m yn gweld bai ar fy ffrind. Dwi’n flin hefo fi fy hun yn fwy na neb.”

Yn ôl Sian roedd rhannu ei phrofiad yn gyhoeddus “yn bwysig” er mwyn codi ymwybyddiaeth, gan ychwanegu bod nifer o bobl eraill wedi cysylltu yn rhannu profiadau tebyg.

“O’n i’n meddwl mod i’n eithaf savvy. 'Da ni 'di arfer mynd i gyngherddau, gemau, gwyliau, 'neud digon o brynu ac yn y blaen ar-lein.

“Os o’dd o’n gallu digwydd i ni, mae o'n gallu digwydd i rywun.”

Mae’r teulu yn broses o geisio cael yr arian yn ôl, gan siarad â’r banc, sy’n ymchwilio.

Pryderu am brynu tocynnau yn y dyfodol

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Maisey Matthews ei thwyllo wrth geisio prynu tocynnau i weld yr artist Dave yng Nghaerdydd

Un arall sy’n gwybod sut beth yw cael ei thwyllo ar-lein wrth brynu tocynnau yw Maisey Matthews, 19 oed, o Donyrefail.

“Fe wnes i ffeindio rhywun o’n i’n meddwl o’dd yn ddibynadwy,” meddai Ms Matthews, oedd wedi ceisio prynu tocynnau i gyngerdd yr artist Dave yng Nghaerdydd.

Ar ôl i Ms Matthews anfon yr arian at y fenyw ar-lein fel taliad ar gadw, roedd y person wedi gwrthod rhoi’r tocynnau iddi a bygwth postio ei manylion personol ar-lein.

“Fi’n credu bo’ fi’n eitha’ nerfus nawr yn prynu tocynnau.”

Aeth Ms Matthews, oedd yn y chweched dosbarth ar y pryd, at Heddlu De Cymru gyda’i rhieni am gymorth yn sgil y digwyddiad.

'Fe wnes i gael fy hacio'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfrif Indigo Jones ei hacio, a'i ddefnyddio i geisio gwerthu tocynnau Taylor Swift ffug

Fe ddechreuodd Indigo Jones gael negeseuon gan ei ffrindiau yn holi os oedd hi dal yn bwriadu gwerthu ei thocynnau i weld Taylor Swift.

“Fe wnes i gael fy hacio,” meddai Indigo, sy’n 24 oed ac o Abertawe.

“O’dd yr hackers yn trio esgus bod yn fi a gwerthu tocynnau ar account fi i bobl ond yn amlwg, tocynnau ffug o’n nhw.”

Er i nifer o’i ffrindiau dderbyn negeseuon gan ei chyfrif hi, dyw Indigo ddim yn adnabod unrhyw un sydd wedi colli arian.

“Fi’n teimlo’n really, really euog bod rhywun yn defnyddio enw fi a lluniau fi i sgamio pobl allan o arian.

“Yn enwedig pobl sydd yn eithaf vulnerable, falle pobl sydd yn ffans gorau Taylor Swift neu rhywun sydd yn cael plant sydd yn hoffi Taylor Swift.”

Mae Indigo wedi adrodd y ffaith ei bod hi wedi colli rheolaeth o’i chyfrifon hi i’r platfformau amrywiol a rhannu’r sefyllfa ar gyfrifon newydd.

'Unrhyw un yn gallu cael ei sgamio'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gyngor i bobl gymryd eu hamser cyn prynu tocynnau ar-lein i weld artistiaid poblogaidd, fel Taylor Swift

Mae Emily Seymour, newyddiadurwraig sy’n arbenigo mewn hawliau defnyddwyr ar gyfer cylchgrawn Which?, yn dweud bod sgamiau wrth brynu tocynnau yn “gyffredin iawn”, gyda phobl yn targedu eraill sy’n awyddus iawn i brynu tocynnau yn gyflym.

Ei chyngor hi ydy sicrhau eich bod chi’n “cymryd amser” cyn prynu er mwyn “sicrhau chi’n hela eich arian at berson go iawn”.

Os ydych chi’n pryderu eich bod chi wedi eich twyllo, meddai Emily, mae angen cysylltu â’ch banc yn syth i gofnodi’r twyll a thrafod yr hyn sydd ar gael i amddiffyn chi.

“Yn anffodus, os ydych chi wedi gwneud trosglwyddiad banc, felly rydych chi wedi talu'n uniongyrchol o'ch cyfrif i mewn i gyfrif rhywun arall, mae'n anoddach cael eich arian yn ôl.

“Byddem yn argymell yn fawr nad ydych yn defnyddio’r dull talu hwnnw, os yn bosibl.”

Yn ôl Simon Hatch, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru, mae “rhywun yn gallu cael eu targedu gan sgam”.

“Wrth i sgamwyr ddod yn fwyfwy soffistigedig mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i godi ymwybyddiaeth, adrodd sgamiau a rhannu ein profiadau i helpu i amddiffyn ein hunain rhag eu triciau.”

Pynciau cysylltiedig