Kevin Brennan i gamu lawr fel Aelod Seneddol

Kevin Brennan
  • Cyhoeddwyd

Mae AS Llafur Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan wedi cyhoeddi na fydd yn ymgeisydd yn yr etholiad nesaf.

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad ar ôl 23 mlynedd fel AS yn San Steffan, dywedodd Mr Brennan bod trafod gyda'i deulu a'r ffaith ei fod wedi derbyn triniaeth am ganser yn golygu mai nawr yw'r "amser cywir".

Yn 2022 datgelodd ei fod wedi derbyn triniaeth ar gyfer canser y prostad.

Dywedodd bod gwaith AS yn rhoi boddhad, ond yn "gofyn llawer gan yr unigolyn a'u hanwyliaid".

Cafodd Mr Brennan ei ethol am y tro cyntaf yn 2001, mae wedi bod yn chwip ac wedi cymryd rolau gweinidogol dan lywodraethau Tony Blair a Gordon Brown.

Dywedodd ei fod yn "drist iawn" rhoi'r gorau i fod yn AS, ac er ei fod wedi cefnogi Lisa Nandy i fod yn arweinydd Llafur, fe roddodd ei gefnogaeth i Syr Keir Starmer gan ddweud ei fod yn "gobeithio'n arw fydd y prif weinidog ym mis Gorffennaf".

Mewn datganiad, diolchodd i aelodau Llafur am eu "caredigrwydd a chefnogaeth".

Enillodd Mr Brennan ei sedd gyda mwyafrif o 10,986 o bleidleisiau yn yr etholiad diwethaf yn 2019.

Mae ffiniau'r sedd wedi newid eleni wrth i nifer y seddi yng Nghymru ostwng o 40 i 32.

Mae sedd newydd Gorllewin Caerdydd yn cynnwys wardiau Pontyclun yn sir Rhondda Cynon Taf, oedd yn arfer bod yn rhan o seddi Pontypridd ac Ogwr.