Ateb y Galw: Sara Davies

Sara DaviesFfynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

Enillydd Cân i Gymru 2024, Sara Davies, sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma.

Yn wreiddiol o Hen Golwyn, mae Sara bellach yn gweithio fel athrawes yn Nhregaron. Enillodd y gystadleuaeth gyda'r gân gariad Ti, a oedd yn defnyddio geiriau roedd ei thaid wedi eu hysgrifennu i'w nain.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dod adre o ysgol a gweld Mam yn pacio achos bo' ni am symud tŷ.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caerdydd oherwydd mae'n fy atgoffa o fod yn coleg, neu Hen Golwyn achos dyma adre i mi.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson ar ôl bod yn gwylio Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn y fanzone yng ngemau’r Euros.

Ffynhonnell y llun, Sara Davies
Disgrifiad o’r llun,

Joio yn y fanzone pan gurodd Cymru Wlad Belg o 3-1

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Direidus, cerddorol ac egnïol.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Seiclo mewn i berson ar wyliau yn Centre Parks (oedd y person yn iawn yn y diwedd).

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn y car ychydig ddyddiau ar ôl Cân i Gymru ar ôl i'r holl beth ddechrau sincio i mewn a sylwi na fydd Taid yn gwybod ei fod wedi ennill y gystadleuaeth efo fi.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Pan oedd Dad yn gofalu amdanom ar ddiwrnod roedd yn rhaid i Mam weithio, ac fe aeth â ni allan am y dydd a ddim sylweddoli fy mod yn fy ngŵn nos drwy'r dydd nes iddo ddangos lluniau i Mam o'r hyn yr oeddem wedi bod yn ei wneud (o'n i tua 10 oed)!

Ffynhonnell y llun, Sara Davies
Disgrifiad o’r llun,

Sara yn cael hwyl yn y parc yn ei gŵn nos... diolch i Dad!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ffeilio ewinedd yn ddyddiol ac yn gorfod cario fy manicure set o gwmpas i le bynnag rwy'n mynd... Habit ers ysgol. Dwi'n cofio crafu teits yn ysgol gyda ewinedd nad oedd wedi'i 'ffeilio' yn berffaith a CHASAU'R teimlad...

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mae Bridesmaids yn un o fy hoff ffilms achos bod hiwmor y cymeriadau fel hiwmor fi a fy nghefnder.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Adele - hi yw fy idol/ysbrydoliaeth ac mae hi'n ddoniol.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n derbyn o leiaf un parsel Amazon yr wythnos... O'n i arfer gweithio yn Aldi ac o'n i’n coach gymnasteg.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun o fi efo’r teulu yn Efrog Newydd ar ben yr Empire State Building, oherwydd mae’n fy atgoffa o un o’r gwyliau gorau cefais efo’r teulu a hefyd mae’n gwneud i mi wenu pan rwy’n hiraethu am adref.

Ffynhonnell y llun, Sara Davies
Disgrifiad o’r llun,

Sara yn Efrog Newydd gyda'i theulu

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd mewn roced i’r lleuad.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Beyoncé - rwy’n siŵr ei bod hi’n byw bywyd glam!

Pynciau cysylltiedig