Ateb y Galw: Morgan Elwy
- Cyhoeddwyd

Enillodd Morgan Elwy Cân i Gymru yn 2021 gyda Bach o Hwne
Y canwr Morgan Elwy, sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan Mared Williams wythnos ddiwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'm yn cofio.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Traeth Abererch.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Neithiwr.

Morgan a'i fand yn Focus Wales
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Andros o llwglyd.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Prynu bass guitar cyntaf fi.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Anghofio tiwnio gitâr mewn gig.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Neithiwr.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes.

Morgan gyda Mali ei chwaer
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?
Led Zeppelin 3 achos mae o'n epic.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Ozzy Osbourne.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Roedd Brian Cox yn dysgu fi yn y brifysgol.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
BBQ.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Bwysig cael amser da efo teulu!

Morgan (dde) gyda'i frodyr a'i chwaer. Mae Jacob, brawd Morgan hefyd yn ganwr
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Gareth Bale.
Hefyd o ddiddordeb: