Sara Davies yn ennill Cân i Gymru 2024 gyda'r gân Ti

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sara DaviesFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sara Davies yn ennill tlws newydd Cân i Gymru a gwobr ariannol o £5,000

Sara Davies sydd wedi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru 2024 gyda'r gân Ti.

Steve Balsamo a Kirstie Roberts oedd yn ail gyda Goleuni, wedi'i pherfformio gan Moli Edwards, tra mai Gwion Phillips ac Efa Rowlands oedd yn drydydd gyda Cysgod Coed.

Mae Sara yn derbyn tlws newydd Cân i Gymru a gwobr ariannol o £5,000, tra bo'r ail safle yn derbyn £3,000 a'r trydydd safle'n cael £2,000.

Am y tro cyntaf roedd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu yn fyw o Arena Abertawe, gyda Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn cyflwyno ar S4C.

Ond bu'n rhaid i'r sianel ymddiheuro nos Wener ar ôl i nifer o bobl honni nad oedden nhw wedi gallu pleidleisio am eu hoff gân oherwydd problemau gyda'r llinellau ffôn.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y beirniaid eleni oedd Bronwen Lewis, Dom James, Carwyn Ellis a Mared Williams, gydag Osian Huw Williams yn cadeirio'r panel

Y beirniaid oedd Bronwen Lewis, Dom James, Mared Williams a Carwyn Ellis, gydag Osian Huw Williams - prif leisydd Candelas - yn cadeirio'r panel.

Roedd cyfanswm o 118 o ganeuon wedi cael eu cyflwyno i'r beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth eleni.

Bu'r beirniaid Bronwen Lewis a Mared Williams yn perfformio fersiwn o Y Cwm gan Huw Chiswell ar y noson hefyd, 40 mlynedd ers i'r gân ennill Cân i Gymru yn 1984.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Steve Balsamo a Kirstie Roberts oedd yn ail gyda Goleuni, wedi'i pherfformio gan Moli Edwards

Cân serch gan daid Sara i'w nain yw Ti.

Ysgrifennodd ei thaid geiriau'r gân cyn iddo farw, ac ar ôl ei golli, aeth Sara ati i gyfansoddi'r gerddoriaeth.

Yn wreiddiol o Hen Golwyn, mae hi bellach yn byw yn Llandysul ac yn athrawes cerddoriaeth, drama a lles yn Ysgol Uwchradd Tregaron.

Mae hi'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian ac yn aelod o'r grŵp 50 Shêds o Lleucu Llwyd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur oedd yn cyflwyno ar y noson

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast fore Sadwrn dywedodd Sara Davies ei bod hi dal mewn sioc.

"Dwi'm yn siŵr os fydd o'n neud synnwyr i fi tan bo' fi'n gwylio fo nôl, ella mewn ychydig o ddyddiau," meddai.

'Breuddwyd taid wedi dod yn wir'

"O'dd nain yn dweud 'o bydde taid mor browd ohona ti', roedd hi bach yn upset ond wedi gwirioni yn deud hefyd bod breuddwyd taid wedi dod yn wir."

O ran y wobr ariannol, mae Sara yn gobeithio y bydd yn rhoi hwb i'w gyrfa fel cantores.

"Bydd o'n helpu efo gallu mynd o gwmpas yn canu mwy, neud gigs y tu hwnt i le dwi'n byw, recordio a phrynu pethau i allu canu - dyna'r bwriad.

"Mae'n teimlo mor bell yn ôl yn barod, dwi'n edrych 'mlaen i weld ymateb pawb a dwi mor ddiolchgar bod pobl mor gefnogol... dwi methu coelio'r peth."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Gwion Phillips ac Efa Rowlands oedd yn drydydd gyda'r gân Cysgod Coed

Y bum gân arall a gyrhaeddodd y rhestr fer oedd:

Heno - Cyfansoddi: Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Perfformio: Elin Hughes

Yr Un Fath - Cyfansoddi a pherfformio: Jacob Howells

Cymru yn y Cymylau - Cyfansoddi: Lowri Jones a Siôn Emlyn Parry. Perfformio: Lowri Jones

Mêl - Cyfansoddi a pherfformio: Owain Huw a Llewelyn Hopwood

Pethau yn Newid - Cyfansoddi a pherfformio: Siôn Rickard

Pynciau cysylltiedig