Lowri Morgan: Disgwyl 28 mlynedd am gap rygbi rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae yna 28 mlynedd wedi bod ers i Lowri Morgan ennill ei chap rygbi cyntaf dros Gymru, ond mi oedd yn rhaid iddi aros tan eleni i'w dderbyn.
Pam hynny felly? Wel mi oedd pethau yn wahanol iawn 'nôl yn y 90au.
"Mi oedd yn rhaid i ni dalu am ein capiau bryd hynny," meddai Lowri wrth Cymru Fyw.
"Fe gytunodd rhai i dalu, ond nes i wrthod. Felly nes i erioed gael un."
Ond fwy na chwarter canrif yn ddiweddarach fe gafodd Lowri ei chap gan Undeb Rygbi Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Y cap cyntaf
Mae Lowri yn wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd, anturiaethwr a rhedwr marathonau ultra y dyddiau hyn, ond roedd yn chwaraewr rygbi talentog pan yn iau hefyd.
Fe gafodd ei galw mewn i garfan Cymru am y tro cyntaf yn 1995, ond mi fu'n rhaid iddi fod yn amyneddgar cyn cael y cyfle i chwarae.
"Mi o'n i'n rhan o'r garfan am amser hir cyn i fi ennill fy nghap cyntaf. Dwi'n cofio bod yn eilydd am sawl gêm, ond nes i ddim dod ymlaen.
"Blaenasgellwr oedd fy safle, ond mi oedd gennym ni reng-ôl gryf a chystadleuol iawn ar y pryd, gyda Liza Burgess yn gapten.
"Fe ddoth y cap cyntaf yn erbyn Yr Alban ym Mhen-y-bont yn 1996. Dwi'n cofio dod ymlaen i'r cae gyda Non Evans."
Profiad 'bythgofiadwy'
Fe barhaodd Lowri i chwarae rygbi am ddwy flynedd arall cyn penderfynu tynnu'n ôl o garfan Cymru.
"Mi o'n i wedi dod o hyd i fy nghariad tuag at redeg erbyn hynny. Nes i redeg fy marathon cyntaf yn 1995, ac erbyn 1998 mi o'n i yn rhedeg mwy a mwy.
"Fe ddoth fy ngyrfa rygbi i ben a finnau heb gael cap i gydnabod fy mod wedi chwarae dros Gymru.
"Doeddwn i ddim yn barod i dalu am un. Doeddwn i ddim yn credu fod hynny'n deg."
- Cyhoeddwyd1 Mai
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
Yn ddiweddar mi gafodd Lowri wybod fod Undeb Rygbi Cymru yn ceisio dod o hyd i'r chwaraewyr nad oedd wedi derbyn capiau.
Mi fuodd hi mewn cysylltiad gyda Joanne Emanuel ac Ann Hawkins sy'n gweithio i'r undeb, a dyma fynd ati i wneud trefniadau.
"Mae Ann a Joanne wedi bod yn flaengar a gweithgar iawn yn dod o hyd i gymaint o fenywod.
"Tydi hi heb fod yn hawdd achos mae lot o'r cyn-chwaraewyr wedi newid eu henwau gan eu bod nhw bellach wedi priodi, tra bod yna lot wedi symud dramor."
Dyma benderfynu cyflwyno cap i Lowri yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, gan ddewis y gêm yn erbyn Yr Eidal yn Stadiwm Principality.
Mi gafodd fynd ar y cae yn ystod hanner amser, a mi oedd hynny yn brofiad arbennig iddi.
"Nes i ddim meddwl y byswn i'n cael cymaint o wefr. O'n i'n wen o glust i glust.
"Mi oedd hi'n fraint ac anrhydedd cael chwarae dros fy ngwlad, ac mi oedd sefyll yno yn derbyn fy nghap yn brofiad bythgofiadwy.
"Mi oedd hi'n golygu lot cael fy nheulu yno hefyd, gan gynnwys fy mab Gwilym.
"Doedd fy rhieni ddim wedi gallu bod yno yn 1996 yn fy ngwylio yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf gan fod mam yn yr ysbyty. Ond mi oedd eu cael nhw yno i fy ngweld i'n derbyn y cap yn golygu cymaint i fi."
Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf
Er bod Lowri yn trysori'r cap yn fawr iawn, mae hi hefyd am ei ddefnyddio i annog mwy o blant i geisio gwireddu eu breuddwydion.
"Dwi'n teimlo'n angerddol iawn am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i geisio cynrychioli eu gwlad mewn pa bynnag gamp maen nhw'n ei ddymuno.
"Nes i roi'r cap i Gwilym fy mab i fynd i'r ysgol ac ysgrifennu llythyr i flwyddyn pedwar yn dweud wrthyn nhw eu bod yn gallu ei drio ymlaen.
"Pan o'n i'n iau yr unig beth yr oeddwn eisiau ei wneud oedd bod yn athletwr proffesiynol, a dwi'n gobeithio y bydd rhai o'r plant yn gallu gwneud yr un peth."
Mae Lowri yn teimlo fod agweddau pobl tuag at chwaraeon menywod wedi datblygu lot fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf o fewn sefydliadau fel Undeb Rygbi Cymru.
Mae hi mor falch ei bod hi wedi cael cydnabyddiaeth am ei chyfraniad i'r tîm yn ystod cyfnod lle oedd y chwaraewyr yn gorfod aberthu lot er mwyn chwarae rygbi rhyngwladol.
"Ges i sgwrs gyda'r capten Hannah Jones ar ôl y gêm yn erbyn Yr Eidal.
"Mi oedd hi'n hyfryd cael Hannah yn diolch i ni am greu llwybr iddyn nhw allu chwarae'r gêm yn broffesiynol y dyddiau yma, a gweld y parch sydd gan y garfan bresennol tuag atom ni."