Ble fydd cartref nesaf y Gweilch?
![Gweilch](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/4967/live/95b037e0-0632-11ef-82e8-cd354766a224.jpg)
- Cyhoeddwyd
Mae Stadiwm Swansea.com wedi bod yn gartref i'r Gweilch ers 2005, ond maen nhw bellach yn chwilio am gartref newydd.
Ar hyn o bryd maen nhw'n rhannu'r safle gyda thîm pêl-droed Abertawe.
Dymuniad Prif Weithredwr y rhanbarth, Lance Bradley, yw symud i stadiwm lai o faint sy'n fwy addas ar gyfer eu gofynion.
Mae'r rhanbarth yn ymestyn o Abertawe i Gastell-nedd, a Phen-y-bont ar Ogwr yn y dwyrain.
Mae disgwyl cyhoeddiad o fewn yr wythnosau nesaf.
![Gweni, Elin a Nia](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/5bc8/live/0094f090-0661-11ef-82e8-cd354766a224.jpg)
Mae Gweni, Elin Mannion a Nia o'r farn mai Pen-y-bont yw'r lle gorau i'r Gweilch
Yn ddiweddar mae’r Gweilch wedi chwarae dwy gêm gartref ar Gae’r Bragdy ym Mhen-y-bont, ac wedi herio Sale yng Nghwpan Her Ewrop o flaen tyrfa lewyrchus a swnllyd.
Mae rhai o'r plant sy'n aelodau o glwb rygbi Pen-y-bont o'r farn y dylai'r tîm ymgartrefu yn yr ardal.
Dywedodd Gweni y byddai'n "hoffi os bydde nhw'n symud i Ben-y-bont oherwydd mae'r siwrne o Ben-y-bont i Abertawe yn eithaf hir, a bydd yn neis oherwydd mae lot o bobl yn cefnogi'r Gweilch o Ben-y-bont".
Fe ychwanegodd Nia ei bod "eisiau gweld nhw'n chwarae ym Mhen-y-bont oherwydd dwi'n joio gweld nhw a bydd e'n haws i gyrraedd y gemau".
Pen-y-bont 'yn barod i groesawu'r Gweilch'
Un o'r prif bethau sydd gan Ben-y-bont i'w gynnig i'r tîm yw'r cyfleusterau, meddai Elin Mannion.
"Mae'r holl gyfleusterau yma ac mae'n rhaid ystyried hwnna, ma' sawl hewl mewn i Ben-y-bont, ma' lle i barcio ym Mhen-y-Bont, gorsaf drên, bwytai, ma' popeth yma, ni'n barod yma ym Mhen-y-Bont i groesawu'r Gweilch."
![Wayne Pedrick](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/db95/live/7dd0e050-0661-11ef-bee9-6125e244a4cd.jpg)
Mae Wayne Pedrick am weld y tîm yn ymgartrefu yng Nghastell-nedd neu yn Abertawe
Ers canrif a mwy y Gnoll yng Nghastell-nedd fu cartref y crysau duon Cymreig.
Er mai lle i ryw 6,000 sydd yma ar hyn o bryd, mae cefnogwyr yn dadlau bod 'na fanteision i ddod yma.
Dywedodd Wayne Pedrick, un o gefnogwyr y Gweilch, yr hoffai "weld e [y rhanbarth] yng Nghastell-nedd neu yn Abertawe, fydde ddim ots da fi p'un, achos fi'n dod o Wauncaegurwen ac i drafeilio, mae biti'r un faint i fi".
"Se fe lawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ma' hwnna'n dipyn o ffordd i ni ddod lawr i fan 'na."
![Keith Collins](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/e8d9/live/e195f3f0-0661-11ef-b9d8-4f52aebe147d.jpg)
Mae Keith Collins yn gobeithio y bydd "pawb yn dod at ei gilydd fel un" i ddewis y lleoliad
Aros yn Abertawe yw’r opsiwn arall ond symud ymhellach i’r gorllewin i faes Sarn Helen.
Cae sydd wedi cynnal gemau rygbi a chriced o bwys hanesyddol ar hyd y blynyddoedd.
Ond yma eto mi fyddai angen datblygu ac addasu.
Gobaith Keith Collins, ysgrifennydd clwb Cefnogwyr y Gweilch yw "y bydd pawb yn cael y tu ôl i'r tîm a bydd pawb yn dod at ei gilydd fel un", gan ddweud bod y Gweilch wedi chware i safon uchel eleni.
![Roedd Maes y Bragdy yn llawn pan chwaraeodd y Gweilch yno ddydd Calan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1008/cpsprodpb/61be/live/68b229a0-0633-11ef-9165-0d1fa32fedf5.jpg)
Roedd Cae'r Bragdy yn llawn pan chwaraeodd y Gweilch yno ddydd Calan
Dyw’r Gweilch ddim wedi dweud yn swyddogol pa leoliadau sydd o dan ystyriaeth ond mae'r rhanbarth wedi bod yn holi barn cefnogwyr a phobl fusnes.
Chwilio am leoliad fydd ag awyrgylch hwyliog a chyfleusterau da yw’r nod a chartref fydd yn esgor ar lwyddiant ar y cae hefyd.
Mae disgwyl cyhoeddiad o fewn yr wythnosau nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2024