£7bn mewn hen arian yn parhau mewn cylchrediad

hen bapur £5Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerth £548m o bapurau £5 yn parhau mewn cylchrediad

  • Cyhoeddwyd

Nid yw £7.2 biliwn mewn hen arian papur wedi eu cyfnewid na'u bancio, er nad yw arian papur £20 a £50 yn gyfreithlon ers mis Hydref 2022.

Mae arian papur wedi'u disodli gan arian plastig gyda chyfres o nodweddion diogelwch.

Dywedodd Banc Lloegr y gallai'r arian papur gael eu cyfnewid neu eu rhoi yn eich banc o hyd.

Datgelwyd manylion yr arian sy'n dal mewn cylchrediad neu'n cuddio mewn cartrefi yn dilyn ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.

Dywedodd Banc Lloegr fod 395 miliwn o ddarnau o arian papur yn parhau mewn cylchrediad:

  • 110 miliwn o bapurau £5

  • 62 miliwn o bapurau £10

  • 171 miliwn o bapurau £20

  • 52 miliwn o bapurau £50

Tynnwyd y darnau papur £5 yn ôl ym mis Mai 2017, y papur £10 ym mis Mawrth 2018, a’r papur £20 a £50 ar 30 Medi 2022, ac ers hynny nid ydynt wedi bod yn ddull talu cyfreithiol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth oes y darn arian crwn £1 i ben am hanner nos ar 15 Hydref 2017

Yn ogystal â'r arian papur, dywedodd y Bathdy Brenhinol nad oedd tua 76 miliwn o hen ddarnau arian £1 wedi'u dychwelyd.

Fodd bynnag, mae tua 11 miliwn wedi'u dychwelyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

O'r 1.6 biliwn sydd wedi'u dychwelyd, roedd tua 1.8 miliwn yn ffug.

Disodlwyd y darn arian crwn £1 gan y fersiwn 12 ochr ym mis Hydref 2017, er mwyn mynd i'r afael â ffugio.

Mae'r hen ddarn £1 yn dal i gael ei dderbyn gan Swyddfa'r Post ond ni ellir ei wario mewn siopau.

Yn ôl y Bathdy Brenhinol, sy'n eiddo i Drysorlys y DU, mae tua 138 miliwn o hen ddarnau £1 wedi'u toddi i wneud rhai o'r rhai newydd yn eu canolfan yn Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf.

Ffynhonnell y llun, Banc Lloegr
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y £50 polymer gyfres o nodweddion diogelwch

Daeth y £50 polymer - gyda phortread Alan Turing - i gylchrediad ar 23 Mehefin 2021, sy'n golygu bod casgliad cyfan y Banc wedi'i wneud o blastig erbyn hyn.

Er nad yw'r arian papur bellach yn gyfreithiol, byddant bob amser yn cael eu cyfnewid gan Fanc Lloegr.

Eglurodd llefarydd fod "pob papur banc dilys Banc Lloegr sydd wedi ei dynnu allan o gylchrediad yn cadw eu hwynebwerth am byth".

Dywedodd Banc Lloegr mai'r ffordd symlaf a chyflymaf o gyfnewid arian papur "fel arfer fydd eu hadneuo gyda'ch banc".

"Gallwch gyfnewid arian papur mewn rhai o ganghennau Swyddfa'r Post. Y gwerth mwyaf y gallwch ei gyfnewid yn Swyddfa'r Post yw £300."

Gostyngodd y defnydd o arian parod yn sydyn yn ystod y pandemig, wrth i gyfnodau clo leihau opsiynau gwario.

Cyflymodd hyn duedd ar i lawr o ran y defnydd o arian parod.

Fodd bynnag, roedd arian parod yn dal i gyfrif am 12% o'r holl daliadau yn 2023, yn ôl y ffigurau diweddaraf gan y corff bancio UK Finance, sy'n golygu mai dyma'r ail ffordd fwyaf poblogaidd o dalu ar ôl cardiau debyd.

Pynciau cysylltiedig