Cau banciau yn 'peri cryn ofid' i gymunedau Ceredigion

Barclays Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Banc Barclays yn dweud fod ymweliadau â changhennau yn lleihau a bod y mwyafrif yn dewis bancio ar-lein

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na bryder y bydd cau cangen olaf banc Barclays yng Ngheredigion yn creu anawsterau "brawychus" i'r gymuned ac i fudiadau lleol.

Yn ôl Gwenno Watkin, trysorydd Cylch Cinio Merched Aberystwyth, mae'r penderfyniad yn dangos "anwybodaeth lwyr o anghenion y gymuned".

Fe gaeodd cangen Barclays yn Aberystwyth, yr olaf yn y sir, ar 3 Mai.

Dywed Barclays bod llai'n ymweld â changhennau a mwy yn bancio ar-lein, a bydd yna wasanaeth newydd i gwsmeriaid yn y dref, gyda chymorth staff, dridiau'r wythnos o wythnos nesaf ymlaen.

Mae'r AS lleol, Ben Lake yn pwyso i gael hybiau bancio yn y sir, ac yn gobeithio y bydd yna newid i'r meini prawf a fyddai'n gwneud hi'n bosib i'w sefydlu mewn llefydd fel Ceredigion.

Roedd Gwenno Watkin yn defnyddio cangen Barclays yn Aberystwyth yn gyson, ac mae cau'r safle, meddai, yn bryder mawr i bobl.

Mewn llythyr at Barclays yn mynegi siom Cylch Cinio Merched Aberystwyth ynghylch y penderfyniad, dywedodd Ms Watkin fod y newid yn "peri cryn ofid" i aelodau.

Mae 35-40 o aelodau, yn eu 60au a'u 70au neu'n hŷn, yn cwrdd unwaith y mis mewn bwytai lleol i fwynhau pryd, cael sgwrs gan westai gwadd ac i gymdeithasu.

Mae’r rhan fwyaf yn talu £20 bob mis drwy archeb barhaol i’r cyfrif banc, ond mae’n well gan rai dalu gydag arian parod ar y noson, ac roedd yr arian yma wedyn yn cael ei dalu i mewn yn y gangen leol.

'Gwasanaeth sâl iawn'

“Ni fedrwn dalu'r arian parod fewn i'r cyfrif," meddai Ms Watkin. "Nid oes gennym garden debyd felly ni fyddai'n bosib i ni ddefnyddio'r dulliau eraill – fel y Swyddfa Bost - sy'n cael eu hawgrymu gan Barclays.

“Ni fyddwn yn gallu gwneud taliadau BACS, gan nad oes gennym bancio ar-lein.”

Ychwanegodd nad yw'r llinell gymorth mor ddefnyddiol â'r swyddogion yn y gangen leol oedd "bob amser yn gymwynasgar".

"Gellir treulio oriau yn disgwyl am ateb [ar y ffôn], cael ein trosglwyddo o un adran i'r llall a gorfod ateb yr un cwestiynau diogelwch dro ar ôl tro. Mae’n wasanaeth sâl iawn.

“Mae'r llinell gymorth Cymraeg yn cael ei hateb yn gyflymach, ond yn anffodus ni ellir cael ateb i bob problem.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Ms Watkin yn poeni am effaith bosib y penderfyniad ar lefelau unigrwydd ac iechyd meddwl aelodau'r cylch cinio - ac ar yr ardal yn ehangach.

“Mae cau'r gangen yn golygu colli swyddi yn lleol a gadael adeilad mawr yn wag yng nghanol y dref – sydd, unwaith eto, yn dangos anwybodaeth lwyr o anghenion y 'bobl bach' gan y corfforaethau mawr.”

Yn ei llythyr, fe gwestiynodd hefyd y ffaith fod Barclays yn cyfeirio cwsmeriaid at eu canghennau yng Nghaerfyrddin ac Abertawe os am gael gwasanaeth wyneb yn wyneb.

“Ydych chi wedi ystyried o gwbl fod yr agosaf o'r canghennau yma yn golygu taith o fwy na thair awr mewn car, a llawer mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus? Ydych chi wedi ystyried cost y siwrneiau hyn?” gofynnodd.

“Ydych chi wir, o ddifrif, yn disgwyl i henoed, pobl anabl, rhai heb gar neu yn gweithio llawn amser, fedru gwneud siwrnai o'r fath a bod ganddynt yr amser i wneud hynny?”

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth ymateb i lythyr Ms Watkin, dywedodd Barclays y bydd angen mynd ar-lein, ar ap neu ddefnyddio gwasanaeth y Swyddfa'r Post.

Mae'r cylch cinio erbyn hyn wedi defnyddio'r gwasanaeth hwnnw ar ôl "llanw ffurflen wyth tudalen, a llawer o ‘ffaff’, er mwyn cael carden debyd sy’n ein galluogi i dalu arian fewn yn y Swyddfa Bost a thalu am ein bwyd mewn bwytai".

"Mae hyn wedi gweithio’n iawn hyd yn hyn ond dim ond y ffôn fyddai ar gael petai rhywbeth yn mynd o le," meddai.

'Rhaid addasu wrth i lai ymweld â changen'

Mewn datganiad i Cymru Fyw, dywedodd llefarydd ar ran Barclays: "Wrth i ymweliadau â changhennau barhau i leihau, gyda'r mwyafrif o bobl yn ffafrio bancio ar-lein, mae angen i ni addasu er mwyn rhoi'r gwasanaeth gorau i ein holl gwsmeriaid.

"Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn Aberystwyth, ble rydym yn darparu ffyrdd newydd o gefnogi ein cwsmeriaid a'r gymuned gydag opsiynau ar gyfer y rheiny sydd angen gwasanaethau mewn person."

Roedd y banc eisoes wedi datgan bwriad i sefydlu gwasanaeth Barclays Lleol yn y dref, sef safle heb arian ble gallai cwsmeriaid gael cymorth wyneb yn wyneb gan aelod staff "fel y bydden nhw mewn cangen heb yr angen i deithio".

Dywedodd y llefarydd eu bod "wedi gweithio gyda'r gymuned leol i ganfod safle addas" a'u bod yn "falch" o gadarnhau'r trefniadau newydd.

O ddydd Mawrth 14 Mai ymlaen fe fydd gan y banc "bresenoldeb corfforol dridiau yr wythnos" yng nghanolfan Gyrfa Cymru, rhwng 09:30 a 12:30 a rhwng 13:00 a 15:30, ar ddyddiau Mawrth, Mercher a Iau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cangen Halifax yn Aberystwyth a changen Lloyds yn Aberteifi yn cau yn yr wythnosau nesaf

Mae sawl cangen wedi cau yng Ngheredigion yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys yn Aberteifi ar 26 Ebrill eleni.

Roedd yna ganghennau tan yn lled ddiweddar hefyd yn Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan a Thregaron.

Ond nid Barclays yw'r unig fanc sy'n cau safleoedd yn y canolbarth - mae Halifax wedi cyhoeddi y bydd eu cangen yn Aberystwyth yn cau ar 29 Gorffennaf, tra bod Banc Lloyds yn bwriadu cau eu cangen yn Aberteifi ar 27 Mehefin.

Mae colli canghennau banc mewn ardaloedd gwledig yn destun pryder i'r AS lleol, Ben Lake sydd wedi codi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin, a chyhoeddi deiseb yn galw am hybiau bancio i Geredigion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ben Lake yn galw am greu hybiau bancio mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion

"Bellach, does dim un cangen Barclays ar ôl yng Ngheredigion - ffaith sy'n hynod siomedig a rhwystredig i nifer fawr o bobl ar draws yr etholaeth," dywedodd.

"Mae'n amlwg nad yw Barclays yn deall yr heriau sy'n wynebu pobl wrth fancio yng nghefn gwlad Cymru gan fod eu cwsmeriaid bellach yn gorfod teithio hyd at 40 milltir un ffordd i gyrraedd eu cangen agosaf.

"Yn anffodus, mae hyn yn wir am nifer o fanciau, sydd wedi bod yn cau canghennau'n lleol ers blynyddoedd maith bellach.

"Mae'r sefyllfa erbyn hyn yn galw am adolygiad brys, a'r angen am ganolfan bancio cymunedol yn fwy nag erioed, er mwyn darparu gwasanaeth lawn i gwsmeriaid o bob banc."

Mae Mr Lake wedi cyfarfod gyda'r cyrff perthnasol i drafod y posibilrwydd o gael hybiau bancio i Geredigion, ond mae'r meini prawf ar hyn o bryd ar gyfer trefi "yn gyfyng iawn ac yn ei gwneud hi bron yn amhosib i drefi gwledig fod yn gymwys".

Serch hynny mae yna obaith y bydd y meini prawf yma'n newid - o bosib cyn diwedd y flwyddyn - yn dilyn ymgynghoriad gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Pynciau Cysylltiedig