Safonau'r Gymraeg: Senedd yn gwrthod cynnig i gynnwys banciau
- Cyhoeddwyd
Mae Senedd Cymru wedi gwrthod cynnig y dylai banciau fod yn gaeth i reolau ar ddarparu gwasanaethau Cymraeg.
Nos Fawrth, pleidleisiwyd o blaid cynnig Llywodraeth Cymru i "nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2022-23".
Roedd Plaid Cymru wedi cynnig gwelliant i ychwanegu ar ddiwedd y cynnig "yn nodi gwaith y Comisiynydd i annog sefydliadau yn y sector preifat, megis y sector bancio, i ddefnyddio'r Gymraeg ar sail anstatudol; ac yn cytuno y dylai banciau fod yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg statudol".
Cefnogwyd y gwelliant gan y Ceidwadwyr ond pleidleisiodd Llywodraeth Cymru yn erbyn.
Roedd 26 aelod o blaid y gwelliant a 27 yn erbyn.
Cyflwynwyd y gwelliant gan Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru.
Gan gyfeirio at benderfyniad HSBC i gau'r gwasanaeth ffôn Cymraeg, dywedodd ei fod yn "dangos hefyd pam bod y gwaith o gael safonau mor eithriadol o bwysig - ein bod ni'n gallu gweld cwmnïau sydd wedi ymrwymo mor gynnes a chadarn yn y gorffennol, pa mor gyflym mae gwasanaeth yn gallu diflannu".
Ychwanegodd: "Dwi'n ofni, os nad ydyn ni'n edrych o ran ehangu'r rheoliadau ac ati a safonau, byddwn ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn dewis torri gwasanaethau, sydd yn mynd yn gyfan gwbl groes i'r amcan sydd ganddon ni o ran nid yn unig cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg ond y defnydd o'r Gymraeg fel iaith dydd i ddydd.
"Oherwydd mae yna fygythiad gwirioneddol fan hyn."
Beth ydy safonau'r Gymraeg?
Bwriad Safonau'r Gymraeg, a ddaeth i rym ar ôl pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan y Cynulliad Cenedlaethol (Senedd Cymru erbyn hyn) yw:
•cynyddu defnydd pobl o wasanaethau Cymraeg;
•gwella'r gwasanaethau Cymraeg y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl gan gyrff;
•ei gwneud yn glir i gyrff yr hyn y mae angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg.
Ar ran y Ceidwadwyr, dywedodd Samuel Kurtz, "rwy'n ffodus, fel chi, weinidog, i allu defnyddio'r Gymraeg pryd bynnag rwy'n dymuno, naill ai yn rhinwedd fy swydd neu'n gymdeithasol, ond, dyw pawb ddim mor ffodus, ac mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom yn y Siambr hon i barhau i ymdrechu i wneud Cymru'n genedl gwbl ddwyieithog".
Esboniodd pam fod y Ceidwadwyr yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru: "Roedd agwedd HSBC wrth gyhoeddi eu bod am roi'r gorau i gynnig gwasanaeth llinell ffôn Gymraeg yn warthus.
"I mi, roedd yn dangos diffyg parch at eu cwsmeriaid Cymraeg a'r iaith ac yn niweidio enw da'r cwmni yma yng Nghymru. Mae'r comisiynydd a'i rhagflaenwyr wedi gweithio'n galed i annog y defnydd o'r Gymraeg drwy ddulliau anstatudol.
"Efallai mai nawr yw'r amser i fanciau gadw at safonau swyddogol y Gymraeg."
Daeth i'r casgliad: "Rydym ar lwybr - y llwybr cywir, gobeithio - ond mae llawer o rwystrau yn parhau os ydym am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, lle mae pobl yn rhydd i sgwrsio yn eu dewis iaith mewn cenedl gwbl ddwyieithog."
'Blaenoriaethu'
Esboniodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, "y rheswm na fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliant yw, dyw e ddim yn rhan o raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth".
"Wrth gwrs, ry' ni wedi cytuno â Phlaid Cymru rhaglen o weithgarwch ynglŷn â'r blaenoriaethu - y pethau ry' ni'n teimlo ar y cyd a wnaiff y gwahaniaeth fwyaf i'r nifer fwyaf o bobl.
"Felly, dyna'r rheswm na fyddwn yn cefnogi'r gwelliant."
Ond dywedodd ei fod yn cytuno bod "agwedd sarhaus ar ran banc HSBC ac yn cytuno'n llwyr â geiriau Siân Gwenllian [AS Arfon] ynglŷn â'r tro ar fyd sydd wedi dod ers dyddiau banc y Midland, a oedd yn enghraifft loyw o sut i ymddwyn mewn ffordd sydd yn barchus ac yn gynhwysol o ran yr iaith.
"Felly, rydw i'n rhannu'r ymdeimlad hwnnw yn sicr. Rwyf wedi ysgrifennu at benaethiaid y banciau i gyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2023