Cofio Eisteddfod Aberdâr 1956 wrth baratoi at 2024
- Cyhoeddwyd
Ar ôl cyffro Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yr wythnos ddiwethaf, mae'r gwaith paratoi eisoes wedi dechrau ar gyfer prifwyl Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf.
Dyma fydd y tro cynta i'r Eisteddfod gael ei chynnal yn y sir ers 1956.
Aberdâr oedd y lleoliad bryd hynny, ac mae rhai o drigolion yr ardal wedi bod yn rhannu eu hatgofion o'r ŵyl y flwyddyn honno.
Mae Elfed Davies o'r Gadlys, Aberdar yn 94 oed. Roedd yn aelod o'r pwyllgor gwaith ym 1956 - yr unig aelod sydd ar ôl erbyn heddiw.
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023
Mae'n cofio'r awydd yn y cylch i ddenu'r Eisteddfod i Barc Aberdâr.
"Odd lot o steddfodau bach yn (Theatr) y Coliseum gyda ni bryd hynny - plant a phethe' fel 'na.. a lot o gwmnïau dramau, capeli a pethe' a'r rheiny oedd wedi penderfynu i wneud cais i gynnal yr Eisteddfod.
"O'dd Aberdâr wedi colli rhyw bedair gwaith o'r blaen i rai eraill yn y de, ac o'n nhw'n ffodus dros ben i gael hwn wedyn."
Flwyddyn cyn yr Eisteddfod, cafodd Gŵyl y Cyhoeddi ei chynnal ym mis Mehefin 1955, ac fe gafodd ei dangos gan y BBC - y tro cynta i seremoni'r Orsedd gael ei dangos ar y teledu.
Mae'n debyg bod torf o rhwng 10,000 a 12,000 yno yn gwylio'r seremoni.
"Wi'n cofio cerdded lan gyda tri phlentyn o'r ysgol ble o'n i'n dysgu yn Hirwaun," meddai Elfed.
"O'n nhw'n cario'r faner, a dw i'n cofio achos doedd dim traffig ar yr hewl o gwbl - o'dd y cyngor mo'yn pawb yn saff."
Yn yr Eisteddfod ei hun ym mis Awst 1956, Elfed oedd un o ysgrifenyddion y pwyllgor celf a chrefft.
Bryd hynny, roedd yr ŵyl yn cynnwys nifer o gystadleuthau gwahanol iawn i heddiw - fel creu llwy bren, ac adran benodol i'r glowyr gan gynnwys cystadleuaeth clymu a phlethu gwifrau
Mae Elfed yn cofio'r gwaith o baratoi'r babell cyn yr Eisteddfod, oedd yn golygu aros tan yn hwyr y nos i sicrhau bod popeth yn ei le.
"O'n i'n gwneud popeth yn deidi cyn mynd, a wedyn wrth fynd mas o'n i wedi dweud 'gadewch y glwyd yn Glan Road ar agor ac fe allwn ni gerdded mas a wedyn cloi e.'
"Ond o'dd e ar glo, ac o'n i'n gorfod dringo dros y wal a neidio lawr.
"O'dd dau neu dri ohonon ni, ac yn ffodus doedden ni ddim wedi torri dim byd achos o'dd y wal yn uchel!"
Un arall sy'n cofio cymryd rhan yn Eisteddfod 1956 yw'r actores Gaynor Morgan Rees - cafodd ei geni a'i magu ychydig filltiroedd i'r de o'r maes ym mhentref Abercwmboi.
"Dw i'n teimlo ei bod hi'n dywydd sych a braf achos mae gen i luniau o Meinwen Llywelyn a fi yn tynnu lluniau i'r wasg ar y pryd a mae'r tywydd bob amser yn sych!
"Odd yr Eisteddfod yn wahanol iawn wrth gwrs i heddiw - nosweithiau llawen a dawnsio gwerin nid gigs a phethe' fel 'na, ac wrth gwrs o'dd Sian Phillips yno am y tro cynta' yn y 'Steddfod - cymerwch chi sigarét a Siwan (gan Saunders Lewis) wnaeth hi."
Mae'n cofio hefyd y cymdeithasu yn yr hwyr ynghanol Aberdâr.
"Canu emynau bryd hynny ynte - cerflun Caradog ynghanol y dref, dyna lle oedden ni i gyd yn ymgasglu, a llawer iawn o gerdded 'nôl i'r pentrefi yn hytrach na mynd mewn tacsis - o'dd dim siwd beth â thacsis - cerdded o'dd pawb yn 'neud bryd hynny!"
Mae Gaynor Morgan Rees yn pwysleisio faint o weithgarwch trwy gyfrwng y Gymraeg oedd yn digwydd yng Nghwm Cynon yn y 1950au.
"Odd y Cymrodorion yn gryf iawn er enghraifft, mi oedd pump eisteddfod yn cael eu cynnal yn y cwm yr adeg hynny.
Roedd canu corawl yn ei anterth yn y cwm yr adeg honno, meddai, a channoedd yng Nghôr yr Eisteddfod.
"Oedden nhw'n ymarfer am ddwy flynedd yn barhaus, ac o'n nhw'n neud pethe' fel y Meseia - ddim jyst ambell i gan ond nosweithiau llawn, a'r London Philharmonic Orchestra yn dod i gyfeilio [iddyn] nhw."
'Lot o atgofion'
Mae'r gantores Susan Dennis-Gabriel yn byw yn Vienna ers blynyddoedd, ond cafodd ei geni a'i magu yn Aberdâr ac roedd yn 10 oed adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yno.
"Mae lot o atgofion gyda fi, o'n i'n edrych ar y rhaglenni ac o'n i'n gallu cofio beth o'n i'n canu a chofio'r geiriau!"
"O'dd côr gyda ni o'r ysgol yn cystadlu, ac enillon ni'r wobr gynta' - o'dd hwnna'n ffantastig.
"On i'n canu 'Cân yr Arad Goch', ac un gân gan Schubert - dw i byth wedi anghofio hwnna achos dw i wedi canu fe yn Almaeneg sawl gwaith oddi ar 'ny.
"Mae'r geiriau yn fy mhen o hyd - o'n i'n dwlu ar y gân a wedyn canes i fe yn Almaeneg flynyddoedd ar ôl 'ny."
Roedd 'na gyngerdd i'r plant yn y pafiliwn ar nos Fawrth yr Eisteddfod.
"On i'n cyfri heddiw," meddai Susan "O'dd mwy na 800 o blant yn y cyngerdd 'ma, a rhai eraill yn dawnsio, 'neud cân actol a chanu penillion.
"Teitl y cyngerdd oedd Y Tymhorau - o'n ni'n dechrau gyda'r gwanwyn, haf, hydref a gaeaf ac odd e'n gyngerdd enfawr o'n i byth yn anghofio fe.
"Wi'n hen wraig nawr ond mae'n ffres yn fy nghof i!"
- Cyhoeddwyd29 Medi 2022
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022
Cafodd Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 ei chynnal yn Aberdâr ym mis Mehefin eleni, ac yn ystod y seremoni, fe fu'r archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn cyfeirio at Elfed Davies.
"O'dd hwnna'n arbennig," meddai Elfed.
"Wedyn ar ôl y cyhoeddiad 'ethon ni lan i ble oedden nhw'n cael rhywbeth i fwyta, a fe ddaeth e [Myrddin ap Dafydd] i siarad 'da fi achos o'dd e wedi dweud ei fod e eisiau siarad da fi, ond yn anffodus doedd e ddim yn gwisgo'i het achos o'dd e'n rhy dwym!"
Roedd Gaynor Morgan Rees yn y seremoni hefyd, yn cerdded yng ngorymdaith yr Orsedd.
"Mi oedd yn brofiad gwefreiddiol!" meddai
"Mi oedd y strydoedd yn llawn o bobl ac am y tro cynta' erioed i mi gofio o'dd pobl yn cymeradwyo wrth i ni gerdded heibio - wir o'dd e'n brofiad bythgofiadwy!
"Dw i'n edrych ymlaen yn fawr iawn at Eisteddfod Rhondda Cynon Taf."