Pontypridd i lwyfannu Eisteddfod drefol yn 2024

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd Eisteddfod 2024
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd arwydd ei ddadorchuddio ym Mharc Ynysangharad ddydd Llun yn ei nodi fel cartref Eisteddfod 2024

Parc Ynysangharad ym Mhontypridd fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2024.

Ar faes Prifwyl eleni yn Llŷn ac Eifionydd, daeth y cyhoeddiad ynglŷn ag union leoliad Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.

Yn ôl y trefnwyr, y bwriad yw defnyddio'r parc a rhannau o'r dref ar gyfer yr ŵyl fis Awst y flwyddyn nesaf, gan greu "Eisteddfod drefol, amgen a chyffrous, sy'n cyfuno'r ardal leol gyda'r ŵyl ei hun".

Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn yr ardal ers 1956, ac yn Aberdâr oedd hi bryd hynny.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont yma'n cysylltu Parc Ynysangharad gyda chanol y dref

Mae Pontypridd "yn ardal wych i gynnal canolbwynt yr Eisteddfod," meddai arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan, ym Moduan ddydd Llun.

"Mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych y dref yn golygu y bydd yr Eisteddfod yn hygyrch i ymwelwyr o Rhondda Cynon Taf ac o Gymru gyfan.

"Byddwn yn edrych ar sut i wneud trafnidiaeth gynaliadwy yn allweddol i'r Eisteddfod, a chyda Metro De Cymru ar y gorwel, bydd gan Bontypridd 24 o drenau'r awr yn rhedeg drwy'r orsaf o'r Cymoedd a Chaerdydd."

'Pawb wedi bod ar dân eisiau cael gwybod'

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, Helen Prosser, ei bod yn falch bod y cyhoeddiad wedi'i wneud bellach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Prosser yn cydnabod heriau mynd â'r Brifwyl "i gymoedd anwastad a bryniog y de-ddwyrain"

"Mae pawb wedi bod ar dân eisiau cael gwybod," meddai.

"Mae'r trafodaethau wedi bod yn rhai hir, gyda'r sgyrsiau cychwynnol i ddod â'r Brifwyl i ardal Rhondda Cynon Taf wedi'u cynnal nôl yn 2017.

"Nid ar chwarae bach mae dod â gŵyl mor fawr â'r Eisteddfod i gymoedd anwastad a bryniog y de-ddwyrain, ond rydyn ni wrth ein boddau i gael rhannu'r newyddion mawr gyda phawb."

'Gwahanol iawn'

Ychwanegodd: "Mae'n mynd i fod yn wahanol iawn i Foduan - byddwn ni ynghanol tref.

"Y prif beth yw hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardal, a hyrwyddo'n economi hefyd gan bo' ni nghanol Pontypridd.

"Mae'n gyfle i'r busnesau gofleidio'r Steddfod, ac i'r Steddfod gofleidio'r busnesau a'u Cymreigio nhw hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan fod ganddo "ddim pryderon" o ran codi arian yn lleol

Mae arweinydd y Cyngor, Andrew Morgan yn cydnabod y bydd yn "Eisteddfod wahanol".

"Ni'n benderfynol i sicrhau bod Eisteddfod y flwyddyn nesaf mor wyrdd â phosib," meddai.

"Bydd yn un o'r eisteddfodau mwyaf cynhwysol ers sawl blwyddyn."

Mynediad am ddim?

Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan fod y cyngor wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru i alluogi mynediad i bawb sydd eisiau ymweld â'r maes.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cyngor RhCT

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cyngor RhCT

"Bydden ni'n sicr eisiau annog teuluoedd i allu dod, boed hynny'n gost isel neu docynnau am ddim, ond mae'n dibynnu ar faint o arian sydd ar gael.

"Ond mae'n bwysig cofio pan gafodd Caerdydd Eisteddfod am ddim, bod ffigyrau [ymwelwyr] rhywle rhwng 350,000 a 400,000.

"Byddai gen i bryderon dros y nifer yna ym Mhontypridd - dwi'n meddwl byddai 200,000 dros saith diwrnod yn iawn, a dyna'r targed.

"Felly mae balans rhwng cael pris mynediad is, neu am ddim i rai - rydyn ni'n gweithio drwy hynny gyda'r llywodraeth a'r Eisteddfod."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ei lansio mewn gŵyl arbennig yn Nhreorci ym mis Mawrth

Dywedodd y Cynghorydd Morgan hefyd ei fod yn hyderus y gall y sir efelychu ymdrechion codi arian uchelgeisiol y ddwy Eisteddfod ddiwethaf.

"Ers y cyhoeddiad yn Aberdâr a'r lansiad swyddogol yn Nhreorci, mae'r gymuned wedi cyffroi yn barod," meddai.

"Dwi'n gwybod bod y pwyllgorau cymunedol eisoes yn gwneud yn dda wrth godi arian yn lleol.

"Mae diddordeb ac angerdd gwirioneddol dros weld yr ŵyl yn dod i Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf, felly does gen i ddim pryderon - dwi'n credu gawn ni Eisteddfod wych."

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Osian Rowlands yw y bydd pobl Rhondda Cynon Taf yn "cwympo nôl mewn cariad gyda'r iaith"

Yn siarad gyda Radio Cymru, dywedodd prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Osian Rowlands, mai ei obaith ef yw na fydd yn clywed unrhyw un yn defnyddio'r frawddeg "My Welsh isn't good enough".

Ychwanegodd ei fod eisiau gweld "pobl Rhondda Cynon Taf yn defnyddio'r Gymraeg sydd ganddon nhw, a bo' nhw'n falch o'r Gymraeg sydd gyda nhw".

"Gobeithio bydd rhai pobl yn cwympo nôl mewn cariad gyda'r iaith a dod i ailgysylltu gyda'r iaith, a bydd y Gymraeg yn fwy gweladwy nid yn unig ym Mhontypridd ond hefyd mewn trefi fel Tonypandy, lan yn Nhreorci, yn Aberpennar, yn Aberdâr," meddai.

Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal rhwng 3 a 10 Awst 2024.