‘Dwi’n byw efo’r Aussies – felly dwi isio ennill!’
- Cyhoeddwyd
Does dim llawer o gefnogwyr sydd eisiau gweld Cymru’n ennill ddydd Sul yn fwy na Bryn Parry.
Ag yntau bellach yn byw yn Awstralia, mae wedi dychwelyd o ochr arall y byd i ddilyn ei wlad yng Nghwpan Rygbi’r Byd gyda chriw o Glwb Rygbi Caernarfon.
Felly dydy o’n bendant ddim yn barod i weld y Crysau Cochion yn gadael y gystadleuaeth yn gynnar a chael eu trechu gan y Wallabies.
“Dwi’n gorfod byw efo nhw, ac maen nhw’n gallu bod yn reit geg fawr pan mae’n dod i chwaraeon!” meddai.
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023
- Cyhoeddwyd23 Medi 2023
O siarad gyda chefnogwyr y ddau dîm yn Lyon cyn yr ornest hollbwysig, mae’r rhan fwyaf yn sicr yn hyderus yng ngobeithion eu tîm eu hunain.
Ond yn ôl Bryn, dyna oedd agwedd yr Awstraliaid pan aeth i Gwpan y Byd Japan yn 2019 hefyd – a Chymru oedd yn fuddugol y tro hwnnw.
“Roeddan nhw’n reit hyderus yn meddwl ‘sa nhw’n rhoi stid i Gymru, ond ‘naethon ni guro nhw mewn gêm dynn iawn yn fanna,” meddai.
“Dwi’n meddwl fydd ddydd Sul yn eitha’ tebyg. Dwi yn nerfus, ond dwi’n meddwl neith Cymru guro.”
Mae ei dad Keith hefyd yn dweud ei fod yn “lot mwy hyderus” am obeithion Cymru ar ôl y fuddugoliaeth agoriadol yn erbyn Fiji.
“Ar ôl gweld pa mor wael oedd Awstralia yn erbyn Fiji, sbio ‘nôl a chymharu’r ddwy gêm, naethon ni chwarae’n dda iawn – felly dwi’n reit hyderus,” meddai.
'Bachgen Brynaman yn arwain'
Cymro arall sydd wedi teithio o’r Dwyrain Pell i gefnogi’r tîm yn Ffrainc yw John Gwyn Jones, sy’n enedigol o Frynaman Uchaf yn Sir Gâr ond bellach yn byw yn Penang, Malaysia.
“Mae’n mynd i fod yn gêm glos,” meddai.
“Dyw Awstralia ddim yn dîm da ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, bydd Eddie Jones mas os gollan nhw fory.
“Dwi’n credu bod tîm da iawn ‘da ni, chwaraeodd y bois yn dda yn erbyn Fiji... ac wrth gwrs, Jac Morgan, bachgen Brynaman, sy’n arwain [fel capten].”
Nid pawb sydd wedi teithio mor bell i gyrraedd Lyon – ond fe gafodd Aelwyd Hafodwenog siwrne ddigon hir gan deithio am bron i 24 awr ar fws i gyrraedd y ddinas.
Bydd y côr yn perfformio yn y parth cefnogwyr ac mewn digwyddiadau eraill dros y penwythnos, ar ôl cael eu dewis i gynrychioli Cymru yn dilyn eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
“Roedd hwnna’n newyddion cyffrous iawn, o’dd neb wedi gweld e’n dod,” meddai Hannah Richards o Sanclêr, un o’r aelodau.
“Mae’n brofiad arbennig ac mae pawb mor gyffrous.”
Mae’r côr wedi dod â 200 o daflenni gyda nhw sy’n cynnwys geiriau emynau adnabyddus, er mwyn eu dosbarthu i’r cefnogwyr sydd yn agos iddyn nhw yn y stadiwm ac annog mwy o ganu.
“Pan fyddwn ni’n canu caneuon maen nhw’n adnabod – Calon Lân, Cwm Rhondda, I Bob Un Sy’n Ffyddlon – byddwch chi’n ‘nabod y dôn, ond ambell waith so chi’n gwybod y penillion i gyd,” meddai Lleucu Phillips.
“Felly byddan nhw ‘na i ni roi mas i bawb, a bydd pawb yn gallu ymuno gyda ni fel maen nhw mo'yn.
“Ni ‘ma i ddangos y gorau o Gymru drwy ganu, dawnsio a bod yn rhan o’r ŵyl. Mae cael yr anrhydedd i fod yma’n rhywbeth sbesial mae’n siŵr byddwn ni i gyd yn cofio am byth.”
Beth sydd ei angen ar Gymru?
Gyda Chymru wedi trechu Fiji, a’r ynyswyr wedyn wedi curo Awstralia, mae’n agos ar frig Grŵp C.
Os yw Cymru’n ennill fe fyddan nhw drwyddo i’r chwarteri gyda gêm yn sbâr, i wynebu un o dimau’r grŵp sy’n cynnwys Lloegr, Yr Ariannin a Japan.
Os yw’n gorffen yn gyfartal gydag Awstralia, bydd Cymru dal yn saff o le yn y rownd nesaf os ydyn nhw’n osgoi colli'n erbyn Georgia ymhen pythefnos.
Os yw Cymru’n colli gyda phwynt bonws, fe fydd yn rhaid iddyn nhw guro Georgia gyda phwynt bonws er mwyn mynd drwyddo.
Os yw Cymru’n colli i Awstralia o dros saith pwynt, neu bod Awstralia’n ennill gyda phwynt bonws, yna bydd hi allan o ddwylo tîm Warren Gatland.
Bydden nhw fwy na thebyg yn gorfod cael buddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn Georgia, a gobeithio bod Awstralia neu Fiji ddim yn casglu pwyntiau llawn yn eu gemau nhw sy’n weddill.
Fydd dim angen y mathemateg cymhleth fodd bynnag os ydy Cymru’n ennill “gêm bwysica’r grŵp”, fel mae Iwan Parry o Glwb Rygbi Llangefni yn ei ragweld.
“Dwi’n sicr bod ni’n mynd i gael drwadd,” meddai. “Dwi’n meddwl ‘nawn ni guro [Awstralia] o chwe phwynt.
“‘Swn i’n licio chwarae’r Saeson [yn y chwarteri] i gael d'eud bod ni ‘di cnocio nhw allan, ond hefyd dwi’n meddwl ‘sa well gen i chwarae Argentina i gael drwyddo i’r semis.”
'Dw i'n gweld Cymru'n curo'
Mae ei ffrind Sion Rhys Williams yn poeni y bydd hi’n “gêm lot rhy agos”.
“Mae Awstralia angen profi o lle maen nhw’n dod, a be’ maen nhw’n sefyll am, ac mae Cymru angen gwneud yr union yr un peth,” meddai.
“Ond eto dwi yn gweld Cymru’n curo, a dwi’n gobeithio fyddan nhw.”
Mae’n edrych ymlaen hefyd at weld y frwydr rhwng y ddau brif hyfforddwr, Warren Gatland ac Eddie Jones – gyda Jones, wrth gwrs, yn arfer rheoli tîm Lloegr.
“Mae ‘na bach o banter ‘di bod rhwng y ddau yn y Chwe Gwlad dros y blynyddoedd, a dwi’n gobeithio gweld ni’n curo Eddie eto, achos ‘di o’m yn rhywun dwi’n licio i ddeud y gwir,” meddai Sion.
“Ond Gatland, dwi’n licio fo, felly gobeithio gawn ni one up eto.”