Penodi Gwern ap Rhisiart yn bennaeth addysg Gwynedd

Gwern ap RhisiartFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwern ap Rhisiart wedi bod yn gweithio i adran Addysg y Cyngor ers 8 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi Gwern ap Rhisiart yn bennaeth addysg newydd y sir.

Mae wedi gweithio i'r cyngor 2015 ac ar hyn o bryd yn bennaeth cynorthwyol yn yr Adran Addysg.

Bu’n ddirprwy bennaeth yn Ysgol Dyffryn Nantlle a chyn hynny yn bennaeth Ysgol Coed Menai, Bangor.

Mae’n olynu Garem Jackson, a adawodd ei swydd ym mis Medi oherwydd rhesymau personol wedi degawd yn gweithio i’r cyngor.

'Cyfoeth o brofiad addysgu ac arwain'

Yn enedigol o ardal Llwyndyrys, mae Mr ap Rhisiart yn gyn-ddisgybl Ysgol Bro Plenydd y Ffor, Ysgol Glan-y-Môr a Choleg Meirion Dwyfor Pwllheli, a bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd ei fod yn teimlo’n freintiedig o gael ei ddewis i arwain yr adran addysg.

“Edrychaf ymlaen at weithio â thîm talentog o athrawon a phenaethiaid, swyddogion addysg a llywodraethwyr i helpu plant a phobl ifanc ym mhob rhan o’r sir ac o bob cefndir i ffynnu," meddai.

Ychwanegodd y Cynghorydd Beca Brown, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros addysg, ei bod yn falch iawn eu bod wedi “penodi unigolyn disglair iawn i’r swydd allweddol hon".

“Mae Gwern yn dod a chyfoeth o brofiad addysgu ac arwain gydag o i’r rôl.”

Pynciau cysylltiedig