Lansio llyfr cyntaf cynllun i roi 'llais' i leiafrifoedd
- Cyhoeddwyd
Mae llyfr newydd wedi ei gyhoeddi fel rhan o gynllun i "roi llais a llwyfan" i straeon am leiafrifoedd.
Mae ‘Mam-gu, Mali a Mbuya’ gan yr awdur newydd, Theresa Mgadzah Jones, wedi ei lansio o dan gynllun ‘AwDUra’ Mudiad Meithrin.
Bwriad y cynllun a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2022, ydy annog lleisiau Cymraeg o blith cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill i ysgrifennu straeon i blant cymuned y Mudiad Meithrin a thu hwnt.
Mae dau enw mawr o fyd sgwennu a chyhoeddi Cymru – Jessica Dunrod a Manon Steffan Ros - yn cydweithio â’r Mudiad Meithrin ar y cynllun ac yn mentora’r 10 ymgeisydd llwyddiannus.
'Mam-gu, Mali a Mbuya’ yw'r cyntaf yn y gyfres, ac fe fydd yn cael ei ddosbarthu i bob cylch meithrin a meithrinfa.
Dywedodd yr awdur Theresa Mgadzah Jones bod y "llyfr am ferch ifanc o'r enw Mali a'i dwy nain, un o Gymru a'r llall o Zimbabwe".
Mae Mali yn byw yng Nghaerdydd gyda'i mam a'i thad, a'r stori am deulu cymysg.
Mae Theresa Mgadzah Jones yn falch iawn o'r llyfr am ei fod "am deulu multi cultural, mae'n deimlad ardderchog i gael y gefnogaeth".
"Rwy'n fam a nain Zimbabwean 61 oed sy'n byw yng Nghaerdydd", meddai.
"Ar hyn o bryd rwy'n gweithio i elusen ddyngarol. Cyn-athrawes ysgol ydw i ond yn edrych ymlaen at ymddeol ym mis Rhagfyr a chael amser i ddilyn hobïau newydd yn ogystal â helpu i ofalu am fy ŵyr."
Dywedodd prif weithredwr y Mudiad Meithrin, Dr Gwenllian Lansdown Davies:
"Yn ei hanfod rydyn ni yn ceisio rhoi llais a llwyfan a chynrychiolaeth i bob math o straeon fel bod plant bach o gefndiroedd amrywiol yn gweld eu hunain yn y straeon sydd ar y silffoedd llyfrau, boed hynny yn y cylch meithrin neu yn yr ysgol."
Hanfod AwDUra fel cynllun oedd mentora a rhoi anogaeth a chefnogaeth i awduron du, Asiaidd ac o gefndiroedd lleiafrifol ethnig i ddechrau creu a chynhyrchu straeon yn y Gymraeg.
Ychwanegodd Dr Lansdown Davies: "Yr hyn yr oedden ni fel mudiad yn ei weld oedd bod yna ddiffyg o safbwynt y straeon a oedd yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg a bod angen i ni ddechrau llenwi'r bwlch.
"Megis dechrau ydan ni mewn gwirionedd achos dydy calon llenyddiaeth Gymraeg i blant ddim mor gynrychioladol ac y dylai fod, ac felly mae yn fraint dathlu'r ffaith ein bod ni yn lansio'r llyfr cyntaf yn y gyfres."
Ond dywedodd nad proses syml oedd cyhoeddi: "Dydy hwn ddim yn waith sy'n gallu cael ei gwblhau dros nos, mi roedd hi'n broses hir ar ôl i ni benderfynu ar y straeon a fyddai'n cael eu cyhoeddi dan fantell cynllun AwDUra.
"Rydyn ni hefyd wedi glynu at amserlen dynn iawn fel ein bod ni yn gallu cyhoeddi'r llyfr."
Fe fydd pob cylch meithrin a phob meithrinfa yn cael copi yn rhad ac am ddim, ac fe fydd y llyfr hefyd ar werth i'r cyhoedd.