Lluniau: Dydd Mercher yn Sioe Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae Sioe Môn yn un o'r gwyliau amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gan ddenu miloedd i Faes Sioe Mona dros ddau ddiwrnod.

Eleni roedd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar 15-16 Awst. Yno ar ran Cymru Fyw oedd y ffotograffydd Arwyn Roberts (Arwyn Herald).

Dyma luniau dydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Huw Jones o Bow Street, Aberystwyth a phencampwr gwartheg Charolais y sioe

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Tywydd hufen iâ i'r llywydd, Y Fonesig Gwen Williams a'i merched Lowri a Ffion

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Greta Stuart o Rosgoch, Amlwch a'i blodau buddugol

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

R.T. Thomas o Bencader, Ceredigion gyda phencampwr gwartheg yr Ucheldir

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Lle pigog iawn oedd yr adran flodau heddiw! Brenda Williams o Lanfair Pwllgwyngyll ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth arddangos yn yr adran flodau

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Pencampwr y teirw Limousin gyda'i feistr, Tecwyn Jones o Lantrisant

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Bzzz...Jenny a Wally Shaw o Ddwyran, Ynys Môn oedd enillwyr yr arddangosfa orau yn yr adran fêl

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Y gystadleuaeth gneifio yn mynd rhagddi

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Amser cinio! Ac yno gyda llond bol o gig eidion Cymreig i bawb oedd fferm Hafod Y Maidd o Gorwen

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Jones o Abergele gyda phencampwr defaid Balwen y sioe

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y wobr gyntaf am yr wyau gorau yn mynd i Tania Jones o Fynydd Machell

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Tom Wyn Daives o Lanfachell gyda phencampwr defaid Lleyn

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Nionod anferthol Chris Topps o Aberffraw! Chris oedd yr enillydd gorau yn y babell gynnyrch

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Emily Padock o Stradford a'i phencampwr yn adran y moch

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y wobr am y stondin fwyaf addawol yn y sioe eleni i Wernvet

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Aeth teitl y bugail ifanc yn adran y gwartheg i Sophie Lewis o'r Trallwng

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Thomas o Rosneigr yn edrych yn hapus, braf ar ben ei bencampwr yn adran yr 'Handy Pony'

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod da i Melfyn Williams o Frynsiencyn gyda'i ddafad North Country Cheviot yn cipio gwobr y pencampwr a phencampwr y pencampwyr