Lluniau hanesyddol i ddathlu 120 mlynedd o'r Sioe Fawr

Y beirniad go iawn... llun o1968 gan Geoff Charles
- Cyhoeddwyd
Wrth i’r Sioe Fawr ddathlu 120 mlynedd eleni, mae’r lluniau yma’n brawf o’r newidiadau dros y degawdau - ac yn dangos bod hanfod y sioe wedi aros yr un fath.
Maen nhw’n rhan o arddangosfa o luniau sydd yng nghasgliad Y Llyfrgell Genedlaethol a’r rhan fwyaf yn waith dau ffotograffydd dogfennol, Geoff Charles ac Arvid Parry-Jones.
Daw nifer o’r cyfnod cyn i Sioe Frenhinol Cymru setlo ar gartref sefydlog yn Llanelwedd yn 1963.
Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth - y dref lle cynhaliwyd y Sioe gyntaf yn 1904 - tan 24 Awst.

Llun Geoff Charles o ddynes yn gwneud menyn yn Sioe Frenhinol Cymru pan oedd yng Nghaernarfon ychydig fisoedd cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd yn 1939

Fe wnaeth y sioe ymweld â Machynlleth ym mlwyddyn y Jiwbilî yn 1954 (llun Geoff Charles)

Gofaint yn dangos ei grefft yn y llun yma gan Geoff Charles o'r Sioe yn Hwlffordd, 1955

Un arall o'r Sioe yn Hwlffordd, 1955, gan Geoff Charles

Llifogydd ar gae y Sioe pan gafodd ei gynnal yn Aberystwyth yn 1957 (ffotograffydd anhysbys)

Canolfan fwydo argyfwng Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol y Merched ym Mangor 1958 (ffotograffydd anhysbys)

Trafnidiaeth o amgylch y Sioe pan oedd yn ymweld â Phort Talbot yn 1959 (llun gan Geoff Charles)

Gwartheg Henffordd yn 1963, gan Geoff Charles

Golygfa gyffredin yn y Sioe bob blwyddyn - gwylio'r cneifio. Fe gafodd y llun yma ei dynnu gan Geoff Charles yn 1963

Tîm Tynnu Rhaff Pontshan, 1968, gan Geoff Charles

Digon o fwyd a diod yn y Sioe. Llun Geoff Charles o 1976

Y dyn tu cefn i'r lens... y ffotograffydd Geoff Charles yn 1955

Llun Arvid Parry-Jones o un o'r cystadleuwyr yn y Pafiliwn Ffwr a Phlu yn 1990

Y Tywysog Charles yn ymweld â'r Sioe yn 1995. Llun gan Arvid Parry-Jones

Rod Rees o Landysul gyda Horeb Euros. Llun wedi ei dynnu yn 1996 gan Arvid Parry-Jones

Moch bach a'u mam yn 1996 gan Arvid Parry-Jones

Miss Royal Welsh Nicola Davies a'i chriw yn 1996 (Arvid Parry-Jones)

Yr eisteddfa yn llawn i weld y ceffylau yn y Prif Gylch yn 1997 - fel pob blwyddyn (llun Arvid Parry-Jones)

Tro'r gwartheg yn y Prif Gylch - y llun yma hefyd o 1997 gan Arvid Parry-Jones

Y ffotograffydd Arvid Parry-Jones yn 1990
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd7 Mai 2024