Euro 2025 yn y fantol wrth i Gymru deithio i Iwerddon

Disgrifiad,

Mae'r capten Angharad James wedi dweud y byddai cyrraedd Euro 2025 yn "golygu popeth" i'r garfan

  • Cyhoeddwyd

Bydd tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru yn herio Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn nos Fawrth, gyda lle yn Euro 2025 yn y fantol.

1-1 yw'r sgôr wedi'r cymal cyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener - a welodd y dorf fwyaf erioed yn gwylio gêm gartref merched Cymru.

Mae gobeithion y ddwy wlad o gyrraedd Euro 2025 yn y Swistir yn parhau felly, cyn yr ail gymal.

Hwn fyddai'r tro cyntaf erioed i dîm merched Cymru gyrraedd un o'r pencampwriaethau mawr.

Ond mae'r Gwyddelod hefyd yn gobeithio creu hanes trwy gyrraedd rowndiau terfynol yr Euros am y tro cyntaf.

Fe fydd 30 munud o amser ychwanegol os ydy hi'n parhau'n gyfartal wedi 90 munud arall, a bydd ciciau o'r smotyn ar ôl hynny os nad oes modd gwahanu'r ddau dîm.

Disgrifiad,

Gwyliwch y goliau o'r cymal cyntaf rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon

Mae'r gêm yng Nghaerdydd wedi dangos bod y ddau dîm yn gyfartal iawn.

Lily Woodham roddodd Cymru ar y blaen, cyn i gôl anlwcus y golwr Oliva Clark i'w rhwyd ei hun ei gwneud hi'n gyfartal.

Wedi'r cymal cyntaf, dywedodd ymosodwr Cymru, Carrie Jones, eu bod nhw’n “rhwystredig” i beidio ag ennill yng Nghaerdydd.

Ond ychwanegodd y byddan nhw'n “llawn hyder” yn mynd i'r ail gymal, yn enwedig ar ôl iddyn nhw ennill o 0-2 mewn gêm gyfeillgar yn Nulyn yn gynharach eleni.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhian Wilkinson yn gobeithio arwain Cymru i un o'r brif bencampwriaethau am y tro cyntaf yn eu hanes

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun dywedodd y capten Angharad James mai dyma'r gêm fwyaf y mae'r chwaraewyr wedi bod yn rhan ohoni yn eu gyrfaoedd, ac y byddai cyrraedd Euro 2025 yn “golygu popeth” i’r garfan.

Wedi'r cymal cyntaf dywedodd James fod Gweriniaeth Iwerddon "wedi gweld dim byd eto" o ran gallu Cymru.

Mae hi'n teimlo mai dim ond gwella fydd perfformiad Cymru yn yr ail gymal yn Nulyn.

"Roedd hi wastad am fod yn frwydr. Mae'n gêm ddarbi ac mae hynny'n golygu lot i'r ddau dîm," meddai.

"Fel grŵp, ni'n gwybod ni'n gallu bod yn well. Doedd hwnna [y cymal cyntaf] ddim ein perfformiad gorau o bell ffordd, ond mae 'na bwysau ar y gemau hyn.

"Ni'n gwybod y byddwn ni'n well ar gyfer dydd Mawrth. Mae gyda ni lot i weithio arno, a dydyn nhw wedi gweld dim byd eto."