Wynne Evans yn cadarnhau ei fod yn gadael BBC Cymru

Wynne EvansFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wynne Evans yn dweud nad yw'r BBC wedi cynnig cytundeb newydd iddo

  • Cyhoeddwyd

Mae Wynne Evans wedi cyhoeddi na fydd yn dychwelyd i gyflwyno ei raglen ar BBC Radio Wales, gan ddweud fod y gorfforaeth wedi dewis peidio cynnig cytundeb newydd iddo.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol brynhawn Gwener, dywedodd ei fod yn bwriadu lansio rhaglen newydd ar-lein - The Wynne Evans Show.

Fe wnaeth Mr Evans gamu'n ôl o'i raglen radio ar ddechrau'r flwyddyn yn dilyn ffrae am sylw "amhriodol ac annerbyniol" yn ystod lansiad taith fyw Strictly Come Dancing.

Fe wnaeth y canwr opera ymddiheuro "o waelod calon am unrhyw boen" iddo ei achosi, cyn awgrymu yn ddiweddarach nad oedd "wedi gwneud unrhyw beth o'i le".

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Nid oes gan Wynne Evans gytundeb gyda'r BBC. Ni fydd yn dychwelyd i'r rhaglen foreol ar BBC Radio Wales a does dim cynlluniau i weithio ag ef ar hyn o bryd."

'Mae'n torri fy nghalon'

Yn ei ddatganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Evans: "O waelod fy nghalon, diolch yn fawr i fy Wynners annwyl.

"Dros y misoedd diwethaf eich cariad chi oedd y golau yn y cyfnodau tywyll - mae pob neges a phob gair o gefnogaeth wedi fy nghynnal.

"...Mae'n torri fy nghalon i orfod dweud bod y BBC wedi dewis peidio cynnig cytundeb newydd i mi, felly ni fyddaf yn dychwelyd i gyflwyno fy rhaglen radio.

"Dwi'n siomedig iawn am hynny. Roedd y rhaglen honno yn fwy na gwaith, roedd yn gartref."

Ychwanegodd ei fod yn bwriadu cyflwyno rhaglen fyw ddyddiol newydd ar-lein.

"Dyma ein hantur nesaf a dwi eich angen chi fwy nag erioed," meddai.

"Rydw i'n llawn nerfau, llawn gobaith a llawn cariad."

Wynne EvansFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffrae yn deillio o ddigwyddiad yn ystod taith fyw Strictly Come Dancing

Daeth y mater i lygaid y cyhoedd ar ôl i ohebydd o'r Mail on Sunday recordio Mr Evans yn gwneud sylw yn ystod sioe taith Strictly yn y Birmingham Arena.

Roedd y cyflwynydd ac eraill yn paratoi ar gyfer llun ar y llwyfan ar y pryd.

Dywedodd Mr Evans mewn datganiad ar y pryd fod ei "iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol, ac rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant am hynny".

Fe wnaeth y darlledwr, oedd yn gystadleuydd Strictly yn 2024, ddweud ei fod wedi cytuno gyda'r BBC i gamu'n ôl o'i raglen ar Radio Wales fis Ionawr, ac o weddill taith Strictly, er mwyn rhoi blaenoriaeth i'w les.

Pynciau cysylltiedig