Wynne Evans: Dwi ddim wedi gwneud unrhyw beth o'i le

Fe wnaeth Wynne Evans gamu'n ôl o'i raglen radio a thaith Strictly ddechrau'r flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwynydd y BBC, Wynne Evans, wedi dweud nad yw "wedi gwneud unrhyw beth o'i le" yn dilyn ffrae am sylw "amhriodol ac annerbyniol" yn ystod lansiad taith fyw Strictly Come Dancing.
Daw ar ôl iddo ymddiheuro am wneud y sylw yn ystod lansiad taith Strictly Come Dancing ddechrau'r flwyddyn.
Dyma'r datganiad cyntaf ar ei dudalen Facebook am y sefyllfa ers mis Ionawr, ac mae'n honni bod y "sain wedi ei drin" ac nad oedd wedi "dweud beth maen nhw'n honni".
Fe wnaeth gohebydd o'r Mail on Sunday recordio Mr Evans yn gwneud y sylw yn y Birmingham Arena wrth iddo ef ac eraill baratoi ar gyfer llun ar y llwyfan.
Mae'r Mail on Sunday wedi cael cais am eu hymateb i'r honiad.
'Diolch am eich cefnogaeth'
Ar y pryd, fe wnaeth y darlledwr, oedd yn gystadleuydd Strictly llynedd, ddweud ei fod wedi cytuno gyda'r BBC i gamu'n ôl o'i raglen ar Radio Wales fis Ionawr, ac o weddill y daith, er mwyn rhoi blaenoriaeth i'w les.
Mewn neges ar ei gyfrif Facebook ddydd Iau, dywedodd: "Diolch i bawb am eich cefnogaeth, dwi'n addo i chi dwi ddim wedi gwneud unrhyw beth o'i le."
"Mae wedi ei drin (manipulate) ac mae naratif y sgyrsiau preifat wedi ei newid gan y wasg."
Dywedodd hefyd bod y "miloedd o negeseuon" y mae wedi eu derbyn wedi ei gynnal yn ystod y cyfnod.
Mewn sylw pellach wrth ymateb i sylwad ar y neges ynghylch y recordiad, ychwanegodd bod y "sain wedi ei drin. Wnes i ddim dweud beth maen nhw'n honni".
Mae'r BBC wedi cael cais am sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd27 Ionawr