Wynne Evans yn ymddiheuro am sylw 'amhriodol ac annerbyniol'

Wynne EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd fy iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol, ac rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant," medd Wynne Evans

  • Cyhoeddwyd

Mae'r canwr opera o Gymru, Wynne Evans, wedi ymddiheuro am wneud yr hyn a ddisgrifiodd fel sylw "amhriodol ac annerbyniol" i'w gyd-sêr yn ystod lansiad taith fyw Strictly Come Dancing yn gynharach y mis hwn.

Fe wnaeth gohebydd o'r Mail on Sunday recordio Mr Evans, 52, yn gwneud y sylw yn y Birmingham Arena wrth iddo ef ac eraill baratoi ar gyfer llun ar y llwyfan.

"Roedd fy iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol, ac rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant am hynny," meddai Wynne Evans wrth y BBC mewn datganiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Strictly Live Tour a BBC Studios: "Rydym wedi ei gwneud yn glir iawn i Wynne nad ydym yn goddef ymddygiad o'r fath ar y daith."

"Nid oeddem yn ymwybodol o'r sylw o'r blaen ac ni chawsom unrhyw gwynion," ychwanegodd y llefarydd.

Dywedodd BBC Cymru eu bod nhw'n "cefnogi datganiad BBC Studios ac nad ydyn nhw'n goddef ymddygiad annerbyniol".

Wynne Evans a'i bartner dawnsio Katya Jones yn ystod cyfres y llynedd
Disgrifiad o’r llun,

Wynne Evans a'i bartner dawnsio Katya Jones yn ystod cyfres y llynedd

Roedd Wynne Evans yn un o'r sêr oedd yn cystadlu yn y gyfres ddiweddaraf o Strictly Come Dancing - a hynny gyda'i bartner dawnsio Katya Jones.

Mae bellach yn rhan o daith fyw y gyfres ledled y DU, gyda'r olaf o'r 30 perfformiad wedi'i drefnu ar gyfer 9 Chwefror.

Ni wnaeth Mr Evans, sy'n cyflwyno rhaglen ar BBC Radio Wales, ddawnsio yn ystod y sioe ddydd Sadwrn yn Glasgow oherwydd anaf i'w bigwrn ond fe wnaeth e ganu.

Dywedodd mewn fideo ar Instagram ei fod yn gobeithio dychwelyd i ddawnsio nos Sul.

Fe gafodd ymddygiad Mr Evans yn ystod y gyfres sylw yn y wasg wedi'r hyn a oedd yn cael ei ddisgrifio fel "digwyddiadau lletchwith".

Roedd hyn yn cynnwys Katya Jones yn ymddangos fel petai'n gwrthod high-five gan Wynne Evans a symud ei law o'i chanol yn ystod rhaglen ym mis Hydref.

Dywedodd y ddau yn ddiweddarach fod y foment high-five yn "jôc barhaol" rhyngddynt ac ychwanegodd Katya Jones nad oedd cael llaw Wynne Evans o'i chwmpas yn ei sarhau mewn unrhyw ffordd.

Gadawodd y dawnswyr proffesiynol Giovanni Pernice a Graziano Di Prima y sioe y llynedd wedi honiadau am eu hymddygiad tuag at eu partneriaid dawns.

Ymddiheurodd y BBC i'r actores Amanda Abbington am ymddygiad Mr Pernice yn ystod cyfres 2023 wedi iddyn nhw gadarnhau bod sail i'w chwynion am fwlio ac aflonyddu geiriol.

Cyhoeddodd y BBC fesurau lles newydd ar gyfer Strictly fis Gorffennaf diwethaf - maen nhw bellach yn sicrhau bod hebryngwyr ym mhob ystafell ymarfer, mae yna ddau gynhyrchydd lles newydd ac maen nhw wedi darparu hyfforddiant ychwanegol i'r dawnswyr proffesiynol, y tîm cynhyrchu a'r criw.

Y digrifwr Chris McCausland oedd enillydd cyfres y llynedd - cystadleuydd dall cyntaf Strictly a oedd yn dawnsio gyda'r ddawnswraig broffesiynol Dianne Buswell.

Mae Wynne Evans yn adnabyddus am ei ran yn hysbyseb Go.Compare yn 2009.

Pynciau cysylltiedig