Wynne Evans 'yn cymryd seibiant' o gyflwyno ei raglen ar Radio Wales

"Roedd fy iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol, ac rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant am hynny," meddai Wynne Evans
- Cyhoeddwyd
Mae Wynne Evans "yn cymryd seibiant" o gyflwyno ei raglen foreol ar BBC Radio Wales.
Cafodd hynny ei gadarnhau gan BBC Cymru ddydd Llun, wedi i'r darlledwr a'r canwr ymddiheuro am yr hyn y gwnaeth o ei ddisgrifio fel sylw "amhriodol ac annerbyniol" i'w gyd-sêr yn ystod lansiad taith fyw Strictly Come Dancing yn gynharach y mis hwn.
Fe wnaeth gohebydd o'r Mail on Sunday recordio Mr Evans, 52, yn gwneud y sylw yn y Birmingham Arena wrth i'r cyflwynydd ac eraill baratoi ar gyfer llun ar y llwyfan.
"Roedd fy iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol, ac rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant am hynny," meddai Wynne Evans wrth y BBC mewn datganiad.
Dyw BBC Cymru heb ddweud ai penderfyniad Wynne Evans oedd cymryd seibiant o'i raglen neu ei fod wedi cael cais i wneud hynny.
Yn y cyfamser, mae cyn-bennaeth llywodraethu BBC Cymru, Karl Davies wedi awgrymu y gallai Mr Evans fod yn destun ymchwiliad gan y BBC wedi'r digwyddiad.

"Mi allai rhywun ddadlau bod o wedi dwyn anfri ar y BBC," meddai cyn-bennaeth llywodraethu BBC Cymru Karl Davies
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Karl Davies: "Mi allai rhywun ddadlau bod o wedi dwyn anfri ar y BBC.
"Dwi ddim yn gwybod os ydy'r BBC am gosbi o am wneud hynny, ond yn sicr mae 'na le yna i ymchwilio i be sydd wedi digwydd ac i weld os oes angen i symud ymlaen i ryw fath o broses neu beidio."
Ychwanegodd Karl Davies: "Mae o ei hun [Wynne Evans] wedi cyfaddef bod o'n anaddas ac yn sicr mae o, i ddweud y lleiaf.
"Ac i feddwl fod o wedi cael ei feirniadu am bethau yn y sioe yma yn y gorffennol, mi fysa rhywun yn gobeithio mi fysa o wedi bod yn fwy doeth - ond i wneud hyn ma'n beth annoeth, yn beth gwirion a dweud y lleiaf."
Wrth ymateb i'r ffaith bod Wynne Evans yn cymryd seibiant o'i sioe, dywedodd Mr Davies: "Os mai'r BBC sydd wedi cychwyn y broses o ddisgyblu yna dyla' ni wybod be ydi hwnnw achos mae'n fater i'r cyhoedd mewn corfforaeth gyhoeddus fel y BBC.
Dywedodd llefarydd ar ran Strictly Live Tour a BBC Studios: "Rydym wedi ei gwneud yn glir iawn i Wynne nad ydym yn goddef ymddygiad o'r fath ar y daith."
Dywedodd BBC Cymru eu bod nhw'n "cefnogi datganiad BBC Studios ac nad ydyn nhw'n goddef ymddygiad annerbyniol".

"Os yw'n creu ymdeimlad o anghysur neu'n golygu nad yw rhywun yn hapus yn y gweithle, nid yw'n banter wedyn," meddai Ann Williams o Gymorth i Ferched Cymru
Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi awgrymu y gallai sylwadau Wynne Evans fod gyfystyr ag aflonyddu yn y gweithle.
Mae'r elusen wedi ymgyrchu'n ddiweddar am well ymwybyddiaeth o ymddygiad amhriodol yn y gweithle.
Dywedodd Ann Williams, sy'n gweithio i'r elusen, wrth Newyddion S4C: "Fel sefydliad, yr hyn y byddwn yn ei ofyn yw y dylai fod gan weithle mor fawr â'r BBC bolisïau cadarn yn eu lle, y dylai pobl deimlo'n ddiogel – dylai gweithleoedd fod yn fannau diogel."
"Mae'n ymddangos mewn achosion fel hyn nad yw hynny bob amser yn wir.
"Rydym yn gweld hyn fel rhywbeth sy'n gyffredin. Pobl sy'n cael eu haflonyddu yn y gweithle, weithiau mae'n cael ei ddiswyddo fel banter ond os yw'n creu ymdeimlad o anghysur neu'n golygu nad yw rhywun yn hapus yn y gweithle, nid yw'n banter wedyn."
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb y BBC a Wynne Evans i'r sylwadau diweddaraf ond heb gael ateb eto.

Wynne Evans a'i bartner dawnsio Katya Jones yn ystod cyfres y llynedd
Roedd Wynne Evans yn un o'r sêr oedd yn cystadlu yn y gyfres ddiweddaraf o Strictly Come Dancing - a hynny gyda'i bartner dawnsio Katya Jones.
Mae bellach yn rhan o daith fyw y gyfres ledled y DU, gyda'r olaf o'r 30 perfformiad wedi'i drefnu ar gyfer 9 Chwefror.
Ni wnaeth Mr Evans ddawnsio yn ystod y sioe ddydd Sadwrn yn Glasgow oherwydd anaf i'w bigwrn ond fe wnaeth o ganu.
Dywedodd mewn fideo ar Instagram ei fod yn gobeithio dychwelyd i ddawnsio nos Sul.
Fe gafodd ymddygiad Mr Evans yn ystod y gyfres sylw yn y wasg wedi'r hyn a oedd yn cael ei ddisgrifio fel "digwyddiadau lletchwith".
Roedd hyn yn cynnwys Katya Jones yn ymddangos fel petai'n gwrthod high-five gan Wynne Evans a symud ei law o'i chanol yn ystod rhaglen ym mis Hydref.
Dywedodd y ddau yn ddiweddarach fod y foment high-five yn "jôc barhaol" rhyngddynt ac ychwanegodd Katya Jones nad oedd cael llaw Wynne Evans o'i chwmpas yn ei sarhau mewn unrhyw ffordd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
- Cyhoeddwyd8 Ionawr
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024