Cyn-heddwas o Ben Llŷn 'oedd Bodyguard go iawn' Whitney Houston

David Roberts gyda Whitney HoustonFfynhonnell y llun, David Roberts/Chicago Review Press
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd David Roberts chwe blynedd yn teithio'r byd fel gwarchodwr i Whitney Houston

  • Cyhoeddwyd

"Whitney Houston, pwy ydy o?"

Dyna oedd ymateb cyntaf cyn-blismon o Ben Llŷn pan gafodd gais i fod yn warchodwr personol i un o gantorion amlycaf ei chenhedlaeth.

Aeth David Roberts ymlaen i dreulio chwe blynedd yn gwarchod y gantores wrth iddi deithio o amgylch y byd.

Mae'n credu mai fo oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y ffilm yn 1992, The Bodyguard, gyda Houston a Kevin Costner ynddi.

"Roedd yn dipyn o agoriad llygad," meddai, "o ystyried fy mod i'n dod o gymuned ffermio ym Mhen Llŷn.

"Dyna lle roeddwn i yn teithio'r byd gyda un o'r bobl enwocaf yn y byd siŵr o fod, felly roedd yn brofiad diddorol," meddai'r dyn 72 oed wrth siarad o'i gartref yn Palm Beach, Florida.

'Soffistigedig, galluog a swil'

Chwarter canrif yn ddiweddarach mae David wedi ysgrifennu llyfr am ei gyfnod gyda'r seren, a fu farw yn 2012 yn 48 oed.

Fe ymunodd David â heddlu'r RAF yn 1968 ac fe wasanaethodd yng Ngogledd Iwerddon cyn ymuno â Heddlu Gogledd Cymru yn 1972.

Yn ddiweddarach fe drosglwyddodd i Heddlu'r Met, gan gwblhau ei wasanaeth yno fel sarjant oedd yn darparu gwarchodaeth i arweinwyr byd ac unigolion arwyddocaol oedd yn dod i Brydain.

Tra'n gweithio i lysgenhadaeth America yn Llundain yn 1988 y gwnaeth gyfarfod â Houston ar ôl iddi hedfan i'r Deyrnas Unedig.

Mae'n cofio cyfarfod "merch ifanc hynod o soffistigedig, galluog a swil".

"Fe wnaeth hi greu argraff arna i," meddai.

"Roedd ei phrydferthwch yn arbennig, hyd yn oed ar ôl taith hir ar awyren o Efrog Newydd i Lundain."

Cyn ei chyfarfod, roedd ei ferch wedi ei oleuo ar yrfa'r gantores ac wedi prynu rhywfaint o'i cherddoriaeth.

"Yn amlwg roedd ganddi lais fel angel," meddai, gan ddweud fod y ddau "wedi dod ymlaen yn dda" o'r dechrau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Whitney Houston werthu dros 200 miliwn o recordiau yn rhyngwladol

Er mai tri mis oedd y swydd yn wreiddiol, cafodd gais yn ddiweddarach i fod yn gyfarwyddwr diogelwch ar gyfer ei thaith i'r Dwyrain Pell.

"Alla'i ddim dychmygu person mor uchel ei phroffil fyddai mor hawdd i edrych ar ei hôl."

Dywedodd ei bod yn treulio'r rhan fwyaf o'i hamser yn ystafell ei gwesty ar y ffôn gyda'i chariad ar y pryd, y comedïwr Eddie Murphy.

"Mae o'n berson yr un mor ddoniol ar, ac oddi ar y llwyfan, mae'n ddyn gwych, dwi'n ei hoffi," meddai.

'Barod i farw drosti'

Dywedodd iddo ddod i adnabod Houston i'r fath raddau fel nad oedd angen llawer o siarad rhyngddyn nhw pan oedden nhw allan yn gyhoeddus.

Fe fyddai Houston yn defnyddio'r enw Rachel Marron pan yn mynd i westai - sef enw'r cymeriad y byddai Houston yn ei chwarae yn y pen draw yn The Bodyguard.

Ond mae'n mynnu nad oedd popeth yn y ffilm fel ag yr oedd mewn bywyd go iawn.

Yn y ffilm roedd cymeriadau Costner a Houston yn datblygu perthynas garwriaethol, ond yn ôl David Roberts roedd o'n fwy fel "ewythr caredig" iddi.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai o wedi marw drosti mae ei ateb yn gwbl ddiamwys.

"Wrth gwrs," meddai.

"Petawn i'n gwneud fy ngwaith cartref yn anghywir, petawn i'n cael yr asesiad risg neu'r paratoi yn anghywir, yna byddwn mi fyddwn i wedi talu am hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Whitney Houston yn noson premiere The Bodyguard yn Hollywood yn 1992 gyda'i chyd-seren Kevin Costner a'i wraig Cindy Costner

Mae'n dweud bod cael golwg ar fywyd seren fyd-enwog wedi gwneud iddo holi pam bod cymaint o bobl ifanc yn ceisio cael enwogrwydd.

"Roedd o'n gwbl amlwg i mi o'r dechrau bod y lefel yna o enwogrwydd yn bris rhy fawr i'w dalu," meddai.

Dywedodd hefyd bod y blynyddoedd o ddilyn Houston ar draws y byd wedi dod "ar gost bersonol" iddo fo hefyd.

Pan ofynnwyd a oedd y gost honno yn ymwneud â'i berthnasau ei hun, dywedodd: "Byddai'n rhaid i chi ofyn i unrhyw un o fy nhair gwraig, dwi ddim yn gwbl siŵr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Whitney Houston yn 2012 yn 48 oed ar ôl boddi yn ddamweiniol yn ei gwesty o ganlyniad i effaith cymryd cocên ac afiechyd y galon

Daeth ei swydd i ben yn sydyn yn 1995.

Dywedodd iddo fod yn dyst i "ddirywiad graddol ond amlwg" Houston yn ystod ei naw mis olaf gyda hi.

Yn ôl David Roberts wnaeth o erioed ei gweld gydag offer cyffuriau, ond iddo weld y seren mewn gwewyr yn gyson.

Dywedodd bod yna broblem oedd angen mynd i'r afael â hi, nid dim ond gan ei theulu a'i ffrindiau, ond y penaethiaid oedd yn gwneud "miliynau wrth ei hecsploetio hi", meddai.

"Ond y farn gyffredinol ar y pryd oedd na allai Houston fynd i rehab oherwydd y byddai hynny yn niweidiol i'w henw da a'i gyrfa."

Dywedodd iddo godi pryderon, ac i hynny yn y pen draw ddod â'i gyfnod gyda hi i ben.

'Lle mae'r bywyd normal?'

Yn 2021, yn 48 oed, bu farw Houston yn ei hystafell yng ngwesty Beverly Hilton, a hynny o ganlyniad i foddi damweiniol oherwydd effaith defnyddio cocên ac afiechyd y galon.

"Roedd hynny'n brifo, roedd o'n ofnadwy," meddai David.

"Rydach chi'n dod dros y sioc, ond yna mae 'na ddicter gan nad fel 'na y dylai pethau fod wedi bod."

Mae'n dweud iddo ysgrifennu ei lyfr, Whitney: The Memoir of Her Bodyguard, i gael gwared ar y dicter mae o wedi ei deimlo ers marwolaeth Houston.

"Mae'r diwydiant adloniant yn fwystfil. Mae'r disgwyliadau yn afrealistig," meddai.

"'Dach chi'n cymryd merch 20 oed, ei gwneud hi'n enwog, mae yna ofynion, mae'n rhaid cynhyrchu 10 albwm yn y pum mlynedd nesa - ond lle mae'r bywyd normal? Does dim amser i hynny.

"Rydach chi'n rhan o beiriant gwneud arian, a dyna be' oedd hi."