Asesiad iechyd i bawb yng Nghrymych wedi marwolaeth chwaraewr

Marc BeasleyFfynhonnell y llun, Cefin Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llun hwn ar y cae rygbi yn nodweddiadol o Marc Beasley, medd ei gyfeillion yng Nghlwb Rygbi Crymych

  • Cyhoeddwyd

Roedd marwolaeth chwaraewr rygbi o Grymych, Sir Benfro ym Mawrth 2024 yn ergyd anferth i'w deulu, ac yn sioc i'r gymuned gyfan.

Bu farw Marc Beasley, 37, yn sydyn wedi anhwylder ar ei galon, a doedd e ddim yn ymwybodol o gwbl o unrhyw salwch.

"Roedd e'n foi mor ffit - roedd e wedi 'neud yr iron man, yn rhedeg ultra marathons a noson cyn ei farwolaeth sydyn roedd e'n hyfforddi gyda Crymych," meddai Carwyn Rees, cyd-chwaraewr a ffrind.

"Mae lot o chwaraewyr yn ymddeol o'r gêm ymhell cyn yr oedran 'ma ond dim Marc - doedd dim stop arno fe. Ro'dd e wedi bod yn aelod o Glwb Rygbi Crymych ers ei ddyddiau ysgol.

"Roedd ei farwolaeth yn sioc anferth i ni gyd - pan chi'n chwarae rygbi 'da rywun chi'n dod i 'nabod nhw'n dda a ni gyd yn teimlo'r golled."

Marc BeasleyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Marc Beasley ei ddisgrifio fel cymeriad "hoffus tu hwnt"

"Roedd Marc yn biler go iawn i'n clwb - roedd yn ymroddedig, yn angerddol, ac roedd ganddo wên ar ei wyneb bob amser," ychwanegodd Carwyn wrth siarad â Cymru Fyw.

"Roedd yn ffrind i bawb, ac fe wnaeth ei golli ein bwrw i gyd."

Ddiwedd Awst cafodd gêm ei chynnal ym Mharc Lloyd Thomas yng Nghrymych er cof am Marc Beasley, ac er mwyn codi arian i roi prawf iechyd i bob chwaraewr a hyfforddwr.

Fe gododd diwrnod y gêm i gofio Marc Beasley dros £36,000Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Crymych
Disgrifiad o’r llun,

Fe gododd diwrnod y gêm i gofio Marc Beasley dros £36,000

"Er y tristwch ro'dd e'n ddiwrnod arbennig o dda a bu 50 o chwaraewyr ar y cae yn nhîm Bois Beasley gan gynrychioli aelodau presennol a chyn-aelodau'r clwb", meddai Carwyn Rees, un o'r trefnwyr.

"Roedd pob chwaraewr yn gwisgo crys glas arbennig yn symbol o amser Marc gyda'r tîm ieuenctid, wrth iddyn nhw wynebu tîm y Teirw," ychwanegodd.

Yn dilyn y gêm roedd raffl ac ocsiwn, a chodwyd dros £36,000.

Luke Freebury (chwith) yn derbyn un o'r crysau arbennig a gafodd eu creu ar gyfer y gêm goffaFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Crymych
Disgrifiad o’r llun,

Luke Freebury (chwith) yn derbyn un o'r crysau arbennig a gafodd eu creu ar gyfer y gêm goffa

"Roedd yr arian a godwyd yn anhygoel a thu hwnt i bob disgwyl," meddai Gwenan Davies, sy'n gyfrifol am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y clwb.

"Mae'r holl arian a godwyd yn dangos beth oedd Marc yn ei olygu i'r clwb ac oherwydd ein bod wedi codi cymaint o arian mae wedi bod yn bosib i roi asesiad iechyd i'r gymuned gyfan.

"Mae'r profion yn cael eu gwneud gan gwmni preifat Iechyd Teifi yng Nghastellnewydd Emlyn, a does dim yn rhaid i neb dalu dim gan bo' ni wedi llwyddo i godi cymaint o arian."

Mae'r asesiadau yn boblogaidd a phawb yn gweld pa mor bwysig yw asesiad o'r fath, ychwanegodd Gwenan Davies.

Fe ddaeth ryw 70 i'r cyntaf, dros 80 i'r ail a rhywbeth tebyg i'r drydedd sesiwn a gafodd ei chynnal ddydd Gwener.

PosterFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Crymych

"Mae'n dda gweld bod y sesiynau mor boblogaidd - ac yn barod mae rhai wedi cael eu hanfon ymlaen am brofion pellach", ychwanegodd Carwyn Rees.

"Maen nhw'n profi am lot o bethau.

"Ni ddim mo'yn i'r hyn a ddigwyddodd i Marc ddigwydd i rywun arall."

'Ffordd o gael dynion at y meddyg'

"Yr hyn ni'n 'neud yw asesu pwysedd gwaed, BMI, lefelau siwgr, cynnig ECG a cheisio gwrando a oes murmur ar y galon - yn wir ceisio darganfod clefydau na sy'n amlwg ar hyn o bryd," meddai Rhian James, rheolwraig Iechyd Teifi.

"Mae'r asesiad ond yn para rhwng pum a deg munud ac mae'n beth da bod cymaint wedi dod atom i gael eu profi.

Iechyd TeifiFfynhonnell y llun, Iechyd Teifi
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Iechyd Teifi a fu'n cynnal yr asesiadau iechyd yng Nghrymych

"Mae'n ffordd o gael pobl - dynion yn enwedig - at y meddyg. Mae sawl un wedi gweud wrthon ni nad ydyn nhw erioed wedi cael profi eu pwysedd gwaed o'r blaen a nifer ddim wedi bod yn gweld meddyg.

"Dyw oedran ddim byd i 'neud ag e - ni wedi cael un person ifanc iawn ni wedi ei anfon am brofion pellach."

Ychwanegodd Carwyn Rees bod "marwolaeth Marc wedi dangos i ni fod pobl yn gallu cerdded o gwmpas yn meddwl bo nhw'n iach ond yn aml mae 'na salwch a does neb yn gwybod".

Teyrnged i Marc Beasley

Marc BeasleyFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Crymych

Gan ei gyd-chwaraewr, y gohebydd Aled Scourfield

Rwy'n cofio cwrdd â Marc am y tro cyntaf. Noswaith wlyb, ddiflas, oedd hi yn ystod yr hydref, dan y llif oleuadau, ar Barc Lloyd Thomas.

Roeddwn i newydd symud i'r ardal yn 2007, ac wedi ymuno gyda Chlwb Rygbi Crymych i chwarae ychydig o rygbi, ond yn bwysicach i ddod i 'nabod pobl.

Roedd Marc yn un o'r rhai cyntaf i fy nghyfarch fel aelod newydd. Roedd yn gymeriad croesawgar, hoffus tu hwnt, bron yn hen ffasiwn o gwrtais.

Yn anad dim, rwy'n cofio ei ymroddiad yn y sesiynau ymarfer caled yna dan arweiniad Lyn Williams a Glyndwr Richards.

Roedd yn barod i gwrso bob pêl, ac mewn gemau, fe fyddai'n cyrraedd bob ryc yn gyntaf. Roedd yn hunlle' ac yn niwsans i faswyr y gwrthwynebwyr!

Roedd yn eithriadol o heini ac yn ofni dim, er taw un bach oedd e.

Bu hefyd yn chwarae i glwb Hendy-gwyn ar Daf am gyfnod. Ar ôl brwydr ar y cae, roedd wrth ei fodd yn cydymdeithasu, yn enwedig ar deithiau oddi cartref.

Marc BeasleyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Anodd credu ein bod ni fel ardal wedi gorfod ffarwelio gyda Marc yn frawychus o ifanc, ac yntau ond yn 37 oed. Roedd wedi cyflawni llawer yn ystod ei fywyd byr.

Bu'n aelod ffyddlon a phoblogaidd o glwb rhedeg y Narberth Nobblers, ac roedd yn cael pleser mawr wrth redeg dros ddolydd a bryniau Cymru.

Cwblhaodd sawl ras hir, ac roedd wrth ei fodd yn seiclo a nofio.

Fe gwblhaodd her aruthrol Ironman Cymru ym mis Medi 2023. Roedd y cannoedd yn ei angladd yn brawf o'i boblogrwydd a'i gymeriad ffeind.

Pynciau cysylltiedig