Sgrinio calonnau er cof am gapten clwb pêl-droed

Llun o Mikey DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mikey Davies yn 44 pan fu farw fis Awst diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn 44 oed o Ynys Môn, fu farw ar ôl ataliad ar ei galon, wedi bod yn codi arian ar gyfer digwyddiad sgrinio calonnau - y cyntaf o'i fath yn y gogledd.

Bu farw Mikey Davies, oedd yn gapten tîm pêl-droed clwb Bae Trearddur, fis Awst y llynedd.

Eglurodd ei frawd, Chris Davies eu bod nhw wedi wynebu "rhai o fisoedd fwyaf heriol ein bywyd" ond eu bod nhw'n "benderfynol o geisio codi ymwybyddiaeth a bod y drasiedi yn arwain at rywbeth positif".

Mae digwyddiad yn cael ei gynnal yng nghlwb pêl-droed Bae Trearddur y penwythnos hwn, sy'n gyfle i bobl gael eu sgrinio ar gyfer problemau posib ar eu calon.

Dechreuodd Mikey Davies gael poenau yn ei frest tra'n chwarae pêl-droed ac fe benderfynodd adael y cau a mynd adref.

Fe gafodd ei gludo'n ddiweddarach i Ysbyty Penrhos yng Nghaergybi wedi i'w gyflwr waethygu.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon, staff yr ambiwlans awyr a staff yr ysbyty, bu farw'r noson honno.

Roedd yn ŵr ac yn dad i ddau o fechgyn.

'Mwy o gwestiynau nag atebion'

Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad bod gan Mikey arrythmia ar y galon ac mai dyna achosodd ei farwolaeth.

Eglura ei frawd, Chris, bod ganddyn nhw fel teulu "fwy o gwestiynau nag atebion" a'u bod nhw'n benderfynol o helpu eraill "fel nad oedd eu teuluoedd nhw'n wynebu'r un torcalon".

"Mi wnaeth marwolaeth Mikey wneud i ni sylweddoli pa mor sydyn all problemau gyda'r galon effeithio ar bobl ifanc a pha mor bwysig ydi codi ymwybyddiaeth a helpu pobl."

Yn ôl elusen Calon Hearts UK, mae o leiaf ddeuddeg o bobl sy'n ymddangos yn iach ac yn ffit yn marw'n wythnosol yn y DU o gyflwr ar y galon doedden nhw ddim yn gwybod bod ganddyn nhw.

Mae'r elusen hefyd yn nodi bod modd darganfod a thrin y cyflyrau hynny drwy sgrinio pobl.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ei deulu, roedd Mikey Davies (ar y dde) "yn aelod allweddol o'r clwb a'r gymuned"

Cysylltodd teulu Mikey ag elusen Calon Hearts a gofyn iddyn nhw ddod i glwb Bae Trearddur.

Eglura Chris Davies bod yr ymateb yn "galonogol" ac y bydd dros 100 o bobl yn cael eu sgrinio dros y penwythnos.

"Mae sgrinio i bobl ifanc rhwng 16-25 oed yn cael ei gynnig am ddim a phobl hŷn yn cael cynnig prawf am bris rhatach o lawer.

"Fel capten y clwb ac aelod brwd trwy gydol ei fywyd, roedd pawb yn caru Mikey felly mae pobl am ddangos eu cefnogaeth i'r achos ac i'n teulu ni ar ôl digwyddiad mor drist."

Mae'r teulu hefyd wedi bod yn codi arian er cof am Mikey.

Maen nhw eisioes wedi cyfrannu £2,000 i Calon Hearts a £2,000 i'r cynllun i brynu difibrilwyr i glybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mikey Davies (chwith) yn mwynhau gyda'i deulu a'i ffrindiau

Roedd trysorydd clwb Bae Treaddur, Gwilym Owen, yn adnabod Mikey Davies fel aelod o'r clwb ond hefyd fel ffrind agos i'r teulu.

Dywedodd: "Dydy pobl ddim yn sylweddoli bod o'n broblem tan bod o'n digwydd i rywun 'da chi'n nabod.

"Galla fo ddigwydd i unrhyw un ac mae'r digwyddiad yma wedi agor llygadau lot o bobl."

Mae brawd Mikey, Chris, yn cytuno.

"Mae darganfod unrhyw gyflwr ar y galon yn gynnar yn golygu y gall rhywun fyw bywydau normal gyda thawelwch meddwl a rydyn ni'n gobeithio y bydd sgrinio yn dod yn rhywbeth sydd ar gael i bobl ifanc, yn enwedig pobl sy'n gwneud llawer o chwaraeon."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth teulu a ffrindiau Mikey Davies at ei gilydd i gynnal digwyddiad i bobl gael eu sgrinio ar gyfer problemau posib ar eu calon

Yn ôl Calon Hearts, mae'n hanfodol mewn gwledydd eraill fel yr Eidal fod pobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeuon yn rheolaidd yn cael eu sgrinio.

Mae'r ddeiseb bresennol sydd gan yr elusen yn cau ar y 25ain o Ionawr ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sgrinio calon yn hanfodol i bobl ifanc mewn campfeydd yma.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn dilyn cyngor gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ac nid ydynt yn argymell sgrinio'r galon ar hyn o bryd.

"Mae'r pwyllgor yn adolygu'r cyngor yn rheolaidd, a byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 100 o bobl wedi dod i'r digwyddiad ddydd Sadwrn

Mae Kelly Fitzpatrick Jones yn dechnegydd electrocardiogram (ECG) ers 2021 ac wedi bod yn gweithio mewn adrannau cardioleg ers 2008.

Dywedodd: "Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r hogia' sy'n dod mewn aton ni yn ifancach.

"Maen nhw'n heini ac yn gwneud chwaraeuon ond yn cwyno o 'palpitations ar y galon'.

"Os ydyn nhw'n gallu cael y sgrinio yma, mae modd i ni ffeindio'r broblem yn gynt a thrin y broblem."

Mae Kelly Fitzpatrick a'i thîm cardioleg yn nghlwb Bae Treaddur y penwythnos yma er mwyn sgrinio pobl.

Yn ôl trysorydd y clwb, Gwilym Owen, maen nhw'n edrych ymlaen i groesawu pobl yna.

Dywedodd: "Os ydan ni'n gallu helpu un person i osgoi beth ddigwyddodd i Mikey, yna mae o werth o."

Pynciau cysylltiedig