'Rhaglenni ffitrwydd byth yn teimlo'n addas, ond falle nad fi yw'r broblem'

BegwFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Begw Fussell ddiagnosis o endometriosis fis Mawrth diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae myfyrwraig meddygaeth yn dweud ei bod wedi treulio blynyddoedd yn teimlo nad oedd hi'n ddigon ffit – nes iddi ddeall nad hi oedd y broblem.

Mae Begw Fussell, sy'n dod yn wreiddiol o Glunderwen, newydd gael diagnosis o endometriosis fis Mawrth diwethaf.

Mae'n dweud nad oedd rhaglenni hyfforddi poblogaidd erioed wedi teimlo'n addas i'w chorff: "Fi 'di trio neud Couch to 5K gyment o weithie.

"O'n i'n cael gymaint o aches a pains ar ôl 'neud e ac o'n i physically methu. O'n i fel: oh my god, be' sy'n bod arna i? Ma' pob merch arall yn neud e.

"O'dd e'r un peth pan o'n i yn yr ysgol uwchradd – un wythnos bydde fi'n mynd all out, yn chwarae hoci neu netball, a wedyn yr wythnos nesa' o'n i fel 'alle ni ddim meddwl am 'neud dim byd'."

BegwFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Pan nes i ddysgu mwy am y menstrual cycle, nes i ddeall be oedd yn digwydd," meddai Begw

Ond yn ystod ei hastudiaethau gradd ym Mangor, daeth Begw i ddeall sut roedd hormonau'n chwarae rhan.

"Pan nes i ddysgu mwy am y menstrual cycle, 'nes i ddeall be' oedd yn digwydd," meddai.

"Pan fo estrogen yn uchel, ges i egni'r byd ac allen i 'neud unrhyw beth. Ond pan mae progesterone yn codi, bydde egni fi yn dipio'n llwyr.

"Dyna pryd 'nes i sylweddoli; falle nad fi yw'r broblem. Falle bod y rhaglenni ddim wedi'u creu 'efo menywod mewn golwg."

Mae ystadegau diweddar Sport Wales yn dangos bod gwahaniaeth mewn hyder dynion a menywod pan ddaw at fyd y campau.

Yn ôl yr adroddiad, mae llai o fenywod yn teimlo'n hyderus i gymryd rhan mewn ymarfer corff (54%) o'i gymharu â dynion (72%).

Dim ond 15% o fenywod sy'n rhedeg yn rheolaidd, o'i gymharu â 26% o ddynion – rhywbeth mae hyfforddwyr yn ei gysylltu â phrofiadau fel poen mislif, blinder hormonaidd a rhaglenni "un maint i bawb".

ElinFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen addasu dulliau ymarfer i fenywod, meddai Elin Evans

Mae Elin Evans, hyfforddwraig ffitrwydd ym Mangor, yn dweud bod profiadau fel un Begw yn gyffredin iawn ymysg ei chleientiaid.

"Dwi'n hollol meddwl bod yn rhaid i ni trainio genod yn hollol wahanol i sut 'da ni'n trainio dynion," meddai.

"Pan 'da ni'n really meddwl amdano fo, 'da ni'n cael pedwar phase gwahanol o'n cycle bob mis."

Dywedodd bod hynny "fel cael pedwar person gwahanol" gyda chyfnodau o "newid inconsistently".

ElinFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r syniad mai "fersiynau bach o ddynion" ydy merched yn "hollol, hollol anghywir", meddai Elin

Yn ôl Elin, mae hyfforddi menywod fel pe baent yn "fersiynau bach o ddynion" wedi arwain at nifer yn teimlo eu bod yn methu.

"Ma' perception taw oll ydyn ni ydy fersiynau bach o ddynion – a dyna sy'n hollol, hollol anghywir. Ma' rhaid i ni newid y ffyrdd da ni'n trainio pobl."

Dywedodd ei bod hi'n gweld yn ei gwaith sut gall rhai mathau o ymarfer wneud mwy o niwed i fenywod â chyflyrau hormonaidd.

"Mae gen i client efo PCOS [polycystic ovary syndrome] a ma' pethe fel HIIT neu high-intensity training really ddim yn cytuno efo hi," meddai.

"Yn naturiol ma' cortisol pobl efo PCOS yn uwch – mwy o stress, mwy o fatigue. A mae'r math yna o hyfforddi yn gwneud iddyn nhw deimlo'n waeth.

"'Da ni ddim yn gallu gwarantu progressive overload bob wythnos – a ma' disgwyl hynny yn malu menywod."

'Falle dim fi yw'r broblem'

Mae'r meddyg teulu Dr Llinos Roberts yn dweud bod y patrwm yn glir.

"Mae cylch mislif menywod yn cael effaith ar egni, poen ac adferiad," meddai.

"Mae cyflyrau fel endometriosis a PCOS yn gallu gwneud rhaglenni hyfforddi cyson yn heriol iawn.

"Dydi hyfforddiant one-size-fits-all ddim yn gweithio. Mae addasu ymarfer i wahanol adegau o'r cylch yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i gyfforddusrwydd a hyder."

I Begw, daeth newid meddwl ar ôl gweld post ar Instagram yn awgrymu ymarferion gwahanol ar gyfer gwahanol adegau o'r cylch mislif.

"Nes i weld post yn dweud: dyma'r exercises i'w neud mewn gwahanol phases," meddai.

"Ar y pwynt yna, nes i feddwl: falle dim fi yw'r broblem. Falle nid fi sy'n lazy. Falle bod y rhaglen ddim yn addas.

"Os bydde pobl chwaraeon yn edrych ar yr ochr yna o bethe, bydde menywod yn gallu cyflawni lot yn fwy – yn lle rhoi ein hunain lawr bob tro ni'n methu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig